Skip to content
Skip to navigation menu

English

Gwahanu’r rhywiau yng Nghymru

04 Mawrth 2014

 WAVE logo

Mae astudiaeth gan y Brifysgol a gyhoeddwyd heddiw (4 Mawrth) yn datgelu graddfa’r gwahanu sy’n parhau i fodoli rhwng y rhywiau mewn swyddi yng Nghymru.

Mae adroddiad o’r enw Working Patterns in Wales, a arweiniwyd gan Dr Alison Parken, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, wedi datgelu mai dim ond un o bob pum gweithiwr yng Nghymru sydd mewn galwedigaethau lle y mae cydbwysedd rhwng y rhywiau, cyfran sydd heb newid ers y 1970au.

Hefyd, mae’n amlygu bod pedwar o bob pum gweithiwr yng Nghymru mewn swyddi lle y mae rhaniad rhwng y rhywiau.

O’r 353 o alwedigaethau a restrwyd, darganfuwyd bod y naill ryw neu’r llall yn drech mewn 267 ohonynt. Dynion oedd i’w gweld yn bennaf ym mwyafrif y rolau â chyflogau uwch, tra’r oedd tâl isel a gweithio’n rhan amser yn nodweddu cyfran uchel o alwedigaethau ‘benywaidd’.

Un o’r enghreifftiau mwyaf blaenllaw o hyn yw ‘crefftau medrus’.

Darganfu’r adroddiad fod 91 y cant o’r swyddi hyn yn swyddi a wnaed gan ddynion. Er bod cyfanswm o 54 galwedigaeth yn dod o dan y pennawd hwn, darganfuwyd mai dim ond saith oedd â ‘chydbwysedd rhwng y rhywiau’ a dim ond mewn tair yr oedd menywod yn drech, sef teilwra, gwniadwaith a threfnu blodau.

Mewn cyferbyniad, dim ond 1 y cant o weithwyr adeiladu crefftus sy’n fenywod.

Meddai awdur yr adroddiad, Dr Alison Parken o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: "Er bod cyfreithiau gennym ers dros 40 mlynedd yn sicrhau tâl cyfartal ar gyfer yr un gwaith, rydym yn parhau i weld anghyfartaledd rhwng cyflogau dynion a menywod gan eu bod yn gwneud gwaith gwahanol iawn yn ôl contractau gwahanol iawn.

"Ni fydd y broblem hon yn diflannu hyd nes byddwn ni’n mynd i’r afael â phroblem gwahanu’r rhywiau ac yn cael gwared ar y cyfyngiadau y mae hyn yn ei orfodi ar y gwaith a wna menywod."

Gender segregation_web

Hefyd, mae tîm Dr Parken wedi paratoi ‘Baromedr Tâl Cyfartal’ ar-lein, a fydd yn caniatáu i weithwyr a chyflogwyr yng Nghymru gymharu cyfraddau tâl mewn 300 o alwedigaethau gwahanol. Gobeithir y bydd hyn yn annog menywod i ystyried gweithio mewn galwedigaethau sydd â thâl gwell neu geisio gwelliannau yn eu hamodau presennol.

Mae adroddiad Working Patterns in Wales yn rhan o brosiect Menywod yn Ychwanegu Gwerth at yr Economi (WAVE), sef menter dan arweiniad Prifysgol De Cymru sy’n cynnwys cyfraniadau gan Brifysgol Caerdydd a The Women’s Workshop Project @ BAWSO Ltd.

Nod WAVE yw mynd i’r afael ag arferion y gweithle a’r farchnad lafur, gyda ffocws penodol ar anghyfartaledd rhwng enillion dynion a menywod.                                             

Caiff yr adroddiad ei ryddhau i gyd-fynd â chynulliad a drefnwyd gan bartneriaeth WAVE.  Heddiw (4 Mawrth), bydd pobl fusnes, ysgolheigion, aelodau undebau llafur a phobl ddylanwadol allweddol eraill yn ymgynnull yn Abertawe i gymryd rhan yn y ‘Sgwrs Genedlaethol’ o’r enw ‘Gadewch i ni Siarad am Gyflog.’ 

Y nod yw datgelu achosion sylfaenol y bwlch rhwng tâl dynion a menywod a chynnwys cyflogwyr, gweithwyr a llunwyr polisi mewn trafodaethau ynghylch sut i sicrhau newid ym mhatrymau gweithio Cymru sy’n ymrannu’n amlwg yn ôl rhyw.

Dolenni perthynol

Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol