Skip to content
Skip to navigation menu

English

Genyn yn rhannu’r ymennydd a nerth y corff

27 Ionawr 2011

Dr Anthony IslesDr Anthony Isles

Mae gwyddonwyr y Brifysgol wedi darganfod genyn sy’n herio rheolau confensiynol, gyda’r copïau sy’n cael eu hetifeddu gan y fam a’r tad yn gweithio mewn dwy ffordd wahanol iawn.

Mae gan bob anifail ddau gopi o bob genyn: un wedi’i etifeddu gan y ddau riant. Ar gyfer y rhan fwyaf o enynnau, mae’r ddau gopi yn weithredol, ond mewn rhai genynnau, mae un copi wedi’i ddiffodd; proses o’r enw imprintio.

Canfu ymchwilwyr o Ganolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig (CNGG) yn yr Ysgol Feddygaeth fod y ddau gopi yn weithredol mewn genyn o’r enw Grb10 ond bod y copi gan y tad yn weithredol yn yr ymennydd yn unig, tra bo’r copi gan y fam yn weithredol yn holl rannau eraill y corff.

Mae’r astudiaeth, a gyhoeddwyd yn Nature, wedi dangos bod gan y ddau gopi swyddogaethau gwahanol iawn hefyd: mae’r copi gan y fam yn ymwneud â thyfiant y ffoetws, metaboledd a storio braster, tra bo’r copi gan y tad yn rheoli ymddygiad cymdeithasol mewn oedolion.

Dywedodd Dr Anthony Isles, Ysgol Feddygaeth a Seicoleg, a arweiniodd yr ymchwil: "Dyma’r enghraifft gyntaf o ble mae gan gopi o enyn ddwy swyddogaeth wahanol iawn yn dibynnu oddi wrth ba riant y mae wedi cael ei etifeddu.

"Mae’n ymddangos bod y fam a’r tad yn defnyddio strategaethau gwahanol i ddylanwadu ar eu hepil; roedd un yn canolbwyntio ar y corff a’r llall ar yr ymennydd.

"Mae genynnau wedi’u himprintio yn profi i fod yn bwysig ar gyfer llawer o agweddau ar iechyd dynol, ac maen nhw’n bwysig iawn ar gyfer swyddogaeth yr ymennydd. Dyma un genyn a allai gysylltu tyfiant yn y groth gydag iechyd corfforol ac iechyd meddwl fel ei gilydd yn ddiweddarach mewn bywyd. Mewn gwaith ymchwil yn y dyfodol, hoffem ymchwilio i sut gallai’r un genyn hwn fod wedi esblygu i gyflawni dibenion mor arbennig."

Mae’r gwaith, sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan y Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC), y Cyngor Ymchwil Feddygol a gwobr Ymddiriedolaeth Wellcome, "Gwerth mewn Pobl", yn rhoi dealltwriaeth well i wyddonwyr o sut mae genynnau sy’n ymwneud â metaboledd yn gweithio, gan fwrw goleuni ar achosion gordewdra mewn bodau dynol.

Dywedodd Dr Alastair Garfield, a wnaeth y gwaith yng Nghaerfaddon a Chaerdydd ond sydd bellach yn gweithio ym Mhrifysgol Caergrawnt: "Grb10 yw’r enghraifft gyntaf o enyn wedi’i imprintio sy’n rheoli ymddygiad cymdeithasol mewn oedolion.

"Gall tybio bod gennych bŵer dros bobl eraill yn eich grŵp cymdeithasol fod yn ymddygiad peryglus, ac mae’n ymddangos bod y genyn hwn yn cadw’r ymddygiad hwnnw dan reolaeth.

"Mae llawer o enynnau wedi’u himprintio mewn llygod ac wedi’u himprintio mewn bodau dynol yn yr un modd hefyd, felly rydym yn rhagweld y gallai Grb10 weithio mewn ffordd debyg mewn pobl."

Dolenni cyswllt: