Skip to content Skip to navigation menu
22 Chwefror 2012
Bydd celloedd solar hyblyg yn pennu safonau newydd o ran hwylustod ac arbed arian mewn systemau trosi ynni solar a byddant yn helpu i alluogi technolegau ynni adnewyddadwy i gael eu derbyn; dyna fydd arbenigwr blaenllaw yn dadlau yn y Brifysgol.
Mae’r Athro Michael Grätzel o Ecole Polytechnique Fédérale de Lausanne, y Swistir, wedi arloesi mewn ymchwil ar ynni solar. Mae wedi canolbwyntio’n benodol ar faes adweithiau trosglwyddo electronau a’u cymwysiadau mewn systemau ar gyfer casglu a throsi ynni solar. Fe wnaeth ddarganfod mathau newydd, chwyldroadol o gelloedd solar yn seiliedig ar ronynnau ocsid lled-ddargludol nanogrisialog wedi’u sensiteiddio â llifyn.
Yn ei Ddarlith Nodedig yng Nghaerdydd ar 22 Mawrth 2012, bydd yr Athro Grätzel yn olrhain datblygiad y celloedd solar hyblyg ysgafn newydd, gan dynnu sylw at eu cost isel, pa mor hawdd yw hi i’w cynhyrchu, a’r buddion eang mewn cymwysiadau masnachol.
Bydd yn dadlau y gall y celloedd solar newydd hyn helpu i drawsnewid ynni adnewyddadwy nid yn unig oherwydd ei bod hi’n hawdd eu defnyddio, ond oherwydd buddion cost cyffredinol.
Cynhelir symposiwm am Ddatblygiadau mewn Ynni Solar cyn y ddarlith. Bydd siaradwyr blaenllaw o’r Brifysgol, Coleg Imperial Llundain, Prifysgol Rhydychen a Phrifysgol Glyndŵr yn cymryd rhan ynddo, a byddant yn trin a thrafod eu gwaith arloesol yn y maes. Cewch ragor o wybodaeth yn www.caerdydd.ac.uk/dls
Bydd darlith yr Athro Grätzel yn cael ei chynnal yn Adeilad Julian Hodge, a bydd yn dechrau am 6.30pm. Cynhelir derbyniad yn gyntaf o 6.00pm. Mae lleoedd ar gael yn rhad ac am ddim a chewch gadw lle drwy anfon neges at publicbookings@caerdydd.ac.uk neu ffonio 029 2087 6935.
Mae Cyfres Darlithoedd Nodedig y Brifysgol yn dod â siaradwyr gwadd blaenllaw a dylanwadol i’r Brifysgol i arddangos eu gwaith.
Cyfres Darlithoedd Nodedig
First science star for Wales announced 17/06/2013
Study reveals disease-causing parasites in dead otters 17/06/2013
Lansiwyd hwb cymunedol iaith Gymraeg 17/06/2013
Vice Chancellor to co-chair strategic forum for university and business leaders 13/06/2013
This is an externally hosted beta service offered by Google.