Skip to content
Skip to navigation menu

English

Gwobrau Archaeolegol

15 Ionawr 2013

Archaeology Awards

Mae gwaith cloddio gan Brifysgol Caerdydd, a ddaeth o hyd i faestref Rufeinig enfawr o’r newydd yn ne Cymru, wedi’i enwebu ar gyfer gwobr fawreddeog.

Mae Dinas Goll y Llong, fel mae’n cael ei hadnabod bellach, wedi’i henwebu yng nghategori Prosiect Ymchwil y Flynyddyn yn y Gwobrau Archaeolegol Cyfredol.

Fe’i darganfyddwyd gan staff a myfyrwyr o’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ar safle’r Caer Rhufeinig yng Nghaerleon. Nid oedd archaeolegwyr yn gwybod unrhyw beth am y safle cyn hynny, ac mae’n cynnwys adeiladau mawr a chyhoeddus eu harddull. Gallai’r rhain fod yn hen safloeoedd marchnad, yn adeiladau gweinyddol, yn faddondai ac yn demlau.

Daeth tîm Caerdydd o hyd i olion porthladd 2,000 o flynyddoedd oed hefyd – dim ond yr ail y gwyddys amdani o gyfnod Rhufeinig Prydain – ar lannau Afon Wysg ychydig i’r gogledd o ddinas Casnewydd. Roedd yn cynnwys prif wal y cei, yn ogystal â llwyfannau a glanfeydd lle byddai llongau wedi docio a dadlwytho.

Mae modd pleidleisio ar gyfer y gwobrau hyd at ddydd Gwener, 15 Chwefror 2013, a chyhoeddir yr enillwyr yng nghynhadledd Archaeoleg Cyfredol yn Fyw! 2013 a gynhelir ar 1-2 Mawrth.

I bleidleisio dros Ddinas Goll y Lleng, ewch i www.archaeology.co.uk/vote.

Dolenni perthnasol

Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

Dinas Goll y Lleng

Archaeoleg Cyfredol