Skip to content
Skip to navigation menu

English

Helpu llunio Cymru yfory

05 Tachwedd 2009

Lansiwyd Sefydliad Ymchwil, Data a Dulliau Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) yn swyddogol gan Brif Weinidog Cymru yn Adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd (22 Hydref).

Prifysgol Caerdydd yw un o’r pum campws o grŵp Prifysgolion Dydd Gŵyl Dewi yng Nghymru sydd wedi dod ynghyd i ymgymryd â’r brif raglen ymchwil hon i ddod ag economegwyr a gwyddonwyr cymdeithasol ynghyd ar draws y pum campws.

Cenhadaeth Sefydliad Ymchwil, Data a Dulliau Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) yw cryfhau gallu ymchwil gwyddorau cymdeithasol ar draws Cymru trwy gydweithredu, prosiectau ar y cyd a chysylltiadau cysylltiedig â chanolfannau rhagoriaeth ar draws yr Undeb Ewropeaidd. I hwyluso hyn, mae WISERD wedi sefydlu partneriaeth gyda Chanolfan Genedlaethol Dulliau Ymchwil y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (rhwydwaith o grwpiau ymchwil, pob un ohonynt yn cynnal ymchwil a hyfforddiant yn un o feysydd dulliau ymchwil gwyddor gymdeithasol).

Mae proses o gryn newid economaidd a chymdeithasol wedi mynd law yn llaw â datganoli llywodraethau yn y DU. Mae’r newidiadau hyn wedi digwydd ar draws tiriogaeth Cymru, gan effeithio’n ddramatig ar ei thirwedd gymdeithasol a ffisegol; a chan herio’r "fytholeg genedlaethol" sy’n ymwneud â phobl Cymru, eu credoau, eu hagweddau a’u golwg.

Dywedodd yr Athro Huw Beynon, cyd-gyfarwyddwr WISERD: "Lle’r oedd ymylon cadarn i’w cael o amgylch ‘lleoedd’ Cymru ar un adeg - "meysydd glo" a "pharciau cenedlaethol" er enghraifft - mae’r ffiniau hyn wedi mynd yn fwy aneglur. Mae goblygiadau i lunwyr polisi yn yr aneglurder hwn. Mae hefyd yn effeithio ar y ffordd yr ydym yn meddwl am Gymru, ac yn codi cwestiynau ynghylch y modd gorau i gynrychioli’r wlad, ei heconomi a’i phoblogaeth yn weledol ac yn ofodol."

Dywedodd Prif Weinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhodri Morgan: "Mae WISERD yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i wella ymchwil yng Nghymru. Bydd yn gwneud hyn nid yn unig drwy sicrhau buddsoddi digonol, ond drwy ganolbwyntio hefyd ar adeiladu gallu rhagorol i reoli ymchwil yn Sefydliadau Addysg Uwch Cymru.
"Trwy dynnu arbenigedd mewn gwyddor gymdeithasol ynghyd, byddwn yn creu strategaethau ymchwil cryf, ac yn parhau i feithrin mwy o gydweithredu ar draws y sector er mwyn darparu’r raddfa, y mas critigol a’r rhagoriaeth ymchwil i Gymru i gystadlu’n fwy effeithiol gyda phrifysgolion yng ngweddill y DU. Effeithiau canlyniadol WISERD llwyddiannus fydd cyfradd lwyddo uwch ac ennill mwy o ddyfarniadau gan Gyngor Ymchwil y DU a chyrff ariannu ymchwil eraill."
Mae arbenigedd byd-enwog gan ymchwilwyr WISERD mewn dulliau cofnodi a dadansoddi newidiadau economaidd a phrofiadau bywyd bob dydd. Maent wedi bod yn ganolog i ddatblygu ffyrdd newydd o fapio Cymru a bywydau ei phobl. Byddant yn chwarae rhan hanfodol yn y blynyddoedd i ddod, gan ddylanwadu ar lunwyr polisi ac ymarferwyr wrth i Gymru fynd i mewn i gyfnod arall o newid ac ansicrwydd.

Ariennir WISERD ar y cyd gan brifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Morgannwg ac Abertawe; Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a Chyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) y DU.

Cydnabuwyd pwysigrwydd WISERD gan benderfyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i’w sefydlu fel un o Ganolfannau Ymchwil Cenedlaethol newydd Cymru.

O’r dde i’r chwith: Mae’r Athro Huw Beynon (Cyfarwyddwr WISERD) yn y llun gyda’r cyd-gyfarwyddwyr, yr Athro Martin Jones (Aberystwyth); yr Athro Amanda Coffey (Caerdydd); yr Athro Gary Higgs (Morgannwg) a’r Athro David Blackaby (Abertawe).

See more photographs from the official launch at: http://www.caerdydd.ac.uk/news/wiserd/

Tags