Skip to content
Skip to navigation menu

English

Anghydraddoldeb etifeddol yn dyddio’n ôl i Oes y Cerrig

28 Mai 2012

hereditory inequality webDechreuodd anghydraddoldeb etifeddol fwy na 7,000 o flynyddoedd yn ôl yn gynnar yn yr oes Neolithig, gyda thystiolaeth newydd yn dangos bod gan ffermwyr a gladdwyd gydag offer fynediad i dir gwell na’r rheiny a gladdwyd hebddynt.

Drwy astudio dros 300 o sgerbydau dynol o safleoedd ledled canol Ewrop, fe wnaeth tîm rhyngwladol o gydweithwyr dan arweinyddiaeth yr Athro Alasdair Whittle o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd y Brifysgol, ac a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, ddatgelu tystiolaeth o ddefnydd tir gwahaniaethol ymhlith ffermwyr cyntaf Ewrop, sef y cyfnod Neolithig.

Gyda’r gwaith yn cael ei wneud hefyd gan archaeolegwyr o Brifysgolion Bryste a Rhydychen, mae’r canfyddiadau wedi’u cyhoeddi yn y Cyfnodolyn, Proceedings of the National Academy of Sciences (PNAS).

Trwy ddadansoddi’r isotopau strontiwm o ddannedd sgerbydau, gellir awgrymu tarddiadau daearyddol unigolion. Canfu’r Athro R. Alexander Bentley (Prifysgol Bryste), a ymgymerodd â’r dadansoddiad strontiwm, fod gan ddynion wedi’u claddu â neddyfau cerrig Neolithig nodedig (offer a ddefnyddiwyd i lyfnhau neu gerfio pren, mae’n debyg wrth adeiladu’r tai hir pren mawr y mae’r diwylliant Neolithig Cynnar hwn yn enwog amdanynt) arwyddnodau isotop llai amrywiol na dynion wedi’u claddu heb neddyfau. Mae hyn yn awgrymu bod gan y rheiny a gladdwyd gyda neddyfau fynediad i dir agosach – a thir gwell mae’n debyg – na’r rheiny a gladdwyd hebddynt.

Dywedodd yr Athro Bentley: "Mae’n ymddangos bod y dynion a gladdwyd gyda neddyfau wedi byw ar fwyd wedi’i dyfu mewn ardaloedd o farianbridd, y pridd ffrwythlon a chynhyrchiol yr oedd ffermwyr cynnar yn ei ffafrio. Mae hyn yn dangos bod ganddynt fynediad cyson i ardaloedd ffermio gwell."

Datgelodd y dadansoddiad isotopau strontiwm hefyd fod menywod Neolithig cynnar yn fwy tebygol na dynion o fod wedi hanu o ardaloedd y tu allan i’r rheiny lle canfuwyd eu cyrff. Mae hwn yn arwydd cadarn o gymdogaeth y gŵr, sef system garennydd â dynion yn ganolog iddi lle bydd menywod yn symud i fyw yn lleoliad y dynion pan fyddant yn priodi.

Mae’r dystiolaeth newydd hon o’r sgerbydau yn gyson â thystiolaeth archaeolegol, genetig ac anthropolegol arall, a thystiolaeth ieithyddol hyd yn oed, o gymdogaeth y gŵr yn Ewrop yr Oes Neolithig. Mae’r canlyniadau yn cynnwys goblygiadau ar gyfer modelu genetig o’r modd yr ehangodd poblogaethau dynol yn y cyfnod Neolithig, cyfnod y gwelir yn gynyddol bod patrymau symudedd yn seiliedig ar y rhywiau, a gwahaniaethau statws, yn hollbwysig iddynt.

Dywedodd yr Athro Alasdair Whittle: "Mae ein canlyniadau’n rhoi manylder anhygoel am fywydau’r ffermwyr cynharaf hyn, ac yn ein helpu i ddeall eu ffyrdd o ailstrwythuro’u cymdeithas ar ddechrau’r cyfnod ffermio."

Gan fod y gwerth strontiwm mewn enamel dannedd yn cael ei osod mewn plentyndod, ac eto oedolion gwryw a gladdwyd gyda’r neddyfau, ymddengys fod cael eich geni i deulu â mynediad i farianbridd yn helpu dynion ifanc ennill bri.

Dywedodd Dr. Penny Bickle, yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, a fu’n gweithio ar y dystiolaeth archaeolegol ar gyfer y prosiect "Mae archaeolegwyr wedi meddwl ers tro fod y newid o hela a chasglu i ffermio wedi arwain at fwy o amrywiaeth mewn defnydd o’r dirwedd, a gallwn ddangos hyn yn glir yn awr gyda chanlyniadau’r Athro Bentley. Ymddengys fod amrywiaeth cymunedol wedi digwydd yn gynnar iawn yn y trawsnewidiad i amaethyddiaeth, ac mae’n debyg y digwyddodd drwy systemau etifeddiaeth a charennydd yn hytrach nag unigolion yn cystadlu am gyfoeth."

‘Community differentiation and kinship among Europe’s first farmers’ gan R. Alexander Bentley, Penny Bickle, Linda Fibiger, Geoff M. Nowell, Christopher W. Dale, Robert E.M. Hedges, Julie Hamilton, Joachim Wahl, Michael Francken, Gisela Grupe, Eva Lenneis, Maria Teschler-Nicola, Rose-Marie Arbogast, Daniela Hofmann ac Alasdair Whittle yn PNAS.

Dolenni cysylltiedig

Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd