Skip to content
Skip to navigation menu

English

Gallai mêl cartref frwydro yn erbyn arch-fygiau

13 Mehefin 2011

pot of honey

Mae ymchwilwyr y Brifysgol a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn apelio am gymorth i lunio proffil DNA o fêl y wlad. Gobeithiant ddefnyddio’r wybodaeth i nodi planhigion a allai frwydro yn erbyn bacteria sy’n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau, fel yr ‘arch-fyg’ MRSA. Fe allai’r prosiect mêl helpu hefyd i frwydro yn erbyn y clefydau sy’n taro gwenyn Prydain ar hyn o bryd.

Mae’n hysbys ers tro byd fod priodweddau gwrthfacterol gan fathau gwahanol o fêl, ac fe’u defnyddir mewn gorchuddion clwyfau heddiw. Mae gwahanol fathau o fêl yn gweithredu yn erbyn microbau gwahanol, gan ddibynnu ar y cemegau sydd yn y planhigion y mae gwenyn yn mynd atynt.

Nawr mae Ysgol Fferylliaeth Cymru a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, gyda chymorth y Gymdeithas Microbioleg Gymhwysol, yn gofyn i wenwynwyr ledled y wlad i anfon samplau atynt, ynghyd â rhestr o’r planhigion sy’n tyfu gerllaw eu cychod gwenyn. Bydd prawf sgrinio a ddatblygwyd yng Nghaerdydd yn cynnal prawf am weithgarwch yn erbyn dwy o’r heintiau a geir amlaf mewn ysbytai, sef y bacteria sy’n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau, MRSA, a Clostridium difficile.

Bydd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn nodi’r planhigion a gyfrannodd at y mêl mwyaf grymus, gan ddefnyddio proses proffilio DNA sy’n cael ei datblygu fel cymhwysiad o’u prosiect Cod Bar Cymru, sydd wedi mynd ati i roi cod bar DNA i blanhigion blodeuol Cymru. Bydd y tîm wedyn yn archwilio’r planhigion a ganfyddir mewn mêl am y potensial i ddatblygu cyffuriau newydd. Mae 14 o gychod gwenyn yn yr Ardd Fotaneg, ynghyd â gwenwynwr proffesiynol, Lynda Christie, a fydd yn cynnig arbenigedd allweddol i gefnogi’r prosiect hwn.

Bydd y tîm ar y cyd rhwng y Brifysgol a’r Ardd yn chwilio hefyd am fathau o fêl sy’n helpu gwenyn i wrthsefyll plâu a bygiau. Yn benodol, byddant yn cynnal profion am ymwrthedd i’r gwiddonyn Varroa, sydd wedi achosi dirywiad sydyn ym mhoblogaeth gwenyn y DU, a’r bacteriwm Paenibacillus larvae, sy’n gyfrifol am Glefyd Americanaidd y Gwenyn, sef un o’r clefydau mwyaf dinistriol o’r holl glefydau gwenyn. Amcangyfrifir bod gwenyn yn peillio yn werth £100m i amaethyddiaeth Prydain bob blwyddyn, ac mae’n hanfodol i atal y dirywiad mewn niferoedd gwenyn.

Dywedodd yr Athro Les Baillie o Ysgol Fferylliaeth Cymru: "Mae rhan fawr o’r gwaith o ddatblygu cyffuriau yn cynnwys proses sgrinio ddrud mewn labordy o amrywiaeth anferthol o gynhyrchion planhigion, heb lwyddiant yn aml. Gobeithiwn hepgor y canolwr, a gadael i’r gwenyn wneud llawer o’r gwaith caled, gan ein harwain at y planhigion hynny sy’n gweithio. Gobeithiwn y gall y cyhoedd ddarparu gymaint â phosib o fêl cartref i ni – fe allent roi i ni’r datblygiad allweddol i frwydro yn erbyn y bacteria hyn."

Dywedodd Dr Natasha de Vere, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru: "Rydym bron â chwblhau ein prosiect Cod Bar Cymru i roi cod bar DNA i bob un o’r 1143 o blanhigion blodeuol yng Nghymru, ac rydym yn teimlo’n gyffrous i fod yn datblygu ein cymwysiadau cyntaf sy’n defnyddio’r adnodd gwych hwn. Gallwn weld pa fathau o fêl sy’n rhoi’r canlyniadau gorau yn erbyn clefydau heintus sy’n effeithio ar bobl a gwenyn, a defnyddio cod bar DNA i nodi’r planhigion sy’n cynhyrchu’r mêl.

Dylai unrhyw un sy’n dymuno cyfrannu’u mêl i’r prosiect ymchwil anfon potyn 200 gram, gyda’u cyfeiriad, cod post, a manylion y planhigion y mae’r gwenyn yn bwydo arnynt at:

Jenny Hawkins,
Ysgol Fferylliaeth Cymru,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Redwood
Rhodfa Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NB