Skip to content
Skip to navigation menu

English

Delweddau i addysgu ac ysbrydoli

05 Rhagfyr 2008

Agorwyd arddangosfa gyhoeddus fawr yn swyddogol, sy’n arddangos delweddau ymchwil trawiadol o ledled y Brifysgol.

Datblygwyd rhan o ddathliadau’r pen-blwydd yn 125 mlwydd oed gan yr Arddangosfa Delweddau Ymchwil, er mwyn helpu addysgu, ysbrydoli, a chyffroi pobl ynghylch gwaith ymchwil Caerdydd.

Gan gasglu 42 delwedd, sy’n cynnwys ffotograffau, darluniau a gynhyrchir gan gyfrifiadur a lluniau, maent yn cynrychioli amrywiaeth a budd yr ymchwil sy’n digwydd ymhob ysgol academaidd.

O ddelweddau trawiadol o feicronodwyddau yr Ysgol Fferylliaeth i ddelwedd o gwch Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr, ‘The Guiding Light’ ar y môr – mae’r arddangosfa’n cynnig cyfle gwych i aelodau’r cyhoedd, staff a myfyrwyr weld delweddau sy’n dangos ystod yr ymchwil o bob rhan o’r Brifysgol.

Bydd yr arddangosfa yn Amgueddfa Cymru - National Museum Wales yng Nghaerdydd, Oriel y Gorllewin o ddydd Gwener, 5 Rhagfyr hyd fis Mawrth 2009.