Datblygiadau mewn delweddu
18/09/2009
Sganiwr clinigol PET
Mae Caerdydd ar flaen y gad ym maes technoleg delweddu gyda datblygu Canolfan Ymchwil a Diagnosteg Delweddu Tomograffeg Allyriad Positron (PET) Cymru ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.
Dylai’r sganiwr clinigol fod yn barod yn gynnar y flwyddyn nesaf, a bydd yn dod â buddion o ran ymchwil a buddion i gleifion. Yn y cyfamser, mae’r sganiwr cyn-clinigol wrthi’n cael ei gomisiynu, a dylai fod yn barod at ddibenion ymchwil o fewn wythnosau.
Bydd y sganiwr cyn-clinigol yn galluogi gwneud ymchwil a fydd yn torri tir newydd yn y gwyddorau meddygol, biolegol a gwyddorau bywyd. Bydd y rhain yn arwain at well dealltwriaeth o brosesau a strwythurau biolegol; strategaethau clinigol, diagnostig a therapiwtig newydd; canfod clefydau’n gynharach; ac, yn y pen draw, canlyniadau mwy llwyddiannus i gleifion.
Ar yr un pryd, bydd angen amrywiaeth eang o fewnchwilyddion delweddu ar y sganwyr cyn-glinigol a’r sganwyr clinigol, er mwyn galluogi sganio strwythurau niwrolegol, cardiofasgwlaidd a thiwmorol, ymhlith llawer o rai eraill. Yr her fydd i ymchwilwyr Caerdydd yn y gwyddorau cemegol a ffisegol ddylunio a chynhyrchu deunyddiau mewnchwilio newydd, anymyrrol ar gyfer pob un o’r defnyddiau hyn.
Dywedodd yr Athro Peter Edwards o’r Ysgol Gemeg, Cyfarwyddwr Gweithredol Canolfan PET: “Yng Nghaerdydd, rydym yn ceisio creu amgylchedd cydweithredol lle gall gwyddorau ffisegol craidd ymgysylltu ac arloesi â’r gwyddorau bywyd at y diben cyffredinol o wella gwybodaeth fiolegol a datblygu arferion clinigol newydd. Ein nod yw adeiladu’r cyfleuster er mwyn cynhyrchu ystod eang o ddeunyddiau olrhain a fydd yn ein rhoi ar flaen y gad mewn gweithgarwch ymchwil cyn-glinigol a chlinigol.”
Bydd y sganiwr cyn-glinigol yn cynnig tri math gwahanol o ddelweddu: Tomograffeg Allyriad Positron; Tomograffeg Gyfrifiadur Allyriad Ffoton Sengl; a Thomograffeg Gyfrifiadur Pelydr-X. Bydd ei bresenoldeb yn hwb i nifer o ganolfannau ymchwil newydd yng Nghaerdydd, gan gynnwys Canolfan Biomecaneg a Biobeirianneg yr Ymgyrch Ymchwil Arthritis, Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig a phrosiect Cynghrair Severnside ar gyfer Cymhwyso Ymchwil (SARTRE) gyda Phrifysgol Bryste. (link hyper links in text)
Mae tîm PET eisoes wedi bod â “thaith pen ffordd” o amgylch y Brifysgol i hyrwyddo’r cyfleusterau a’r cyfleoedd ymhlith y gymuned ymchwil. Mae nifer o brosiectau eisoes wedi’u sefydlu yn barod ar gyfer pan fydd y sganiwr cyn-glinigol yn mynd yn weithredol. Mae cydweithrediadau gyda grwpiau a chanolfannau ymchwil ledled Cymru a thu hwnt wrthi’n cael eu datblygu hefyd.
Mae prosiect PET yn cael ei arwain gan y Brifysgol mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro, ac mae’n cael ei gyllido gan fuddsoddiad £16.5M gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Cartref y prosiect fydd adeilad pwrpasol ar safle’r Mynydd Bychan, a rhagwelir y bydd y sganiwr clinigol ar gael ar gyfer ymchwil glinigol yn ystod rhan gyntaf y flwyddyn nesaf. Bydd hwn yn gyfleuster ymchwil o’r radd flaenaf, a bydd hefyd yn cynnig cyfleusterau sganio i gleifion y GIG nad ydynt ar gael ar hyn o bryd yng Nghymru. Mae’r datblygiad yn rhan o strategaeth Gorwelion Campws y Brifysgol i wneud ymrwymiadau cyfalaf sylweddol i wella pob rhan o’i hystâd.
Ychwanegodd yr Athro Edwards: “Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn a fydd yn tynnu arbenigwyr ynghyd o amrywiaeth o gefndiroedd mewn Ffiseg, Cemeg, Gwyddor Cyfrifiadureg, Biowyddoniaeth, Seicoleg Wybyddol a Gwyddoniaeth Feddygol. Byddwn yn sefydlu rhwydwaith ymchwil a datblygu pwerus a fydd yn gallu cystadlu o ddifrif gyda’r prif ganolfannau delweddu presennol yn y DU a thramor.”
Beth yw sgan PET?
Mae PET yn sefyll am Tomograffeg Allyriad Positron. Gall y math hwn o sgan ddangos sut mae meinweoedd y corff yn gweithio, yn ogystal â rhoi darlun ohonynt mewn dau neu dri dimensiwn. Mae’r dechneg yn sensitif iawn ac yn ddelfrydol ar gyfer delweddu prosesau biolegol (e.e. y gweithgarwch metabolaidd uchel yn y rhan fwyaf o ganserau).
Pam mae’n bwysig?
Mae PET yn datblygu’n un o’r offer pwysicaf a ddefnyddir yn glinigol i wneud diagnosis o amrywiaeth o glefydau, yn enwedig canser, ac ar gyfer monitro cynnydd triniaeth, gwellhad, ac ati. Mae hefyd yn bwysig o ran mireinio a gwella canfod meddyginiaethau newydd. Bydd PETIC yn gyfleuster unigryw yng Nghymru, a fydd yn galluogi astudio dulliau diagnostig a thrin newydd, y gellir eu cysylltu â rhaglenni treialon clinigol.
Pa fath o glefydau fydd yn cael eu hastudio?
Ymchwil cardiofasgwlaidd, niwrolegol ac oncolegol fydd y prif ffocws. Gallai hyn gynnwys strôcs, anhwylderau seicolegol, clefyd Parkinson, Clefyd Huntington a Chlefyd Alzheimer, a phob math o ganser.
Sut bydd cleifion yn elwa?
Gan weithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro, bydd y Ganolfan yn gallu cynnig gwybodaeth gywirach i feddygon am ba gam y mae canser wedi’i gyrraedd mewn claf, a bydd yn eu galluogi i gynllunio triniaeth yn fwy cywir. Bydd y sganiwr yn gallu canfod tiwmorau ar gyfnod cynharach (rhai mor fach â 2mm), ac â mwy o sicrwydd. Ar hyn o bryd mae cleifion yng Nghymru’n gorfod teithio i Lundain neu ganolfannau eraill i gael sgan; bydd y cyfleuster yng Nghaerdydd yn cyflymu mynediad i sganiau ac yn gwella diagnosis o’r herwydd, a bydd hefyd yn fwy cyfleus o lawer i’r rhan fwyaf o gleifion.
Gall cydweithwyr academaidd gael mwy o wybodaeth am fenter PET yn Caerdydd.ac.uk/petic neu drwy anfon e-bost i petic@caerdydd.ac.uk

