Skip to content
Skip to navigation menu

English

Gwella mynediad

14 Mawrth 2008

Mae gallu siaradwyr Cymraeg i gael gwasanaeth fferyllydd trwy gyfrwng yr iaith yn dibynnu ar ble maen nhw’n byw, meddai adroddiad ymchwil newydd.

Archwiliodd yr astudiaeth gan Ysgol Fferylliaeth Cymru a Phrifysgol Morgannwg ran y Gymraeg mewn fferylliaeth gymunedol yng Nghymru.

Gwelwyd fod y gallu i gael gwasanaeth trwy’r Gymraeg yn dibynnu ar ddosbarthiad y boblogaeth Gymraeg ei hiaith. Er nad yw bron 60 y cant o fferyllfeydd yng Nghymru yn cynnig dewis i gwsmeriaid allu siarad Cymraeg gyda staff y fferyllfeydd, roedd hyn yn amrywio’n fawr rhwng gwahanol rannau o Gymru.

Roedd yn ymestyn o ardaloedd gyda chanran fechan o siaradwyr Cymraeg ble nad oedd unrhyw fferyllfeydd yn cynnig gwasanaeth trwy’r Gymraeg, i ardaloedd ble mae poblogaeth fawr o siaradwyr Cymraeg a 100 y cant o fferyllfeydd yn cynnig y dewis.

At hynny, darganfu Louise Hughes a chydweithwyr o Ysgol Fferylliaeth Cymru ac Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, Prifysgol Morgannwg, fod gwasanaeth Cymraeg yn cael ei gynnig gan bron pob fferyllfa lle’r oedd y rhan fwyaf o gwsmeriaid yn siarad Cymraeg. Er hynny, doedd 60 y cant o fferyllfeydd lle’r oedd rhywfaint o gwsmeriaid Cymraeg ddim yn cynnig gwasanaeth o’r fath. Doedd y rhan fwyaf o fferyllfeydd oedd yn cynnig y gwasanaeth (86.5 y cant) ddim yn hysbysebu’r ffaith ac felly roedd llawer o siaradwyr Cymraeg ddim yn ymwybodol fod yr opsiwn ar gael.

"Nododd rhai o’r atebwyr fod gwerth gwasanaethau fferyllyddol Cymraeg yn arbennig o uchel i grwpiau fel plant a’r henoed," meddai Louise Hughes, o Ysgol Fferylliaeth Cymru a oedd yn arwain y prosiect. "Fodd bynnag, roedd atebwyr eraill yn dweud, tra nad oedd galw am wasanaethau Cymraeg yn lleol, roedd angen am wasanaethau yn rhai o ieithoedd Asia a Dwyrain Ewrop."

Wrth gloi, dywedodd Dr Hughes, "Tra’i bod yn galonogol fod gan nifer fawr o fferyllfeydd staff Cymraeg, yn ddelfrydol dylai pob siaradwr Cymraeg allu derbyn gwasanaeth trwy’r Gymraeg, ble bynnag y maen nhw’n byw. Er nad yw efallai yn hawdd, nac yn wir yn ymarferol, i bob fferyllydd yng Nghymru fod yn gallu siarad Cymraeg, dylid ystyried anghenion siaradwyr Cymraeg."

Wrth groeso’r astudiaeth meddai Dr Sue Ambler, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Ymchwil Fferyllfeydd, a gomisiynodd yr astudiaeth. "Mae wedi codi nifer o gwestiynau, gan gynnwys y gwahaniaethau rhanbarthol mawr o ran siarad Cymraeg, yr angen i hybu mwy ar wasanaethau Cymraeg, yr angen am hyfforddiant iaith ac, yn fwyaf pwysig, mae’r arolwg wedi codi ymwybyddiaeth o’r pwnc pwysig hwn ymhlith fferyllwyr Cymru."