Skip to content
Skip to navigation menu

English

Ysbrydolwch bobl ifanc i astudio gwyddoniaeth,

06 Awst 2008

Mae’r Athro o Brifysgol Caerdydd, Syr Martin Evans FRS, enillydd Gwobr Nobel 2007 am Feddygaeth, wedi rhybuddio ein bod, oni bai bod mwy o bobl ifanc yng Nghymru yn cael eu hysbrydoli i astudio gwyddoniaeth a phynciau technoleg, mewn perygl o ‘fynd yn ddiddeall’ fel cenedl.

Ar ddiwrnod agoriad swyddogol Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol, anogodd Syr Martin Evans athrawon, rhieni, gwarcheidwaid a chyflogwyr i ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o ennyn diddordeb pobl ifanc mewn gwyddoniaeth er mwyn sicrhau’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a sicrhau lle Cymru yn y dyfodol uwch-dechnolegol.

Fe wnaeth Syr Martin, enillydd Gwobr Nobel am ei ran mewn cyfres o ddarganfyddiadau oedd yn torri tir newydd yn y maes celloedd bonyn embryonig ac ail-gyfuno DNA mewn mamaliaid, ymweld â stondin Prifysgol Caerdydd drws nesaf i’r Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg, lle mae arddangosfeydd rhyngweithiol yn galluogi pobl ifanc (a’r rhai ifanc eu meddwl) i gael profiad uniongyrchol ac arbrofi gyda phob math o wyddoniaeth yn y fan a’r lle.

Wrth siarad am ei bryder cynyddol o weld y diffyg ymgysylltiad â gwyddoniaeth yn parhau, dywedodd Syr Martin: "Wrth i ni symud i mewn i’r tymor canlyniadau arholiadau, mae bron yn anochel y bydd y dadlau’n ailddechrau ynglŷn â’r nifer o fyfyrwyr sy’n methu dewis pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.

Rhodri Morgan finds out about the University’s pavilion from (r-l) Vice Chancellor, Dr David Grant; Brian Richardson, Director of Public Relations and Communications; Anita Shaw, Techniquest, and Les Rees, Cardiff University’s Director of Regional Liaison.

"A phob blwyddyn mae’r rhesymau a nodir i’w gweld yr un fath – diffyg athrawon â chymwysterau addas, amgylcheddau addysgu rhy sylfaenol, heb sôn am faterion ariannu, a phryderon iechyd a diogelwch, amgyffrediad bod y pynciau hyn yn anodd ac yn ddiflas, a chynllun cyfredol y cwricwlwm sy’n peidio â chymell disgyblion, yn enwedig merched.

"Yn fy marn i, un o’r anawsterau mawr yw ein dull o werthu gwyddoniaeth i’r cyhoedd ac i’r genhedlaeth iau yn benodol. Mae gwyddoniaeth yn amlach na pheidio yn cael ei chyflwyno fel rhywbeth ag iddi bwysigrwydd technolegol neu economaidd yn unig, ond mewn gwirionedd gwyddoniaeth yw’r ffordd i ni allu deall y byd yr ydym yn byw ynddo. Nid technegwyr mohonom; rydym yn archwilwyr ac yn weledyddion. Ni ddylem fod yn dweud wrth fyfyrwyr ‘astudiwch wyddoniaeth er mwyn cael swydd ddefnyddiol’ ond yn hytrach ‘astudiwch wyddoniaeth er mwyn gwneud synnwyr o’r byd o’ch cwmpas.’"

Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, agor y Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn swyddogol cyn ymweld â phafiliwn Caerdydd. Cyfarfu â staff a myfyrwyr o bob rhan o’r Brifysgol, gan gynnwys yr Is-Ganghellor Dr David Grant, cynhaliwyd arddangosiadau ger ei fron ar harneisio potensial celloedd bonyn gan Dr Arwyn Tomos Jones o Ysgol Fferylliaeth Cymru, y siaradwr ar gyfer prif ddarlith wyddoniaeth eleni yn yr Eisteddfod Genedlaethol (yn y llun).

Mae pafiliwn Prifysgol Caerdydd yn cynnwys ‘Mannau Canolbwynt’ rhyngweithiol a gomisiynwyd yn arbennig, ac a ddatblygwyd gyda’i bartner strategol Techniquest a’u hysbrydoli gan ymchwil gyda’r mwyaf blaenllaw yn y byd ar draws y Brifysgol. Maent yn cynnig cipolygon cyffrous i ennyn diddordeb pobl o bob oed mewn pynciau amrywiol, o ymchwil y Gwyddorau Daear a Chefnfor i gynhesu byd-eang, i waith yr Ysgol Gemeg ar Deils Penrose. Bydd trydydd ‘Canolbwynt’, a grëwyd gan yr Ysgol Beirianneg ac a noddwyd gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol yn dangos arddangosiadau’n ymwneud â delweddu meddygol.

Mae llawer o bethau eraill yn digwydd ar stondin y Brifysgol hefyd, gan gynnwys arddangosfeydd, arddangosiadau, anerchiadau, lansiadau llyfrau a chyflwyniadau gan staff a myfyrwyr ar draws y Brifysgol.

Tags