Skip to content
Skip to navigation menu

English

Buddsoddi ym mhobl Caerdydd

10 Mehefin 2011

Leadership awardsRhoddwyd tystysgrifau i: O’r chwith i’r dde Lynne Smith (Gwasanaethau Corfforaethol), Rhodri Baker (yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth), Michelle Smith (yr Ysgol Astudiaethau Nyrsio a Bydwreigiaeth), Steve Williams (Chwaraeon ac Ymarfer Corff), Scott Andrews (y Ganolfan Dysgu Gydol Oes), Nick Sharratt (yr Is-adran Ymchwil a Masnachol) Canol blaen Barbara Tomlin (yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol).

Daeth staff o bob rhan o’r Brifysgol at ei gilydd i ddathlu ymrwymiad Caerdydd i greu amgylchedd gwaith cadarnhaol trwy ddatblygu eu gallu ym maes arweinyddiaeth a rheolaeth.

Gwahoddwyd dros 70 aelod o staff academaidd a staff cymorth o bob rhan o’r Brifysgol i Neuadd Aberdâr i’r Seremoni Gwobrau Arweinyddiaeth Blynyddol i dderbyn eu tystysgrifau gan yr Is-ganghellor, Dr David Grant.

Roedd y digwyddiad yn dathlu eu bod wedi cwblhau Rhaglenni Datblygu Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn llwyddiannus yn ystod 2010 / 2011.

Cawsant eu llongyfarch ar eu llwyddiant gan Dr Grant ac fe’u hanogodd i barhau i fod yn uchelgeisiol yn eu harweinyddiaeth, gan ddweud: "Mae’r Rhaglenni Datblygu Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn rhoi’r hyder i staff ddefnyddio’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth i droi heriau’n rhagwelediad.

"Rwy’n annog pob un sy’n derbyn gwobr i fod yn uchelgeisiol yn eu harweinyddiaeth, yn enwedig yn ystod y cyfnod ansicr hwn. Drwy ein buddsoddiad parhaus yn ein pobl, credaf y gall y Brifysgol droi’r cyfnod hwn o newid yn gyfnod o gyfle mawr."

Er 2007, mae dros 400 aelod o’r staff wedi cwblhau o leiaf un o’r pedair rhaglen yn llwyddiannus. Mae’r rhaglenni hyn yn rhoi cyfleoedd ar gyfer datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth i staff o bob rhan a phob disgyblaeth yn y Brifysgol.

Datblygwyd pedair rhaglen gan gynnwys Rhaglen Datblygu Penaethiaid Ysgolion sydd â’r nod o ymgysylltu a chynorthwyo Penaethiaid Ysgolion sydd newydd eu penodi wrth iddynt wynebu heriau o ran arweinyddiaeth a’r agenda newid. Hefyd mae rhaglenni ar gyfer arweinwyr timau ymchwil ac un ar gyfer rheolwyr llinell newydd.

Wrth sôn am y ffordd y mae wedi elwa ar y cwrs Arwain a Rheoli Timau, dywedodd Emma Ballinger, sy’n Uwch Reolwr Cynorthwyol Neuaddau Preswyl yn Neuadd Aberdâr: "Roedd y cwrs hwn o gymorth mawr i mi yn fy swyddogaeth bresennol a dysgais sgiliau damcaniaethol ac ymarferol. Hefyd roedd yn braf iawn cwrdd â phobl o adrannau eraill mewn swyddi tebyg a thrafod materion gwahanol."

Mae’r Brifysgol yn parhau i ddatblygu ei harweinwyr, rheolwyr a goruchwylwyr a chwaraeodd hyn ran sylweddol mewn ennill achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl yn ddiweddar. Caerdydd yw un o’r sefydliadau mwyaf yng Nghymru i dderbyn cydnabyddiaeth Buddsoddwyr mewn Pobl, a’r cyntaf o’r 20 o brifysgolion yng Ngrŵp Russell, sy’n flaenllaw o ran eu hymchwil, i gyrraedd y safon hon ar draws y sefydliad cyfan.

Ym mis Tachwedd 2010 enillodd y rhaglen ar gyfer arweinwyr timau ymchwil wobr Times Higher Education am ‘Gyfraniad Eithriadol at Ddatblygu Arweinyddiaeth’. "Trwyadl a chynhwysfawr" oedd disgrifiad y beirniaid o ddull Prifysgol Caerdydd o baratoi ymchwilwyr ar gyfer swyddogaethau arwain a rheoli, a dywedon nhw ei bod yn debygol mai’r Brifysgol hon oedd "yr un â’r ymrwymiad mwyaf i’r math hwn o weithgaredd datblygu yn y DU".

Am fwy o wybodaeth ynghylch y rhaglenni, cysylltwch â Martin Udwin, Datblygu Cyfundrefnol, Adnoddau Dynol, ar estyniad 79232 neu anfonwch neges e-bost at UdwinM@caerdydd.ac.uk.