Skip to content
Skip to navigation menu

English

A yw Cymru’n rhy ofalgar i gyflawni llwyddiant economaidd?

29 Medi 2011

adult helping senior web

Mae cymunedau yng Nghymru yn gofalu am ei gilydd yn fawr – yn fwy nag unrhyw le arall yn y DU, ond mae’n bosibl mai gofalu am bobl eraill sy’n dal yr economi yn ôl.

Mae astudiaeth newydd gan yr Athro Robert Huggins o Brifysgol Caerdydd a Dr Piers Thompson o Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (UWIC) wedi canfod cysylltiadau cryf rhwng diwylliant rhanbarthau’r DU a’u perfformiad economaidd. Maent yn dangos bod cydlyniant cymdeithasol uwch yng Nghymru, wedi’i nodweddu gan lefelau uchel o ofalu, gweithredu cyfunol a dymuniad cyffredinol am degwch, yn tueddu i gael ei gysylltu â pherfformiad economaidd gwaelach. Mae’r rhannau o Gymru sydd wedi’u cydlynu fwyaf yn gymdeithasol yn y gogledd – gydag Ynys Môn, Gwynedd a Wrecsam yn arwain y ffordd – a chyda’r rhannau sydd wedi’u cydlynu lleiaf yn gymdeithasol yn cynnwys Caerdydd, Castell-nedd Port Talbot a Chasnewydd.

Mae’r adroddiad yn honni, er bod llawer o rinweddau i’r diwylliant cyffredin ledled cymunedau Cymru, megis bod y rhanbarth mwyaf ‘gofalgar’ ym Mhrydain, bod hyn yn aml yn gwrthdaro â thueddiadau diwylliannol rhanbarthau mwy cystadleuol. Honna Huggins a Thompson fod hyn yn golygu bod diwylliant busnes Cymru’n annigonol yn gyffredinol i greu economi â lefelau uchel o entrepreneuriaeth ac arloesi. Maent hefyd yn rhybuddio bod ychydig o arwyddion o newid, gyda Chymru wedi’i graddio ar waelod mynegai o ranbarthau ym Mhrydain yn mesur pa mor dda y caiff gwaith ac addysg eu cofleidio ar draws cymunedau lleol.

Mae’r adroddiad yn dangos bod gan ranbarthau megis y rhai yn ne-ddwyrain Lloegr ddiwylliannau sydd wedi’u llywio’n fwy o lawer gan elw unigol ac wedi’u llywio’n llai gan gydraddoldeb na Chymru. Mae’r ymchwil yn awgrymu bod diwylliant unigol o’r fath yn hybu twf economaidd a lles personol yn well. Yng Nghymru, ystyrir bod diwylliant o ofalu a chymuned gyfunol yn rhwystr i dwf, yn ogystal â bod yn gysylltiedig â lefelau cymharol isel o les. Canfu’r adroddiad mai canran poblogaeth Cymru sy’n dweud eu bod yn hapus iawn yw’r ganran isaf ym Mhrydain ar lefel o 40%, o’u cymharu â mwy na 60% o’r boblogaeth mewn rhanbarthau megis gogledd-orllewin Lloegr. Hefyd, mae Cymru’n parhau i fod â’r gyfran isaf yn y boblogaeth ag iechyd da – 66% wedi’u cymharu â bron i 87% o’r boblogaeth yn Llundain.

Yn ôl yr Athro Huggins:

‘O safbwynt polisi llywodraeth, mae ein canfyddiadau’n awgrymu penbleth: a fyddai Cymru’n elwa ar ollwng ei gwerthoedd diwylliannol a chymunedol arbennig i ddod yn gymdeithas fwy atomistig, unigol, sy’n ‘gofalu llai’? Yn fy marn i, dylem geisio datblygu ein heconomi a’n diwylliant busnes gan gadw at werthoedd cymunedol hirdymor. Dylai’r cydlyniant cymdeithasol sydd gan ein cymunedau ddangos cryfder posibl, yn hytrach na gwendid, y gall llunwyr polisïau ei wella o bosibl fel offeryn datblygu economaidd. Mewn gwirionedd, rhai rhannau o Gymru â’r cymunedau sydd wedi’u cydlynu’n gymdeithasol fwyaf yw’r rhai mwyaf entrepreneuraidd, felly mae angen i ni droedio’n ofalus wrth ystyried sut y gall polisïau cymdeithasol effeithio ar yr angen clir i adfer yr economi yn y tymor hir. Os edrychwn ymhellach i ffwrdd, mae gan genhedloedd bach megis Sweden a’r Ffindir dueddiadau diwylliannol a gwerthoedd tebyg i rai Cymru, ond mae ganddynt economïau mwy llwyddiannus o lawer’.

Mae’r adroddiad yn amlygu ffactorau hanesyddol fel y prif reswm pam mae diwylliant cymunedol Cymru wedi datblygu ei dueddiadau presennol, gan ddadlau bod tueddiadau o’r fath wedi esblygu i raddau helaeth yn unol ag erydu hirdymor yr hyn a oedd unwaith yn ‘ddiwylliant busnes â phwyslais ar waith’.

Mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad mai rôl hollbwysig dysgu, addysg a gwaith medrus o ran llunio diwylliant a dyheadau yw’r unig ffordd wirioneddol y bydd Cymru’n gallu newid ei thynged i ffwrdd o ddyfodol yr ymddengys ei fod yn dirywio’n anwrthdroadwy fwyfwy, fel yr honna Huggins a Thompson.