Skip to content
Skip to navigation menu

English

Ynys Gwydr

10 Ebrill 2013

Island of Glass_web

Mae cymuned Merthyr Tudful yn cyflwyno opera newydd, sef Ynys Gwydr, sy’n adrodd hanes anadnabyddus o’i hanes canoloesol cynnar.

Mae’r opera, sydd wedi’i hysbrydoli gan waith archaeolegwyr o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd y Brifysgol yn Llyn Syfaddan ger Aberhonddu, yn adrodd hanes o’r degfed ganrif o ddinistr dirgel llys brenhinol Brenhinoedd Brycheiniog, a adeiladwyd ar ynys wneuthuredig (crannog) ar Lyn Syfaddan.

Mae cloddiadau Caerdydd ar y safle yn awgrymu bod hwn yn ddiwylliant soffistigedig dros ben yn ystod cyfnod cythryblus a ddaeth i ben mewn modd treisgar dan ddwylo merch y Brenin Alffred, Brenhines y deyrnas Seisnig Mersia.

Dywedodd Dr Alan Lane, Uwch Ddarlithydd mewn Archaeoleg yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, a oedd yn rhan o’r cloddiad: "Y safle yn Llan-gors ym Mhowys yw’r unig grannog hysbys yn Ynysoedd Prydain y tu allan i’r Alban ac Iwerddon.  Mae’n helpu i gadarnhau’r chwedlau lleol bod gan deyrnas Gymreig Brycheiniog gysylltiadau cryf ag Iwerddon yn ystod y cyfnod cyn-Normanaidd.

"Dangosodd cloddiad o’r crannog y cafodd ei adeiladu yn y 890au a’i ddinistrio gan dân rhai degawdau’n ddiweddarach.  Mae hyn yn ein galluogi i’w adnabod â dogfennau Eingl-Sacsonaidd sy’n cofnodi safle brenhinol brenhinoedd Brycheiniog a ddinistriwyd gan fyddin Mersia yn 915.  Mewn prosiect a ariannwyd gan Brifysgol Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a chyrff eraill, cafodd y safle ei gloddi gan dîm y Brifysgol/Amgueddfa ar y cyd, a darganfuwyd arteffactau a oedd yn cadarnhau adnabyddiaeth hanesyddol y safle hwn yn breswylfa i’r brenhinoedd lleol.

"Rhoddodd darnau o "greirfa tŷ" wedi’i haddurno ag enamel, tlysau toredig a phinnau gipolwg i ni ar fywyd yng Nghymru yng nghanol y cyfnod hanesyddol sy’n cael ei alw’n Oes y Llychlynwyr.  Mae rhai o’r rhain yn cael eu harddangos yn yr oriel Gwreiddiau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.  Mae arbenigwyr y Brifysgol wedi astudio olion anifeiliaid o’r safle ac wedi dangos eu bod yn cynrychioli gwledda ar faeddod gwyllt a chig carw yn ogystal â gwartheg, defaid a moch.  Y darganfyddiad mwyaf nodedig oedd brethyn addurnedig sidan unigryw wedi’i garboneiddio, sydd wedi helpu i ysbrydoli pobl leol i ailgysylltu â’u treftadaeth.  Mae safle
Llan-gors yn rhoi mewnwelediad unigryw a dramatig i ni i’r cyfnod cythryblus hwn yn hanes Cymru a Phrydain."

Mae perfformiadau’r opera gymunedol yn adeiladu ar y prosiect Hanes a Dirgelwch, sy’n ymgysylltu â grwpiau cymunedol o bob rhan o’r sir ar y cyd ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru a’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.  Gyda chymorth grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae tîm o artistiaid proffesiynol a gydlynwyd gan Celf ar y Blaen (Merthyr) wedi cydweithio â phobl leol i droi’r ymchwil archaeolegol a hanesyddol yn gynhyrchiad opera cyffrous newydd.  Mae cyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri wedi helpu tîm celfyddydau Merthyr i ddarparu darlithoedd, gweithdai a theithiau cerdded tywysedig, i ddangos y cysylltiadau rhwng Merthyr a Llan-gors, sydd 12 milltir yn unig ar draws y bryniau i’r gogledd o’r dref.

Cynhelir perfformiad cyntaf yr opera yn Theatr Soar nos Wener 12 Ebrill am 7.30pm ac mae dros 500 o aelodau’r gymuned leol yn cymryd rhan.  Cynhelir rhagor o berfformiadau ddydd Sadwrn 13 Ebrill am 2pm a 7.30pm.  Mae tocynnau’n costio £5/£3.50 a gellir eu neilltuo drwy ffonio 01685 722 176.  Cynhelir perfformiad terfynol yr opera yn rhad ac am ddim yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, ddydd Sadwrn 20 Ebrill am 1.30pm.

Dolenni perthnasol

Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd