Skip to content
Skip to navigation menu

English

Dywedwch Phew!

05 Mai 2009

Positive Working Environment logo

Bydd staff ar draws y Brifysgol yn cael pum niwrnod llawn i fwynhau therapi cyfoes, gweithdai cael gwared ar straen, profion iechyd am ddim a llawer mwy fel rhan o fenter newydd ar draws y Brifysgol.

Rhwng dydd Llun 15 Mehefin a dydd Gwener 19 Mehefin 2009, bydd y Brifysgol yn gartref i ystod eang o weithgareddau sy’n gysylltiedig ag iechyd, lles a’r amgylchedd fel rhan o’r fenter ddiweddaraf Amgylchedd Gweithio Cadarnhaol – Wythnos Iechyd ac Amgylchedd Cadarnhaol (PHEW!).

Bob dydd bydd staff yn gallu dewis o blith casgliad helaeth o ddigwyddiadau am ddim, yn amrywio o sesiynau rhagflas Tai Chi, profi pwysau gwaed, profion diabetes i deithiau cerdded yn y parc, teithiau ar feic a’ch gwawdlun personol eich hun gan Graham 'Picasso' Griffiths, un o wawdlunwyr gorau Prydain. .

Bydd gweithgareddau PHEW! yn cael eu hyrwyddo gan ddarparwyr gwasanaeth mewnol y Brifysgol yn ogystal â sefydliadau sector gwirfoddol a phreifat allanol, a byddant yn cael eu cynnal ar draws campws y Brifysgol. Wrth ddynesu at PHEW!, bydd cyfres o ddigwyddiadau lansio yn cael eu cynnal, gan gynnwys prif ddarlith gan yr Athro Mansel Aylward, Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Seicolegol ac Anabledd (CPDR), ddydd Mercher 10 Mehefin ac archwiliadau iechyd Pwysau Gwaed ddydd Iau 11 Mehefin a dydd Gwener 12 Mehefin 2009.

Dywedodd Swyddog y Rhaglen Amgylchedd Gweithio Cadarnhaol, Yvonne Dunnon: "Rydym ni eisiau i gymaint o bobl â phosibl fanteisio ar PHEW! Mae’n gyfle gwych i roi cynnig ar rywbeth newydd a chael hwyl. Felly p’un a ydych chi am gael gwawdlun wedi’i dynnu ohonoch chi, chwarae yn y twrnamaint pêl-droed neu roi cynnig ar folddawnsio, rydym ni’n gobeithio y bydd rhywbeth yno at ddant pawb."

Mae manylion llawn am holl ddigwyddiadau’r Wythnos Iechyd ac Amgylchedd Cadarnhaol (PHEW!) ar gael yn: www.cardiff.ac.uk/phew. Bydd mwyafrif y gweithgareddau yn para oddeutu awr, a bydd lleoedd yn cael eu neilltuo ar sail y cyntaf i’r felin. Dylech gael caniatâd gan eich rheolwr llinell cyn archebu eich lle yn unrhyw un o’r gweithgareddau a gynhelir yn ystod eich oriau gwaith.