Skip to content
Skip to navigation menu

English

Galw ar gyfer y Llewod

22 Ebrill 2009

Jamie Roberts

Mae’r myfyriwr meddygaeth yng Nghaerdydd a’r chwaraewr rygbi rhyngwladol, Jamie Roberts, wedi cael ei enwi ar y rhestr ar gyfer sgwad Llewod Prydain ac Iwerddon 2009.

Mae Jamie, a enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn 2008, yn un o 37 o chwaraewyr a ddewiswyd gan hyfforddwr y Llewod, Ian McGeechan, ar gyfer y daith i Dde Affrica.

Mae chwaraewr Gleision Caerdydd a Chymru, wedi cael ei ddewis ar gyfer safle’r Canolwr, ochr yn ochr â chwaraewr Cymru, Tom Shanklin, Brian O’Driscoll a Keith Earls o Iwerddon a Riki Flutey, Lloegr.

Mae cyfanswm o 13 o chwaraewyr Cymru wedi cael eu dewis ar gyfer y sgwad, gan gynnwys Shane Williams a Leigh Halfpenny. Maent yn gadael ar 24 Mai 2009 ar gyfer taith 10 gêm, a byddant yn chwarae gemau prawf yn Durban, Pretoria a Johannesburg.

Mae’r Llewod yn dîm rygbi’r undeb sy’n cynnwys chwaraewyr o Gymru, yr Alban, Iwerddon a Lloegr.

Darllenwch stori Jamie, Fy Nghaerdydd

Tags