Skip to content
Skip to navigation menu

English

Daethpwyd o hyd i borthladd Rhufeinig coll yng Nghymru

23 Awst 2011

Ffos gloddio ar draws wal glan cei, glanfeydd a jetïau Caerllion.Ffos gloddio ar draws wal glan cei, glanfeydd a jetïau Caerllion.

Darganfuwyd gweddillion porthladd Rhufeinig sy’n dyddio’n ôl 2000 o flynyddoedd yn ne Cymru gan archaeolegwyr o’r Brifysgol.

Cafodd y porthladd ei ddatguddio y tu allan i’r Gaer Rufeinig yng Nghaerllion gan dîm o staff a myfyrwyr o’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd. Dyma’r ail borthladd y gwyddys amdano o Brydain Rufeinig ac mae’n taflu goleuni newydd ar rôl Cymru yn y cyfnod hwnnw.

Watch a reconstruction of the newly discovered port

Lleolir gweddillion y porthladd, sydd wedi’u cadw’n dda, ar lannau’r Afon Wysg i ogledd dinas Casnewydd ac maent yn cynnwys prif wal y cei, yn ogystal â’r pontydd glanio a’r glanfeydd lle byddai llongau wedi docio a dadlwytho eu llwythau. Daeth y tîm o hyd i’r porthladd yn ystod eu cloddfeydd yn ‘Dinas goll y Lleng’, maestref anhysbys o adeiladau mawr cyhoeddus y daethpwyd o hyd iddynt gan y Brifysgol y llynedd.

Yn ogystal â’r porthladd, mae ffosydd yr archaeolegwyr wedi cynhyrchu rhai darganfyddiadau nodedig, gan gynnwys gweddillion nifer o adeiladau anferth sydd efallai’n cynnwys marchnadleoedd, adeiladau gweinyddol, baddondai a themlau. Dyma'r tro cyntaf i’r gweddillion hyn gael eu gweld ers bron dau fileniwm.

IscaAdluniad o’r porthladd newydd ei ddarganfod y tu allan i gaer lengol Isca. Trwy garedigrwydd 7reasons

Dywedodd Dr Peter Guest, Uwch-ddarlithydd mewn Archaeoleg Rufeinig sy’n arwain tîm cloddio Caerdydd: "Mae’r hyn rydym wedi dod o hyd iddo yn rhagori ar ein holl ddisgwyliadau. Rydym yn cloddio gweddillion cyfadail adeiladau Rhufeinig a oedd gynt yn anhysbys sy’n goroesi’n hynod o dda o ystyried faint o amser maent wedi gorwedd o dan y ddaear.

"Mae’r porthladd neu’r harbwr yn ychwanegiad pwysig i archaeoleg Prydain Rufeinig ac mae’n ychwanegu dimensiwn newydd i’n dealltwriaeth o Gaerllion oherwydd gallwn ni ddechrau meddwl am sut roedd yr afon yn cysylltu’r gaer a Chymru â gweddill yr Ymerodraeth Rufeinig. Rydym yn credu bod y porthladd yn dyddio i gyfnod pan oedd y Llengoedd yn ymladd ac yn darostwng y llwythi brodorol yng ngorllewin Prydain ac mae’n anhygoel meddwl mai dyma’r lle byddai’r dynion a gymerodd ran yn y goncwest wedi dod i’r lan.

"Mae ein ffosydd hefyd yn edrych ar nifer o adeiladau cyfagos i’r porthladd ac rydym hefyd wedi dod o hyd i ystafelloedd sydd â systemau gwresogi o dan y llawr, waliau a thoeau wedi’u cwympo, yn ogystal â llawer o filoedd o wrthrychau a wnaed, a ddefnyddiwyd ac a gollwyd yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid. Mae gennym ychydig dros wythnos tan i’r gloddfa ddod i ben a bydd yn gyffrous i weld pa ddarganfyddiadau a ddaw yn ystod yr ychydig o ddyddiau nesaf."

Adeiladwyd y gaer, y cyfeirir ati fel ‘Isca’, yng Nghaerllion yn 74/5 OC yn ystod y goncwest olaf gan fyddin y Rhufeiniaid o’r llwythi Celtaidd ffyrnig yn ne Cymru. Dyma bencadlys yr Ail Leng Awgwstaidd - un o bedair lleng a oresgynnodd Brydain yn ystod teyrnasiad Yr Ymerawdwr Clawdiws.

Mae’r gloddfa yn parhau tan 1 Medi ac mae’n agored i’r cyhoedd gyda theithiau arbennig ar y safle am 11.00am a 2.30pm bob dydd (heblaw am ddydd Mercher). Yn ystod penwythnos Gŵyl y Banc (27-29 Awst, 10 am tan 4.30 pm) bydd teithiau, arddangosfeydd o’r darganfyddiadau diweddaraf a llawer o weithgareddau i deuluoedd ymuno ynddynt – gan gynnwys gwisgo fel Rhufeiniaid, gwneud potiau a blasu coginio Rhufeinig.

Gallwch ddilyn cynnydd yr archaeolegwyr ar Flog y Gloddfa ar: http://www.britarch.ac.uk/caf/wikka.php?wakka=CaerleonLegionaryFortress neu ar Facebook a Twitter.

Dolenni perthynol