Skip to content
Skip to navigation menu

English

Mabwysiadu yng Nghymru

14 Tachwedd 2013

father and son web

Mae ymchwilwyr yng Nghaerdydd wedi derbyn cyllid ar gyfer dau brosiect ymchwil newydd am blant a fabwysiadwyd o ofal cyhoeddus ac anghenion cymorth eu teuluoedd newydd.

Cafodd y prosiect cyntaf ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru sydd ar hyn o bryd yn diwygio mabwysiadu mewn ymgais i arbed plant rhag gorfod aros yn hir am deuluoedd ac i sicrhau bod teuluoedd sy’n mabwysiadu yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn cael ei sefydlu a bydd yn weithredol o fis Ebrill 2014.

Nod y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yw cyflawni rhagoriaeth mewn mabwysiadu trwy sicrhau lleoliadau teuluol o ansawdd uchel i blant sy’n derbyn gofal y mae mabwysiadu er y lles gorau iddynt. Bydd yn gwella effeithlonrwydd ac ansawdd y broses asesu; sicrhau tegwch yn y trefniadau ar gyfer mabwysiadu ac annog cronni darpar fabwysiadwyr.

Er mwyn hysbysu gwaith y gwasanaeth newydd, bydd Dr Heather Ottaway a Dr Sally Holland o’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol yn mapio’r gwasanaethau cymorth ar ôl mabwysiadu presennol i benderfynu a oes gan yr holl deuluoedd sy’n mabwysiadu yng Nghymru fynediad i lefelau tebyg o wasanaethau ledled y wlad. Byddant hefyd yn archwilio anghenion a dymuniadau teuluoedd sy’n mabwysiadu i amlygu pa wasanaethau y maent yn eu gwerthfawrogi fwyaf ac unrhyw fylchau mewn cefnogaeth. Mae gwasanaethau cymorth yn cynnwys grwpiau cefnogaeth gan gymheiriaid, hyfforddiant rhianta arbenigol a therapi. Bydd yr adroddiad ymchwil, a ddisgwylir ym mis Mawrth 2014, yn llywio datblygiad dull Cymru gyfan o gynllunio cefnogaeth ar gyfer mabwysiadu.

Mewn ail astudiaeth, sydd ar y gweill ar gyfer 2014, bydd tîm rhyngddisgyblaethol o ymchwilwyr yn ymchwilio i brofiadau pob plentyn a fabwysiadwyd yng Nghymru mewn un flwyddyn (2014-15), gan fapio eu profiadau cyn mabwysiadu ac ôl mabwysiadu a helpu datgelu pa gymorth anffurfiol a ffurfiol sy’n helpu plant a fabwysiadwyd i ffynnu. Gyda chamau cyllido yn y dyfodol, bydd yn bosibl i ddilyn y grŵp hwn o blant wrth iddynt dyfu i fyny, gan nodi beth sy’n gwneud gwahaniaeth a pham y mae angen cymorth ychwanegol ar rai teuluoedd sy’n mabwysiadu.

Mae Dr Katherine Shelton (yr Ysgol Seicoleg), Dr Sally Holland a Dr Heather Ottaway (yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol) a Dr Julie Doughty (Ysgol y Gyfraith Caerdydd) wedi derbyn £200,000 trwy gais cystadleuol gan Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NISCHR) Llywodraeth Cymru i gynnal yr ymchwil.

Cafodd 327 o blant eu mabwysiadu o ofal yng Nghymru rhwng 1 Ebrill 2012 a 30 Mawrth 2013, sef cynnydd o 33% ar y flwyddyn flaenorol. Yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu yn ddiweddar yn y DU (4-8 Tachwedd 2013), roedd pwyslais ar yr angen i rieni posibl o bob cefndir ystyried mabwysiadu er mwyn darparu cartrefi ar gyfer y nifer cynyddol o blant y mae mabwysiadu’n cael ei weld fel y dewis cywir ar eu cyfer.

Dywedodd Dr Sally Holland, Darllenydd mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd ac un o’r ymchwilwyr ar y ddau brosiect newydd: "Mae llawer o blant a fabwysiadwyd wedi profi amddifadedd yn gynnar mewn bywyd a bydd ganddynt anghenion cymorth ychwanegol. Felly, mae’n hanfodol bod ymchwil yn datgelu’r ffyrdd gorau i’w helpu i ymgartrefu yn eu teuluoedd newydd a chael yr un cyfleoedd â phob plentyn.

"Bu ychydig iawn o ymchwil blaenorol ar fabwysiadu yng Nghymru a daw’r rhan fwyaf o’r dystiolaeth ymchwil o’r Unol Daleithiau neu Loegr. Rydym yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru’n buddsoddi yn natblygiad sylfaen dystiolaeth ar fabwysiadu yng Nghymru."

Dolenni cysylltiedig

Yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol