Skip to content
Skip to navigation menu

English

Mae rhywbeth yn y dŵr

05 Awst 2013

Penderyn - Geology map web

Mae Penderyn, sef distyllfa wisgi brag sengl arobryn sydd wedi’i lleoli ym Mannau Brycheiniog, yn cydweithio ag arbenigwyr geoamgylcheddol ym Mhrifysgol Caerdydd i ddysgu rhagor am ffynhonnell dŵr ffres danddaearol y ddistyllfa mewn astudiaeth fanwl a fydd yn datgelu nodweddion nodedig y ffynnon sy’n darparu’r dŵr ar gyfer un o’r wisgis mwyaf llwyddiannus yn y DU.

Mae Distyllfa Penderyn wedi’i lleoli ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac mae’n tynnu ei dŵr o ffynhonnell anarferol yn y calchfaen carbonifferaidd ymhell o dan y ddistyllfa, gan ei wneud yn gynhwysyn hanfodol yn ei wisgi brag sengl. Trwy archwilio chwareli, ffynonellau dŵr a ffurfiannau creigiau lleol, bydd y tîm ymchwil yn taflu goleuni ar ddaeareg yr ardal, y credir ei bod yn cynnwys dyffryn danrewlifol sy’n rhedeg o dan y ddistyllfa.

Yn ogystal ag ymchwil ddaearegol ar y safle, bydd y tîm hefyd yn archwilio hanes diwydiannol y ffynhonnell, er mwyn darganfod sut y cafodd ei defnyddio yn y gorffennol.

Caiff y prosiect ei arwain gan Dr Tim Jones, uwch ddarlithydd mewn daeareg amgylcheddol yn Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr, gyda chymorth Dr Peter Brabham sy’n arbenigwr mewn geoffiseg, a David Hull, myfyriwr gradd Meistr a fydd yn gweithio ar y prosiect ar sail amser llawn.

Caiff yr ymchwiliad cychwynnol i’r dŵr daear lleol, sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ei ddilyn gan archwiliad manwl o system y craigwely a disgwylir i’r tîm adrodd yn ôl ar y canlyniadau ym mis Medi.

Dywedodd Dr Jones: "Mae ein hymchwiliadau cyntaf yn awgrymu bod y ffynhonnell hon o ddŵr daear yn anarferol iawn.  Mae’r dyffryn ym Mhenderyn yn ddwfn, mewn siâp V yn ôl pob tebyg, ac yn torri trwy’r calchfaen carbonifferaidd, sydd bellach wedi’i lenwi â gwaddodion.  Mae glaw yn disgyn ar y dalgylch uwchben y ddistyllfa, yn tryddiferu trwy’r toriadau yn y calchfaen, ac yna’n cael ei sianelu ar hyd y dyffryn o dan y ddistyllfa.

"Bydd y prosiect yn edrych ar gyfeintiau dŵr daear, llwybrau’r dŵr daear hwnnw drwy’r ddaeareg leol ac yn cynghori’r ddistyllfa ar ddefnyddio’r adnodd lleol pwysig hwn mewn modd cynaliadwy." 

Ychwanegodd y rheolwr technegol yn Nistyllfa Penderyn, Giancarlo Bianchi: "Nid yw’n bosibl gorbwysleisio pa mor bwysig yw dŵr i’n distyllfa.  Mae’n fraint i ni fod â ffynhonnell ar gael o dan ein safle sydd wedi hidlo drwy Fannau Brycheiniog hynafol.  Mae hyn wedi rhoi cyflenwad o ddŵr naturiol, glân i ni a ddefnyddiwyd gennym ers blynyddoedd lawer bellach ac, wrth i’r ddistyllfa ymestyn ei chyfleusterau cynhyrchu, rydym am sicrhau ein bod yn rheoli’r ffynhonnell mewn modd cyfrifol a chynaliadwy. 

"Bydd gwaith y tîm o’r Adran Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr ym Mhrifysgol Caerdydd yn ein helpu i gyflawni’r nod hwn, yn ogystal â gwella ein dealltwriaeth o’r ddaeareg leol sy’n ffurfio’r dŵr rydym yn ei ddefnyddio."

Mae dod o hyd i ffynhonnell dŵr tanddaearol mewn ardaloedd calchfaen yn enwog am fod yn anodd, gan nad yw dŵr yn cael ei storio mewn mandyllau dyfrhaen creigiau fel sbwng fel y caiff ei ganfod mewn tywodfeini.  Mewn calchfaen anathraidd, caiff dŵr ei ganfod mewn trefniannau cymhleth o geudodau ac agennau tanddaearol sy’n anodd iawn eu rhagfynegi ac, yn aml, mae drilio am ddŵr yn waith doed a ddelo.

Ychwanegodd Dr Brabham: "Bydd y prosiect hwn yn defnyddio technegau geoffisegol i ddelweddu’r ddaeareg is-wyneb o gwmpas y ddistyllfa er mwyn ceisio dilyn a deall fframwaith tanddaearol tri dimensiwn y ffynhonnell ddŵr."

Dolenni cysylltiedig

Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr Caerdydd

Penderyn