Skip to content
Skip to navigation menu

English

Canolfan newydd bwysig i ddiwydiannau creadigol

16 Awst 2011

creative industries - web

Mae Caerdydd yn rhan o Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth newydd bwysig i’r Economi Creadigol, wedi’i hariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau ac a fydd yn hybu arloesedd creadigol a digidol ynghyd â chreu manteision i addysg, cymdeithas a busnes.

Ar y cyd â Phrifysgol Gorllewin Lloegr (UWE), prifysgolion Bryste, Caerwysg a Chaerfaddon, yn ogystal â chanolfan Watershed Bryste ac amrediad eang o bartneriaid yn y diwydiant creadigol, bydd Caerdydd yn dod yn rhan o’r Ganolfan Ymchwil a Menter yn y Celfyddydau a Thechnolegau Creadigol (REACT) ar gyfer Bryste , De Orllewin Lloegr a De Cymru.

Cyhoeddwyd pedair canolfan i gyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, sy’n cynrychioli buddsoddiad o oddeutu £16M dros bedair blynedd. Bydd y Canolfannau yn gyfrifol am feithrin partneriaethau newydd a galluedd entrepreneuraidd yn yr economi creadigol a chynyddu nifer yr ymchwilwyr yn y celfyddydau a’r dyniaethau sydd yn ymwneud â chyfnewid gwybodaeth sy’n seiliedig ar ymchwil.

Ian HARGREAVES WEBYr Athro Ian Hargreaves

Bydd yr Athro Ian Hargreaves, sydd â Chadair Economi Digidol yn yr Ysgol Astudiaethau Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Diwylliant ac Ysgol Fusnes Caerdydd yn arwain tîm Caerdydd. Y llynedd, cwblhaodd yr Athro Hargreaves adolygiad o ddiwydiannau creadigol yng Nghymru i Lywodraeth Cymru ac arweiniodd hyn at yr adroddiad The Heart of Digital Wales. Yn ddiweddar, arweiniodd adolygiad annibynnol o eiddo deallusol, a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog, David Cameron, a chyhoeddwyd ei adroddiad, Digital Opportunity ym mis Mai 2011.

Wrth drafod y Ganolfan REACT newydd, dywedodd yr Athro Hargreaves: "Mae hwn yn ganlyniad gwych i Gaerdydd, i’r prifysgolion sy’n bartneriaid i ni ac i fusnesau yn Ne Orllewin Lloegr a De Cymru. Bydd y gwaith a wneir gan y Ganolfan yn cael effaith uniongyrchol ar yr economi creadigol ac yn dod â manteision sylweddol i fusnesau ac addysg."

Bydd Canolfan REACT yn cael ei chyfarwyddo gan yr Athro Jonathan Dovey o Ganolfan Ymchwil Diwylliannau Digidol UWE yn Stiwdio Pervasive Media yn Watershed's ym Mryste. Ymhlith y partneriaid o Gymru sy’n rhan o’r fenter, mae Chapter, Opera Cenedlaethol Cymru a’r Do Lectures, sef sefydliad o Aberteifi.

Bydd y Canolfannau eraill yn cael eu harwain gan Brifysgol Caerhirfryn, Prifysgol Dundee a’r Frenhines Mary, Prifysgol Llundain. O ran Cynnyrch Mewnwladol Crynswth, mae’n debygol taw economi creadigol y DG – sy’n cynnwys y diwydiannau creadigol yn ogystal ag amgueddfeydd, cerddorfeydd a theatrau – yw’r sector creadigol mwyaf yn y byd. Fel y canolbwynt pwysig ar gyfer strategaeth newydd Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau ar gyfer cyfenwid gwybodaeth a dylanwadu 2011-2015, bydd y Canolfannau’n cymell rhyngweithio sylweddol rhwng ymchwil a’r economi creadigol a fydd yn creu manteision cymdeithasol, economaidd a diwylliannol.

Dywedodd yr Athro Rick Rylance, Prif Weithredwr y Cyngor, a chadeirydd y panel asesu a ddyfarnodd y gwobrau: "Mae’r DG yn rhagori mewn cynifer o bethau ac yn arwain y byd mewn rhai. O’r rhain, mae ansawdd ac arloesedd ein hymchwil a dynameg ein heconomi creadigol yn ddau sy’n nodedig. Mae’r Canolfannau Economi Creadigol hyn gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn cynnig cyfle i uno’r sectorau hyn er budd y naill ochr a’r llall a’r wlad yn gyffredinol. Daeth y consortia llwyddiannus o blith nifer o ymgeiswyr cryf eithriadol. Rydym yn eu llongyfarch ac yn edrych ymlaen at weithio’n agos â nhw a chroesawu canlyniadau eu gwaith."

Dywedodd David Willetts, y Gweinidog dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth: "Mae rhyngweithio gan fusnesau a phrifysgolion yn hanfodol er mwyn hybu twf. Mae’n galluogi busnesau a sefydliadau i fanteisio ar ein sylfaen ymchwil o safon fyd-eang ac i ennill gwybodaeth a syniadau newydd. Bydd y buddsoddiad pwysig hwn nid yn unig yn cyfoethogi’r diwydiannau creadigol, ond mae hefyd yn bleidlais o hyder yn yr ymchwil rhagorol mewn perthynas â’r celfyddydau a’r dyniaethau yn ein sefydliadau addysg uwch."

Dolenni perthynol:

 

Tags