Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Ocsiwn celfyddydau morol

24/11/2009

Yn mynd unwaith. Yr arwerthwr, yr Athro Tim Wess, yn paratoi i guro’r morthwyl

Yn mynd unwaith. Yr arwerthwr, yr Athro Tim Wess, yn paratoi i guro’r morthwyl

Mae’r Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg wedi cynnal digwyddiad yn ddiweddar i gefnogi’r Jubilee Sailing Trust yng Nghymru.  

Rhan o’r noson oedd ocsiwn celfyddydau, yn gwerthu gwaith a roddwyd gan artistiaid lleol.  Thema’r celfyddydwaith oedd Maritimia a bydd yn cael ei arddangos yn yr Ysgol tan y Nadolig.  

Wedi ei gynnal gan yr Athro Tim Wess, a ymgymerodd â rôl yr arwerthwr, cododd y digwyddiad gyfanswm o £2,455.

Caiff yr arian ei ddefnyddio i gefnogi teithiau môr i bobl â golwg gwael ar y Lord Nelson a’r Tenacious, llongau’r Jubilee Sailing Trust, sydd ag offer sy’n caniatáu i bobl ag anableddau corfforol hwylio arnynt.  

Dywedodd yr Athro Wess: “Mae digwyddiadau megis ein rhai ni yn helpu i godi ymwybyddiaeth a chefnogaeth ar gyfer y Jubilee Sailing Trust.  Hoffem ddiolch i bawb a’n cefnogodd mewn noson lwyddiannus iawn.”

Am fwy o wybodaeth am yr ymddiriedolaeth, ewch i: www.jst.org.uk