Skip to content
Skip to navigation menu

English

Mesur lles

27 Gorffennaf 2011

wordcloud - web

Mae un o brosiectau ymchwil y Brifysgol, a gomisiynwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), wedi cyfrannu at drafodaeth y llywodraeth ar sut i fesur lles cenedlaethol.

Gofynnwyd i ymchwilwyr yng Nghanolfan Cysylltiadau Busnes, Atebolrwydd, Cynaliadwyedd a’r Gymdeithas (BRASS) y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) - ar y cyd â’r elusen addysgol Techniquest - baratoi adroddiad i roi data rhagarweiniol ar farn pobl ifanc yng Nghymru am les.

Crybwyllwyd canfyddiadau’r adroddiad mewn sawl dogfen allweddol a gyhoeddwyd yr wythnos hon (25 Gorffennaf) yn ystod cyfnod chwe mis y drafodaeth genedlaethol ‘beth sydd o bwys i chi?’ a lansiwyd gan y Prif Weinidog, David Cameron, ym mis Tachwedd 2010.

Nod yr adroddiad cenedlaethol yw datblygu cyfres ddibynadwy o Ystadegau Gwladol i helpu i ddeall a monitro lles pobl ifanc. Y gobaith yw y bydd hyn yn cwmpasu ansawdd bywyd pobl yn y DU, ystyriaethau amgylcheddol a chynaliadwyedd, yn ogystal â pherfformiad economaidd y wlad.

Gofynnodd prosiect ymchwil BRASS i 129 o bobl ifanc (16-19 oed) yn ne Cymru esbonio beth oedd lles yn ei olygu iddyn nhw trwy gyfres o ddadleuon anffurfiol a thrafodaethau rhyngweithiol. Nod y gweithgareddau hyn hefyd oed penderfynu a oedd pobl ifanc o’r farn y dylai lles gael ei fesur ar gyfer eu grŵp oedran ac, os felly, sut.

Wellbeing methodology - web

Un o brif ganfyddiadau’r ymchwil oedd bod pobl ifanc yn ystyried mai eu ffrindiau a’u teulu oedd y peth pwysicaf i’w lles, o bell ffordd. Felly, perthnasau rhyngbersonol oedd y peth pwysicaf fel rhan allweddol o’u lles, wedi’i ddilyn gan sut maent yn cymdeithasu (chwaraeon, technoleg), a’r mannau a’r amseroedd y maent yn cymdeithasu (gartref, ysgol, penwythnosau).

Defnyddiodd y myfyrwyr nodiadau gludiog i sianelu eu meddyliau am y ffactorau sy’n gwneud bywyd yn dda, a gofynnwyd i’r grwpiau farcio categorïau lles ar bennau modelau gan ddyrannu mwy o le ar gyfer y categorïau pwysicaf. Defnyddiwyd cardiau stori a gwybodaeth hefyd i’w hannog i drafod ystyriaethau eraill a allai gyseinio â phobl ifanc.

Hefyd, cadarnhaodd y gwaith ymchwil fod y rhan fwyaf o bobl ifanc yn cytuno y dylid mesur lles ar gyfer eu grŵp oedran ac y dylid gwrando ar eu lleisiau a’u barn ar lefel gyfartal i grwpiau oedran hŷn.

Dywedodd un o awduron yr adroddiad, Dr Julie Newton, Cydymaith Ymchwil yn BRASS: "Fe wnaethon nhw (y bobl ifanc) ddweud wrthym ei bod yn werth chweil mesur lles ac roedd y mwyafrif ohonynt yn cytuno ei bod yn arbennig o berthnasol ar gyfer eu grŵp oedran nhw, gan mai nhw yw cenhedlaeth y dyfodol a fydd yn effeithio ar ddyfodol yr economi."

Hyd yn hyn, mae’r drafodaeth genedlaethol wedi canfod bod pobl yn credu ei bod yn bwysig mesur lles; gan fynegi bod iechyd, ffrindiau a theulu a boddhad yn y gwaith yn rhai o’r prif ffactorau sy’n dylanwadu ar les.

Bydd ONS yn parhau i gasglu data goddrychol o arolwg o aelwydydd yn cynnwys tua 200,000 o bobl, gan gyhoeddi’r canlyniadau cyntaf ym mis Gorffennaf 2012.

Dolenni perthnasol

 

Tags