Skip to content
Skip to navigation menu

English

Darganfyddiad anferthol

11 Awst 2010

Ailadeiladu Caerllion yn y cyfnod Rhufeinig, yn dangos y faestref anferthol newydd ei darganfod.Ailadeiladu Caerllion yn y cyfnod Rhufeinig, yn dangos y faestref anferthol newydd ei darganfod.

Mae archeolegwyr o’r Brifysgol wedi dod o hyd i ddarganfyddiad newydd pwysig a fydd yn newid y ffordd rydym yn meddwl am sut y cafodd Prydain ei gorchfygu a’i meddiannu gan fyddin y Rhufeiniaid bron i 2,000 o flynyddoedd yn ôl.

Daethpwyd o hyd i glwstwr o adeiladau anferthol y tu allan i’r gaer Rufeinig yng Nghaerllion yn Ne Cymru, sy’n debygol o arwain at ailystyried un o safleoedd Rhufeinig pwysicaf y wlad.

Gwnaed y darganfyddiad ar hap a damwain - roedd myfyrwyr o’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd yn dysgu sut i ddefnyddio offer geoffisegol mewn caeau y tu allan i’r gaer y credir nad oedd wedi’i meddiannu’n helaeth yn ystod y cyfnod Rhufeinig. Ddeg diwrnod yn ddiweddarach, roedd y myfyrwyr a’u tiwtoriaid wedi datgelu olion cyfres o adeiladau enfawr yn y tir rhwng yr amffitheatr ac Afon Wysg.

Dywedodd Dr Peter Guest, Uwch Ddarlithydd mewn Archaeoleg Rufeinig yn yr Ysgol: "Mae Caerllion yn un o’r safleoedd Rhufeinig mwyaf adnabyddus ym Mhrydain, felly roedd yn syndod sylweddoli ein bod wedi dod o hyd i rywbeth hollol newydd a chwbl annisgwyl. Rydym wedi darganfod olion nifer o adeiladau mawr iawn sydd wedi’u dangos yn hynod glir ar yr arolygon geoffisegol a wnaed gan ein myfyrwyr.

"Mae’n anodd bod yn sicr ynghylch yr hyn rydym wedi ei ddarganfod gan nad oes unrhyw beth fel hyn wedi’i ddarganfod ym Mhrydain Rufeinig o’r blaen. Mae cynlluniau sylfeini’r adeiladau yn awgrymu iddynt fod o gryn bwysigrwydd. Credwn y gallent fod wedi cynnwys marchnadoedd, adeiladau gweinyddol megis neuaddau trefi, baddondai, adeiladau storio, neu hyd yn oed demlau. Mae’r un mwyaf yn anferthol ac mae’n rhaid ei fod yn un o’r adeiladau mwyaf y daethpwyd o hyd iddo ym Mhrydain Rufeinig erioed. Gallwn ond dyfalu ei ddiben, ond ar hyn o bryd rydym yn ystyried y syniad fod ganddo rywbeth i’w wneud â harbwr ar yr afon, er ei fod yn edrych yn hynod debyg i adeilad o fila preswyl - os yw hynny’n wir, cafodd ei adeiladu ar raddfa wych.

"Mae trefn a maint yr adeiladau’n edrych fel y dylent fod ynghanol tref neu ddinas," parhaodd Dr Guest, "ond yma yng Nghaerllion, ymddengys fod gennym y mannau cyhoeddus canolog heb y ddinas o’i hamgylch - ble mae’r bobl a fyddai wedi defnyddio’r adeiladau hyn? Efallai y bwriadwyd iddynt gael eu defnyddio gan leng-filwyr yr Ail Awgwstaidd, ond mae hefyd yn bosibl mai dyma’r dystiolaeth gyntaf o gynlluniau Rhufeinig i ddatblygu caer yng Nghaerllion i fod yn anheddiad pwysig yng ngorllewin Prydain - cynlluniau na wnaeth erioed ddwyn ffrwyth am ryw reswm. Dyna’r hyn sy’n wych am ddarganfyddiad archaeolegol fel hyn - llawer o gwestiynau newydd nad oes gennym atebion pendant iddynt ar hyn o bryd."

Un ymhlith tair caer lengol barhaol ym Mhrydain yw Caerllion. Mae’r ceyrydd eraill yng Nghaer a Chaerefrog yn anoddach o lawer i’w cloddio gan fod eu holion wedi’u claddu o dan ddinasoedd gan amlaf. Yng Nghaerllion y ceir yr unig gyfle i astudio llengoedd Rhufeinig ym Mhrydain.

Gwnaed y darganfyddiad newydd fel rhan o gloddfeydd cyfredol yr Ysgol ar y safle. Dros y pedair blynedd diwethaf, mae staff a myfyrwyr wedi datgelu wyth bloc barics a fu’n anhysbys gynt, tair ysgubor fawr, gweithdy metel anferthol ac adeilad storio mawr iawn. Ar achlysuron, mae aelodau o’r cyhoedd wedi helpu gyda’r cloddio hefyd.

Rhwng 9 Awst a 17 Medi 2010, bydd tîm o archaeolegwyr, ynghyd â staff a myfyrwyr o Goleg Prifysgol Llundain yng Nghaerllion am eu tymor olaf o gloddio. Caiff ei gynnal ger safle’r darganfyddiad newydd ac mae’r tîm yn gobeithio datgelu hyd yn oed fwy o wybodaeth am y gaer a’i thrigolion.

"Byddwn yn treulio chwe wythnos yng Nghaerllion yr haf hwn, yn cloddio o fewn waliau’r gaer gyda chydweithwyr o Goleg Prifysgol Llundain. Rydym yn gobeithio datgelu hyd yn oed yn fwy o wybodaeth am y gaer a’i lleng ac rwy’n siŵr y bydd ein gwaith yn arwain at ganlyniadau cyffrous iawn," meddai Dr Guest. "Mae’r gloddfa ar agor i’r cyhoedd a byddem yn hynod falch o weld pobl yn dod draw gyda’r teulu a ffrindiau i ddysgu mwy am y gwaith rydym yn ei wneud."

Bydd teithiau tywysedig o gloddfa Maes y Priordy ar gael ddwywaith y dydd bob dydd (11 am a 2.30pm, ac eithrio dydd Llun), ac mae’r gloddfa ar agor drwy gydol penwythnos Gŵyl Banc yr Haf (28 - 30 Awst 2010). Yn ogystal â theithiau, bydd arddangosfeydd o’r canfyddiadau diweddaraf, ‘cloddio mini’, a’r cyfle i siarad ag archaeolegwyr am y ffordd maent yn cloddio safleoedd hynafol.

I ddilyn hynt yr archaeolegwyr ar y cloddfeydd yng Nghaerllion eleni, ewch i Flog y Gloddfa sef: http://www.britarch.ac.uk/caf/wikka.php?wakka=CaerleonLegionaryFortress

Related Links