Skip to content
Skip to navigation menu

English

Swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol yn clywed darganfyddiadau ymchwil newydd ynglŷn â’r iaith Gymraeg

23 Ionawr 2009

Mae siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o gefnogi annibyniaeth wleidyddol na’r rheiny nad ydynt yn siarad Cymraeg, yn ôl ymchwil newydd gan yr Ysgol Seicoleg.

Cynhaliwyd yr ymchwil gan grŵp ymchwil Social Identity and Social Action in Wales, ac fe’i amlinellwyd mewn seminar yn y Cynulliad Cenedlaethol yr wythnos hon. Archwiliodd sut y diffinnir hunaniaeth Gymreig, ac ymchwiliodd sut y mae hyn yn cyfeirio pobl at brosiectau gwleidyddol gwahanol sy’n ymwneud â datblygu Cymru, gan gynnwys cymathu â Lloegr, datganoli ac annibyniaeth.

Ymhlith canfyddiadau allweddol yr adroddiad, mae cyswllt rhwng gallu o ran yr iaith Gymraeg, adnabyddiaeth genedlaethol, a chefnogaeth ar gyfer ymreolaeth genedlaethol. Gwnaeth yr ymchwil ddarganfod bod gan siaradwyr Cymraeg adnabyddiaeth genedlaethol gryfach a’u bod yn fwy tebygol o fod yn gadarnhaol tuag at ymreolaeth genedlaethol na’r rheiny nad ydynt yn siarad Cymraeg.

Dywedodd y prif ymchwilwyr, yr Athro Russell Spears a’r Athro Tony Manstead: "Roedd gennym ddiddordeb yn y berthynas rhwng gallu yn yr iaith Gymraeg ac agweddau tuag at ymreolaeth wleidyddol a’r rôl sy’n cael ei chwarae gan adnabyddiaeth genedlaethol yn y berthynas hon. Efallai nid yw’n syndod bod ein hymchwil yn cadarnhau bod yr iaith Gymraeg yn chwarae rôl bwysig mewn hunaniaeth genedlaethol yng Nghymru, gan ddarparu ffynhonnell bwysig o amlygrwydd, treftadaeth a balchder cenedlaethol.

"Mae gan allu o ran yr iaith Gymraeg y potensial hefyd i effeithio ar gefnogaeth ar gyfer gweithrediad gwleidyddol - fel ymreolaeth genedlaethol yng Nghymru. Yn arbennig, gwnaethom ddarganfod bod y gallu i siarad Cymraeg yn gysylltiedig ag adnabyddiaeth Gymreig, a chydag agweddau mwy cadarnhaol tuag at ymreolaeth wleidyddol.

"Ochr arall fodd bynnag, yw bod gallu is o ran yr iaith Gymraeg yn gysylltiedig ag adnabyddiaeth Gymreig, sydd yn ei dro yn rhagweld llai o gefnogaeth ar gyfer ymreolaeth."

Yn fwy o syndod, darganfu’r Grŵp, mewn rhanbarthau sy’n siarad Cymraeg, fod gallu isel o ran yr iaith Gymraeg yn gysylltiedig â mwy o adnabyddiaeth Seisnig, hyd yn oed ymhlith y bobl hynny a oedd yn ystyried eu hunain yn Gymry. Yn y rhanbarthau hyn, mae gan Gymry â gallu isel o ran y Gymraeg hunaniaeth Gymreig gryf, ond ar yr un pryd, mae ganddynt adnabyddiaeth Seisnig uwch na’u cymhreiriaid sy’n siaradwyr rhugl. Mae hyn yn rhagweld llai o gefnogaeth ar gyfer ymreolaeth wleidyddol, ac yn eu gwneud nhw’n llai cadarnhaol am fwy o ymreolaeth i Gymru.

Mae’r cyswllt hwn rhwng gallu o ran y Gymraeg ac adnabyddiaeth Seisnig yn awgrymu, er bod y rheiny nad ydynt yn siarad Cymraeg sy’n byw mewn ardaloedd sy’n siarad Cymraeg yn dal i deimlo’n Gymreig iawn, gallant hefyd ddechrau gweld eu hunain rywfaint yn Seisnig. Mae hyn yn adlewyrchu eu sefyllfa fel dieithriaid cymharol mewn cyd-destunau siarad Cymraeg cref - rhywbeth nad yw’n amlwg yn wir mewn ardaloedd nad ydynt yn siarad Cymraeg yn y de a’r dwyrain", meddai’r Athro Spears a’r Athro Manstead.

Archwiliodd yr ymchwil, Social Identity and Social Action in Wales: The role of group emotions y cysylltiad rhwng gwleidyddiaeth a gwrthdystio hefyd, gan ddod i’r casgliad bod cefnogaeth ar gyfer gweithrediadau mwy radical pan fo hunaniaeth Gymreig yn cael ei chanfod yn fregus mewn cymunedau a lle mae hunaniaeth yn fwyaf diffiniedig o ran yr iaith Gymraeg.

Am fwy o wybodaeth ar Social Identity and Social Action in Wales: The role of group emotions, ewch i: http://www.caerdydd.ac.uk/psych/sisaw

Tags

More Tags