Skip to content
Skip to navigation menu

English

Llwyddiant cenedlaethol i fenter addysgu

10 Mehefin 2009

O’r dde i’r chwith: Ann Mroz, Golygydd Times Higher Education, Dr Malcolm Read, Ysgrifennydd Gweithredol JISC,  Dr Maria Gonzalez, Adran Ddermatoleg Helen Pugsley, Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Ddermatoleg, a Rory Bremner.O’r dde i’r chwith: Ann Mroz, Golygydd Times Higher Education, Dr Malcolm Read, Ysgrifennydd Gweithredol JISC, Dr Maria Gonzalez, Adran Ddermatoleg Helen Pugsley, Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Ddermatoleg, a Rory Bremner.

Mae prosiect arloesol y Brifysgol sy’n mynd i’r afael ag anawsterau darparu cyfleoedd i fyfyrwyr meddygol arsylwi llawdriniaeth fyw wedi cael ei gydnabod yng Ngwobrau Arwain a Rheoli cyntaf Times Higher Education.

Enillodd Prosiect Prifysgol Byd-eang, sy’n cael ei gynnal gan Adran Ddermatoleg yr Ysgol Feddygaeth, y categori Menter TGCh Rhagorol am ei ddefnydd o’r dechnoleg ddiweddaraf er budd myfyrwyr o bob cwr o’r byd.

Mae cyfyngiadau corfforol theatrau llawdriniaeth yn golygu bod gan fyfyrwyr meddygol a meddygon dan hyfforddiant gyfleoedd cyfyngedig i arsylwi llawdriniaeth fyw. Mewn ymateb i hyn, gwelodd cam un y Prosiect Prifysgol Byd-eang gosod cyswllt fideo croyw o theatr llawdriniaeth dermatoleg i ystafell seminar yn yr un adeilad.

Caiff sesiynau eu cymedroli gan ddarlithydd fel y gall myfyrwyr yn yr ystafell seminar weld triniaethau yn ogystal â chyfathrebu â’r llawfeddyg drwy gyswllt meicroffon dwy ffordd.

Ar ôl y llwyddiant cychwynnol hwn, cafodd feddalwedd gwe-ddarlledu ei integreiddio i’r system er mwyn galluogi’r adran i ddarlledu triniaethau llawfeddygol dermatolegol i gynulleidfa ryngwladol drwy’r rhyngrwyd. Gellir ffrydio fideo’n fyw yn ogystal â’i recordio er mwyn ei ddefnyddio’n hwyrach.

Dywedodd yr is-ganghellor Dr David Grant: "Rwyf yn llongyfarch yr Adran Ddermatoleg ar ei llwyddiant yng Ngwobrau Arwain a Rheoli Times Higher Education. Mae’r Prosiect Prifysgol Byd-eang yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at wella addysgu llawfeddygol mewn ysgolion meddygol. Hefyd, mae’n caniatáu myfyrwyr a meddygon ledled y byd i elwa o arbenigedd Caerdydd."

Dywedodd Dr Maria Gonzalez, Cyfarwyddwr a Darlithydd y Cwrs Dermatoleg Ôl-raddedig, "Rwyf yn hapus iawn bod ein tîm wedi derbyn y wobr hon. Un o brif fanteision ein system yw bod myfyrwyr yn gallu gweld llawdriniaeth ddermatolegol arbenigol yn cael ei pherfformio mewn Canolfan o Ragoriaeth. Pe bai manteision tebyg yn cael eu gweld mewn prifysgolion eraill, mae gan system o’r fath y pŵer i chwyldroi'r modd y caiff llawdriniaeth ei haddysgu. Mae’r potensial ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth yn ddifesur."

Dywedodd, Ann Mroz, golygyddd Times Higher Education, wrth sôn am yr ymgeisydd a enillodd: "Goresgynnodd Prifysgol Caerdydd rwystrau i ddarparu’r cyfle i feddygon dan hyfforddiant weld llawdriniaeth fyw gyda menter wych a oedd yn dangos pŵer ymarferol TGCh. Mae’r genhedlaeth nesaf o feddygon yn siŵr o elwa o’i defnydd o gysylltiadau fideo diffiniad uchel er mwyn rhoi sedd flaen yn y theatr llawdriniaeth i fyfyrwyr, ac o’r herwydd dylid eu cymeradwyo."

Caerdydd oedd yr unig brifysgol yng Nghymru i ennill gwobr mewn cinio gala i ddathlu dawn arwain a rheoli mewn addysg uwch.

Wrth roi mynediad cydradd at sesiynau llawfeddygol i bob dysgwr, mae’r Prosiect Prifysgol Byd-eang yn tynnu ymaith elfen y loteri i fyfyrwyr a chofrestrwyr ledled Cymru, sydd i gyd wedi gorfod cystadlu yn y gorffennol am gyfleodd cyfyngedig i fynychu llawdriniaethau eu hunain. Mae gan y dechnoleg y potensial i gyrraedd cynulleidfa ddiddiwedd lle ceir mynediad at gysylltiad band eang cyflym iawn.

Ar hyn o bryd mae’r tîm yn darlledu i fyfyrwyr israddedig ar leoliad, cofrestrwyr, meddygon ôl-raddedig sy’n dysgu o bell, ac aelodau o Gymdeithas Datblygiad Proffesiynol Parhaus yr adran a leolir mewn mwy na 30 o wledydd.

Cynhaliwyd seremoni Gwobrau Arwain a Rheoli Times Higher Education yng ngwesty’r Hilton yn Llundain, a fe’i cyflwynwyd gan y digrifwr a’r dynwaredwr Rory Bremner. Noddwyd y categori Menter TGCh Rhagorol gan y Cydbwyllgor Systemau Gwybodaeth.

www.cardiff.ac.uk/webresources/video/video-player.swf width=440 height=340 type=application/x-shockwave-flash bgcolor="#ffffff" quality="high" wmode="" salign="t" allowfullscreen="true" flashvars="autoP=false&vidWidth=320&vidHeight=240&vidVolume=.7&vidSkin=http://www.cardiff.ac.uk/styles/_core/videoskins/CF_SkinUnderAllNoCaption.swf&vidSource=http://www.cardiff.ac.uk/webresources/video/derma.flv">

Tags