Skip to content
Skip to navigation menu

English

Canfyddiadau newydd yn ymwneud ag ADHD

11 Tachwedd 2011

Prof Anita Thapar - webAthro Anita Thapar

Gallai cyfuniad o amrywiadau genetig prin a chyffredin chwarae rhan mewn llwybrau biolegol sy’n gysylltiedig ag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD).

Datgelodd gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd y llynedd fod plant sy’n dioddef o’r anhwylder, fel y rheiny ag awtistiaeth, yn fwy tebygol nag unigolion nad effeithir arnynt i gario segmentau DNA bach wedi’u dyblygu neu’u hepgor, o’r enw amrywiadau nifer copi (CNV). Roedd y canfyddiadau’n awgrymu bod amrywiadau genetig prin yn cyfrannu at risg anhwylder ADHD. Mae canfyddiadau tebyg wedi’u canfod ar gyfer awtistiaeth, sgitsoffrenia ac anabledd deallusol.

Nawr mae astudiaeth ehangach gan yr un tîm a chydweithwyr yng Ngweriniaeth Iwerddon ac yn yr Alban wedi atgynhyrchu’r canfyddiadau cychwynnol, sef bod y CNVau mawr, prin hyn yn fwy cyffredin ymhlith plant ag ADHD nag ymhlith y boblogaeth gyffredinol. Mae eu canfyddiadau yn awgrymu’n ogystal y gallai math mwy cyffredin o amrywiad genetig o’r enw Amryffurfedd Niwcleotidau Sengl (SNPau) fod yn berthnasol i risg ADHD hefyd. Mae wedi bod yn anodd nodi amrywiadau genetig cyffredin penodol ar gyfer anhwylderau fel ADHD ac awtistiaeth. Fodd bynnag, canfu’r astudiaeth newydd fod mathau prin a chyffredin o amrywiadau genetig i weld yn effeithio ar yr un llwybrau biolegol. Mae’r canfyddiadau’n awgrymu bod mathau gwahanol o amrywiadau genetig yn effeithio ar lwybrau tebyg sy’n gysylltiedig â’r anhwylder.

Nodweddir Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd gan aflonyddwch eithafol, anesmwythdra, problemau canolbwyntio a byrbwylltra yn arwain at anawsterau cymdeithasol ac addysgol. Mae llawer o blant yr effeithir arnynt hefyd yn dioddef o anhwylder y sbectrwm awtistig, symptomau math awtistig, dyslecsia, problemau datblygiadol, anawsterau cydsymud echddygol ac anawsterau ymddygiad. Ar gyfer yr astudiaeth a gyhoeddwyd y llynedd, aeth tîm Caerdydd ati i ddadansoddi data gan 366 o blant ag ADHD. Ar gyfer yr ymchwil newydd, buont yn astudio ddwywaith gymaint o blant - 727 - a chanfod o hyd bod y CNVau prin yn fwy cyffredin yn eu plith nag mewn plant heb y cyflwr.

Buodd y tîm yn archwilio amrywiadau SNP mwy cyffredin hefyd, a chanfod nad oedd unrhyw wahaniaeth sylweddol rhwng plant ag ADHD neu hebddo. Fodd bynnag, roedd 13 o lwybrau biolegol a oedd yn cysylltu ag amrywiadau CNV hefyd yn cysylltu â’r amrywiadau SNP. Mae’r llwybrau a nodwyd yn effeithio ar ddatblygiad y system nerfol ganolog ac roedd pedwar yn gysylltiedig â cholesterol, cydran bwysig yr ymennydd.

Dywedodd yr Athro Anita Thapar, Athro Seiciatreg Plant a Phobl Ifanc yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, a arweiniodd yr astudiaeth: "Mae’r canlyniadau hyn yn atgynhyrchu ein canfyddiad y llynedd, sef bod amrywiadau nifer copi mawr a phrin gryn dipyn yn fwy cyffredin ymhlith plant ag ADHD na phlant nad effeithir arnynt. Fodd bynnag, dangoswn hefyd fod angen archwilio amrywiadau genetig eraill ac ni ellir diystyru bod gan SNPau ran i’w chwarae. Rydym hefyd wedi nodi 13 o lwybrau biolegol i ymchwilio iddynt. Mae ADHD yn anhwylder cymhleth fel pob problem niwroseiciatrig, sy’n golygu y bydd amryfal fathau o ffactorau risg genetig a heb fod yn enetig yn gysylltiedig".

Mae’r papur llawn Investigating the Contribution of Common Genetic Variants to the Risk and Pathogenesis of ADHD newydd ei gyhoeddi yn yr American Journal of Psychiatry. Ariannwyd yr ymchwil gan Ymddiriedolaeth Wellcome.