Skip to content
Skip to navigation menu

English

Genynnau Alzheimer newydd wedi’u canfod

04 Medi 2009

Athro Julie WilliamsAthro Julie Williams

Fe allai canfod dau ennyn newydd sy’n gysylltiedig â chlefyd Alzheimer roi arweiniad gwerthfawr newydd yn y ras i ddod o hyd i driniaethau, ac iachâd o bosibl, i’r cyflwr dinistriol, yn ôl un o wyddonwyr blaenllaw’r Brifysgol.

Mae’r Athro Julie Williams, Yr Ysgol Feddygaeth, wedi cwblhau’r gydastudiaeth gyswllt fwyaf erioed ar draws dilyniant cyfan genomau clefyd Alzheimer (GWAS), a gynhwysodd 16,000 o unigolion.

Roedd yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn Nature Genetics, yn datgelu dau ennyn newydd sy’n gysylltiedig â chlefyd Alzheimer. Yn flaenorol, dim ond un genyn, sef APOE4, a ddangoswyd i fod yn ffactor risg ar gyfer clefyd Alzheimer.

Mae’r astudiaeth yn datgelu, am y tro cyntaf, bod dau ennyn arall, sef CLU a PICALM, yn gysylltiedig â chlefyd Alzheimer.

Dywedodd yr Athro Julie Williams, a arweiniodd yr astudiaeth: "Mae CLU a PICALM yn amlygu llwybrau newydd sy’n arwain at glefyd Alzheimer. Mae CLU yn glwsterin - math o brotein - sydd fel arfer yn amddiffyn yr ymennydd mewn amrywiaeth o ffyrdd. Gallai amrywiad yn y genyn hwn ddileu’r amddiffyniad hwn a chyfrannu at ddatblygiad Alzheimer.

"Mae PICALM yn bwysig wrth synapsau – cysylltiadau rhwng celloedd yr ymennydd – ac mae’n rhan o’r broses cludo molecylau i mewn i gelloedd nerfau a thu mewn iddynt, gan helpu i ffurfio’r cof a swyddogaethau eraill yr ymennydd.

"Rydym yn gwybod bod cyswllt agos rhwng iechyd y synapsau â pherfformiad y cof mewn clefyd Alzheimer, felly mae newidiadau mewn genynnau sy’n effeithio ar synapsau yn debygol o gael effaith uniongyrchol ar ddatblygiad clefyd."

Ariannwyd yr astudiaeth gan Ymddiriedolaeth Wellcome, Y Cyngor Ymchwil Feddygol, Ymddiriedolaeth Ymchwil Alzheimer a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Roedd yr ymchwil, dan arweiniad y Brifysgol, hefyd yn cynnwys gwyddonwyr o brifysgolion yn Llundain, Caergrawnt, Nottingham, Southampton, Manceinion, Rhydychen, Bryste a Belfast, a fu’n cydweithio gyda sefydliadau yn Iwerddon, yr Almaen, Gwlad Belg, Groeg ac America.

Y canfyddiadau yw rhai o’r cyntaf i ddod i’r amlwg o ganolfan ymchwil flaenllaw newydd y Brifysgol, sef y Ganolfan Ymchwil Feddygol (MRC).

Nod benodol y Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatreg yn y Brifysgol – yr unig Ganolfan MRC o’i math yng Nghymru – yw harneisio’r chwyldro geneteg ar gyfer ymchwil i anhwylderau meddwl.

Fe’i cefnogir hefyd gan gyllid oddi wrth Swyddfa Cymru ar gyfer Ymchwil a Datblygu Llywodraeth Cynulliad Cymru, a’r Brifysgol ei hun, gan wneud cyfanswm o dros £4M.

Mae Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, wedi galw’r canfyddiadau yn ‘bluen yn het’ Cymru am ei henw da fel canolfan ar gyfer ymchwil gyda’r gorau yn y byd.

Dywedodd Rhodri Morgan: "Mae’r datblygiad mawr hwn yn y frwydr i ddeall ac i ddatblygu triniaethau ar gyfer clefyd Alzheimer yn newyddion da i’r 37,000 o bobl yng Nghymru a’u gofalwyr yr effeithir arnynt gan Alzheimer neu fathau eraill o ddementia.

"Mae’n bluen go iawn yn het gwyddoniaeth Cymru fod yr astudiaeth hon wedi’i harwain gan wyddonydd o Gymru, sef yr Athro Julie Williams, a bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gallu rhoi cymorth ariannol i’w gwaith. Bydd ymchwil o safon fyd-eang fel hon yn helpu i arwain at well driniaeth ar gyfer y clefyd gofidus hwn, ac fe allai un diwrnod olygu y gallwn wella dementia hyd yn oed."

Agorwyd y Ganolfan ym mis Ebrill 2009 o dan gyfarwyddiaeth yr Athro Mike Owen o Ysgol Feddygaeth y Brifysgol, ac fe’i lansiwyd yn swyddogol gan Brif Weinidog Cymru.

Dywedodd Yr Athro Mike Owen, Yr Ysgol Feddygaeth, a gyd-arweiniodd yr ymchwil gyda’r Athro Williams: "Mae’r canfyddiadau hyn yn canlyniad o dros 15 mlynedd o waith caled gan nifer o wyddonwyr a doctoriaid ifanc a hoffwn talu teyrnged iddyn nhw ac hefyd yr holl ddioddefwyr a teuluoedd sydd wedi helpu gyda’r gwaith.

"Yr her nawr yw ceisio deall sut y mae dylanwadau genetig cymharol gynnil yn arwain at afiechyd a sut y gallwn ymyrryd i atal hyn rhag digwydd."

Ychwanegodd yr Athro Williams, "Mae’r Ganolfan MRC ac ymchwil fel hon yn newid ein dealltwriaeth o’r hyn sy’n achosi’r math cyffredin o glefyd Alzheimer, ac mae’n rhoi arweiniad newydd gwerthfawr yn y ras i ddod o hyd i driniaethau, a gwellhad hyd yn oed.

"Mae hefyd yn dangos y gellir nodi genynnau eraill drwy ddefnyddio’r dull hwn, ac rydym eisoes yn cynllunio astudiaeth fwy sy’n cynnwys 60,000 o bobl, y gellir ei chyflawni o fewn y flwyddyn nesaf.

"Mae’n bwysig hefyd cydnabod cyfraniad llawer o bobl o Gymru sydd wedi gweithredu fel gwrthrychau ar gyfer yr ymchwil hon dros y blynyddoedd."