Skip to content
Skip to navigation menu

English

Cyhoeddi golwg newydd ar gysylltiadau Cymru gyda Phatagonia

04 Awst 2009

Dr E Wyn James

Bydd llyfr newydd sy’n cloddio i hanes y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia ac a ysgrifennwyd gan gyd-gyfarwyddwyr Canolfan Astudiaethau Americanaidd Cymreig Prifysgol Caerdydd yn cael ei ddadorchuddio heddiw (Dydd Mawrth 4 Awst) yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd Dr E Wyn James o Ysgol y Gymraeg a Dr Bill Jones o’r Ysgol Hanes ac Archeoleg yn lansio Michael D Jones A’i Wladfa Gymreig - sy’n sôn am fforiadau sylfaenydd y gwladychiadau yn yr Ariannin dros 140 o flynyddoedd yn ôl.

Mae’r llyfr yn cynnwys erthyglau ar agweddau gwahanol ar ei fywyd a’i waith ac yn ceisio archwilio’r antur arwrol yn 1865 dan arweiniad Michael D. Jones, a ddaeth o’r Bala yn wreiddiol, ac i ailasesu pwysigrwydd ei fywyd i’r genedl.

"Mae gan y Brifysgol nifer o gysylltiadau agos â Phatagonia, nifer ohonynt yn ymestyn yn ôl dros lawer o flynyddoedd," meddai Dr E. Wyn James.

"Sefydlwyd Canolfan Astudiaethau Americanaidd Cymreig Caerdydd, sydd yn Ysgol y Gymraeg, yn 2001 ac mae wedi trefnu nifer o ddarlithoedd a chynadleddau ynghylch y Wladfa Gymreig. Mae rhannau o’r llyfr hwn wedi dod i’r golwg oherwydd y gwaith ymchwil hwnnw."

Mae gan y Brifysgol berthynas gref hefyd gyda Phrifysgol Genedlaethol Patagonia, sydd ar fin datblygu ymhellach dros y blynyddoedd i ddod drwy ymweliadau astudio rheolaidd gan staff a myfyrwyr y ddau sefydliad, a wnaed yn bosibl gan nawdd gan Banco Santander. Y Brifysgol oedd y sefydliad addysg cyntaf yng Nghymru i greu partneriaeth arloesol gyda ‘Phrifysgolion Santander’.

Bydd lansio’r llyfr ar ddydd Mawrth am 10am yn y Babell Lên.

Hefyd ar ddydd Mawrth bydd y garfan gyntaf o fyfyrwyr a fydd wedi bod yn llwyddiannus yn ennill y Cymhwyster Cenedlaethol i diwtoriaid a gynlluniwyd gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg y Brifysgol yn cael eu dyfarniadau yn ystod seremoni am 1pm ym Mhabell y Dysgwyr ar Faes D. Yn dilyn y seremoni, bydd Carole Bradley o’r Brifysgol sy’n cynnal y cwrs, yn rhoi sgwrs am y Cymhwyster Tiwtoriaid Cymraeg ym Mhabell y Brifysgol, y drws nesaf i’r Babell Gwyddoniaeth a Thechnoleg am 3pm.

Gellir olrhain Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn ôl i 1176 a hi yw’r ŵyl ddiwylliannol fwyaf a hynaf o gerddoriaeth a barddoniaeth gystadleuol yn Ewrop. Hi yw’r achlysur celfyddydol pennaf yng Nghymru, yn denu tua 150,000 o bobl bob blwyddyn a mwy na 6,000 o gystadleuwyr.

Mwy am ddigwyddiadau’r Brifysgol yn yr Eisteddfod - www.caerdydd.ac.uk/eisteddfod

Tags