Skip to content
Skip to navigation menu

English

Partneriaeth newydd yn cryfhau cysylltiadau rhyngwladol

02 Mawrth 2009

Mae’r Brifysgol wedi llofnodi Memorandwm Cytundeb a fydd yn helpu i fynd i’r afael â’r galw cynyddol am fferyllwyr ym Malaysia.

Bydd y cytundeb newydd rhwng Ysgol Fferylliaeth Cymru a Choleg Prifysgol Taylor, coleg addysg uwch preifat blaenaf Malaysia, yn arwain at ddarpariaeth gydweithrediadol o raglenni gradd fferylliaeth sy’n seiliedig ar gwricwlwm Caerdydd.

Yn amodol ar geisio a sicrhau cymeradwyaeth gan y cyrff proffesiynol perthnasol, caiff dwy flynedd gyntaf y rhaglen eu haddysgu yn Taylor’s. Bydd y ddwy flynedd olaf yn gweld myfyrwyr naill ai’n aros ym Malaysia ac yn graddio gyda dyfarniad o Taylor’s (Baglor mewn Fferylliaeth BPharm) neu’n symud i Gymru ac yn graddio gyda dyfarniad Meistr mewn Fferylliaeth (MPharm) o’r Brifysgol.

Bydd y myfyrwyr BPharm yn dilyn llwybr sy’n seiliedig ar raglen Caerdydd, ond caiff ei haddasu yn y ddwy flynedd olaf er mwyn bodloni gofynion Bwrdd Fferylliaeth Malaysia. Mae’r cydweithio amserol hwn yn mynd i’r afael â’r angen am fwy o fferyllwyr ym Malaysia gan fod ymarfer fferylliaeth y wlad yn ehangu ar raddfa a fydd yn gofyn am ddwywaith y nifer bresennol o fferyllwyr erbyn 2010.

Yr wythnos hon, o flaen cydweithwyr o’r ddwy Brifysgol, llofnodwyd y cytundeb yn ffurfiol gan yr Is-Ganghellor Dr David Grant ac Is-Ganghellor Taylor’s yr Athro Dato’ Dr Hassan Said.

Dywedodd Dr David Grant: "Bydd y rhaglen bartneriaeth newydd hon, gan ddefnyddio arbenigedd Caerdydd, yn darparu cenhedlaeth newydd o fferyllwyr a all helpu ateb y galw cynyddol am eu proffesiwn ym Malaysia."

Dywedodd Dato’ Hassan: "Yng Ngholeg Prifysgol Taylor rydym ni’n gosod y pwysigrwydd pennaf ar rannu gwybodaeth ac felly rydym yn edrych ymlaen at hwyluso’r cyfnewid syniadau ac arbenigedd gyda Phrifysgol Caerdydd. Bydd y bartneriaeth hon yn sicrhau bod ein myfyrwyr fferylliaeth yn derbyn cymwysterau a gydnabyddir yn rhyngwladol."

Mae Caerdydd yn ddewis poblogaidd ar gyfer myfyrwyr o Falaysia gyda mwy na 300 o fyfyrwyr a gynrychiolir ar draws ystod o bynciau ar hyn o bryd, gan gynnwys peirianneg, busnes, y gyfraith, fferylliaeth, meddygaeth, pensaernïaeth a biowyddorau.

Dywedodd yr Athro Stephen Denyer, Pennaeth Ysgol Fferylliaeth Cymru: "Mae Ysgol Fferylliaeth Cymru ar frig tablau cynghrair y DU ar gyfer addysg Fferylliaeth. Ers nifer o flynyddoedd mae gradd Caerdydd wedi denu myfyrwyr rhyngwladol tra chymwys sydd, fel graddedigion, yn mynd ymlaen i wneud cyfraniadau pwysig i fferylliaeth yn eu mamwlad. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu partneriaeth hirhoedlog gyda Taylor’s ar gyfer addysg fferylliaeth ym Malaysia."

Newyddion Diweddaraf Rhyngwladol