Skip to content
Skip to navigation menu

English

Cynllun newydd yn rhoi cydraddoldeb i’r Gymraeg a’r Saesneg

06 Mehefin 2014

 

Mae cynllun newydd i ddod â chydraddoldeb i’r Gymraeg yn cael ei gyflwyno ar hyn o bryd ledled y Brifysgol.

Gyda chefnogaeth gan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, ac yn cael ei arddel fel model arfer da, mae’r Cynllun Iaith Gymraeg ar ei newydd wedd yn dangos i staff a myfyrwyr sut bydd y Brifysgol yn gweithio i ymgorffori'r Gymraeg ymhellach yn ei diwylliant, ei darpariaeth addysgol a’i harferion gwaith.

"Fel unig brifysgol Grŵp Russell Cymru, gyda phoblogaeth o 36,000 o staff a myfyrwyr, mae gan Gaerdydd ddyletswydd i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn gydradd â’r Saesneg," meddai’r Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan, mewn digwyddiad a oedd yn nodi lansio'r cynllun.

Ychwanegodd: "Mae ein Cynllun Iaith Gymraeg ar ei newydd wedd yn golygu fod gennym syniad clir a chyfarwyddiadol o sut i gyflawni ein rhwymedigaethau diwylliannol i bobl Cymru, gyda chymaint o hynny’n dibynnu ar ddiogelu iechyd ei hiaith.

"Mae'r cynllun yn cadarnhau pa mor bwysig yw’r Gymraeg, nid yn unig o ran ein diwylliant a’n cymdeithas, ond i feithrin datblygiad economaidd Cymru [...] gan ein galluogi i gryfhau ein dylanwad yn y farchnad ryngwladol.

"Nawr yn fwy nag erioed, mae angen i ni warchod yr hyn sy'n ein gwneud yn unigryw, fel y gall cenedlaethau’r dyfodol barhau i fanteisio ar adnoddau naturiol unigryw Cymru ac elwa ar yr wythïen gyfoethog o ddinasyddion dwyieithog."

Welsh Language Scheme Launch_web

Prif nod y cynllun diwygiedig yw ennyn newid agwedd tuag at y Gymraeg a mynd ati i hyrwyddo'r egwyddor y bydd y Gymraeg yn cael ei thrin yr un mor ffafriol â'r Saesneg wrth ymdrin â staff y Brifysgol, myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr, yn ogystal â'r cyhoedd yn gyffredinol.

Rhai o amcanion eraill y cynllun yw sicrhau bod gan y Brifysgol ddigon o staff sy'n siarad Cymraeg i gwrdd ag anghenion ei myfyrwyr a'r cyhoedd, gan nodi a darparu anghenion hyfforddiant ar gyfer staff i’r perwyl hwn. Yn ystod y lansiad, siaradodd Dr Jeremy Evas o Ysgol y Gymraeg am ei obaith y byddai myfyrwyr Cymraeg a Saesneg fel ei gilydd yn graddio gyda mwy o ymwybyddiaeth ieithyddol, o ganlyniad i'r cynllun.

Dywedodd Dr Evas: "Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod ein graddedigion sy'n siarad Cymraeg yn meddu ar y sgiliau i weithio mewn gwlad ddwyieithog, a bod y di-Gymraeg yn meddu ar yr wybodaeth i ddeall a pharchu goblygiadau hyn."

Ymhlith y rhai eraill a fu’n siarad yn y lansiad roedd Dr Angharad Naylor o gangen Caerdydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol; Cerith Rhys Jones, Swyddog Iaith Gymraeg Undeb y Myfyrwyr, a ddywedodd y dylid ystyried y cynllun fel "cyfle, ac nid baich"; a Dr Hefin Jones o Ysgol y Biowyddorau, a drefnodd y digwyddiad.

Mae'r Cynllun Iaith Gymraeg yn ddogfen statudol a baratowyd o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

I gael manylion am sut bydd y cynllun newydd yn effeithio arnoch chi, cliciwch yma.

 

Tags

Newyddion Diweddaraf Staff News