Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Cronfa ysgoloriaeth newydd i israddedigion

8 Rhagfyr 2009

Students in lecture

Bydd 30 o fyfyrwyr israddedig yn y Brifysgol yn manteisio fel canlyniad i gynllun ysgoloriaeth gwerth £1,000 i fyfyrwyr sy’n astudio pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, a mathemateg (STEM) mewn prifysgolion lle mae pwyslais ar ymchwil.

Dyfarnwyd oddeutu £30,000 i Brifysgol Caerdydd i helpu myfyrwyr israddedig o gefndiroedd incwm isel, diolch i rodd hael gan Dr Naim Dangoor, datblygwr eiddo llwyddiannus.

Bydd ‘Ysgoloriaethau Eliahou Dangoor’ yn cynorthwyo hyd at 4,000 o fyfyrwyr yn y DG i astudio pynciau sy’n seiliedig ar wyddoniaeth a mathemateg ym mhrifysgolion Grŵp Russell yn y DG sy’n rhoi pwyslais ar ymchwil ac ym Mhrifysgolion Grŵp 1994. Caerdydd yw’r unig brifysgol yng Nghymru i dderbyn cyllid ar gyfer yr ysgoloriaethau.

Lansiwyd yr Ysgoloriaethau â rhodd o £3 miliwn dros dair blynedd, ac mae disgwyl y bydd arian cyfatebol gan y Llywodraeth yn golygu y bydd cyfanswm o £4 miliwn ar gael.

Dywedodd Dr Dangoor fod yr ysgoloriaeth hon, wedi’i henwi er anrhydedd i’w dad, Eliahou Dangoor, yn ffordd o ddiolch i’r wlad a roddodd loches iddo pan adawodd Irac yn y 1960au. Y gobaith yw y bydd y cynllun uchelgeisiol hwn yn cymell rhagor o bobl ifanc i ystyried astudio pynciau STEM yn un o brifysgolion mwyaf blaenllaw’r DG.

Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, Dr David Grant: “Mae’r ysgoloriaethau hyn yn fuddsoddiad pwysig arall wrth i ni wneud yn siŵr ein bod yn gallu cynnig addysg uwch i’r myfyrwyr mwyaf galluog waeth beth yw eu cefndir. Edrychwn ymlaen at chwarae ein rhan yn datblygu gwyddonwyr a pheirianwyr gorau’r dyfodol, a wnaed yn bosibl gan y rhodd hael hon.”

Cafodd y rhodd a’r ysgoloriaeth eu croesawu’n gynnes gan bennaeth Grŵp Russell. Dywedodd Dr Wendy Piatt, Cyfarwyddwraig Gyffredinol Prifysgolion Grŵp Russell: “Mae Prifysgolion Grŵp Russell yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr fod gwybodaeth am fwrsarïau – gan gynnwys y cynllun gwych hwn – yn cael ei diweddaru a’i gwella drwy’r amser. Hefyd, bydd gwefan newydd Grŵp Russell yn borth defnyddiol i fyfyrwyr sy’n chwilio am wybodaeth ynglŷn â’r cymorth ariannol sydd ar gael yn ein holl brifysgolion. Gobeithiwn y bydd hyn yn peri i ragor o bobl ystyried astudio pynciau sy’n seiliedig ar wyddoniaeth a mathemateg ym mhrifysgolion mwyaf blaenllaw’r DG. Er ei bod yn dda gweld cynnydd yn nifer y myfyrwyr gwyddoniaeth a mathemateg yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym yn pryderu’n fawr ynglŷn â’r dirywiad hirdymor yn nifer myfyrwyr sy’n astudio’r pynciau hyn ar gyfer Safon Uwch a thu hwnt. Mae cynlluniau fel ysgoloriaeth Eliahou Dangoor yn adeiladu ar y cynnydd hwn mewn poblogrwydd a fydd, yn yr hirdymor, yn golygu y gall y DG barhau i fod yn gartref i fwy na’i chyfran deg o brif wyddonwyr, peirianwyr ac entrepreneuriaid y byd.”

Bydd y cynllun Ysgoloriaeth newydd yn cael ei lansio’n swyddogol yn y Gymdeithas Frenhinol yn Llundain ddydd Mawrth 8 Rhagfyr, pan fydd yr Arglwydd Melvyn Bragg, y gweinidog prifysgolion David Lammy, a gwahoddedigion blaenllaw eraill yn bresennol.