Skip to content
Skip to navigation menu

English

Astudiaeth newydd o afonydd Cymru

27 Mawrth 2012

New study of Welsh rivers WebBydd yr ymchwil newydd yn datblygu prosiect sydd wedi bod yn mynd rhagddo er 33 mlynedd yn Llyn Brianne yn y canolbarth.

Mae pwysigrwydd organebau afonydd i swyddogaeth a gwerth economaidd afonydd Cymru am gael ei archwilio wedi i dîm a arweinir gan Brifysgol Caerdydd ennill dyfarniad ymchwil o bwys gan y llywodraeth.

Bydd yr archwiliad yn amrywio o ddalgylchoedd bychain o gwmpas Llyn Brianne yn y canolbarth i fyny at holl ucheldiroedd Cymru. Bydd y tîm yn edrych ar sut mae bioamrywiaeth yn diogelu ansawdd a bywyd gwyllt afonydd Cymru yn ogystal â’r llu o fywoliaethau sy’n dibynnu arnynt.

Mae prosiect DURESS (Amrywiaeth Afonydd Ucheldir ar gyfer Cynaliadwyedd Gwasanaethau Ecosystem) gwerth £3 miliwn yn rhan o fenter Cynaliadwyedd Gwasanaethau Bioamrywiaeth ac Ecosystem (BESS) Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol (NERC) sy’n werth £13 miliwn. Mae BESS yn archwilio sut mae bioamrywiaeth yn cynnal ac yn gwella gwasanaethau ecosystem - nwyddau a swyddogaethau gan fyd natur y mae bywydau a bywoliaethau pobl yn dibynnu arnynt.

Ar adeg pan mae afonydd yn wynebu anawsterau dybryd yn sgil newid defnydd o dir a’r hinsawdd, nod DURESS yw mesur sut gall organebau afonydd reoleiddio ansawdd dŵr, cynhyrchu rhagor o bysgod yn ogystal â chynnal asedau diwylliannol gwerthfawr fel pysgota neu adar afonydd.

· gweld sut mae’r newid yn y defnydd o dir a’r hinsawdd yn effeithio ar wasanaethau ecosystem afonydd

· galluogi ecosystemau afonydd i wrthsefyll newidiadau dros fisoedd a degawdau’n well

Ystyriwyd bod afonydd Cymru’n ddelfrydol ar gyfer y prosiect oherwydd pa mor werthfawr ydynt a’r ffaith eu bod ymysg y glanaf ym Mhrydain. Mae’r wlad yn gallu cynnig data gwyddonol cyfoethog ac mae gwyddoniaeth afonydd eisoes wedi hen ennill ei phlwyf. Prifysgol Caerdydd a arweiniodd y gwaith am ddŵr croyw yn Asesiad Llywodraeth y DU am Ecosystemau Cenedlaethol, gan olygu ei bod mewn sefyllfa ddelfrydol i ddatblygu’r ymchwil hwn.

Bydd ymchwilwyr o Ysgol Biowyddorau a Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy’r Brifysgol yn arwain tîm o oddeutu 30 o wyddonwyr. Bydd hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o Brifysgol Caerhirfryn, Prifysgol Brenhines Mary Llundain a Phrifysgol Aberystwyth; Ymddiriedolaeth Ornitholeg Prydain, Canolfan Ecoleg a Hydroleg NERC, Forest Research a GIG Cymru; yn ogystal ag ymgynghorwyr arbenigol dŵr croyw APEM Ltd. Arweinir y consortiwm gan Dr Isabelle Durance, cymrawd uwch-ymchwil Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy'r Brifysgol, a fu’n gyfrifol am arwain y cynnig.

"Mae angen dŵr glân ar bawb ac mae isadeiledd dŵr y DU yn werth dros £200 biliwn," meddai Dr Isabelle Durance. "Ac eto, rydym yn aml yn diystyru gwerth y dalgylchoedd sy’n cyflenwi ein dŵr. Ar ben hynny, rydym yn diystyru’r prosesau y mae biliynau o organebau afonydd yn eu gwneud gyda’i gilydd i helpu i gynnal ansawdd dŵr. Mae’r organebau hyn yn rhan o we gymhleth bywyd sy’n cynnal popeth o eog yr Iwerydd i drochwyr a dyfrgwn, ond ychydig iawn rydyn ni’n ei wybod o hyd am sut mae’r rhannau hyn yn rhan o’r we ac yn cydweithio."

Mae’r prosiect arloesol eisoes wedi cael cefnogaeth frwd amrywiaeth o bartneriaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth, Dŵr Cymru, y Gymdeithas Frenhinol er Diogelu Adar ac Ymddiriedolaethau Afonydd Cymru. Ymgynghorir yn eang â chymunedau Cymru hefyd yn ystod y prosiect.

Meddai’r Athro Ole Petersen, Pennaeth Ysgol Biowyddorau Caerdydd a Chadeirydd panel y Gwyddorau Biolegol ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil: "Mae afonydd Cymru yn ased hollbwysig i’w phoblogaeth. Mae hwn yn brosiect ecolegol ac amgylcheddol hanfodol fydd yn effeithio ar fywydau a bywoliaethau pobl."

Cafwyd oddeutu 30 o gynigion i gyd ac roedd Caerdydd yn un o bedwar prosiect yn unig a enillodd arian yn y pen draw. Bydd y prosiect yn dechrau ym mis Mai 2012.

Dolenni cysylltiedig

Ysgol y Biowyddorau

Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy