Skip to content
Skip to navigation menu

English

Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2010

05 Ionawr 2010

Athro Syr Mansel Aylward CBAthro Syr Mansel Aylward CB

Cafodd un o arbenigwyr pennaf y Brifysgol mewn ffactorau seicogymdeithasol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol sy’n dylanwadu ar iechyd a lles pobl ei urddo’n farchog yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd, ac mae ymhlith nifer o gydweithwyr yn y Brifysgol i dderbyn anrhydedd.

Derbyniodd yr Athro Syr Mansel Aylward CB, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Seicogymdeithasol ac Anabledd, yr Ysgol Seicoleg yr anrhydedd am wasanaethau i Ofal Iechyd.

Mae’r Athro Syr Mansel yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Seicogymdeithasol ac Anabledd er 2005. Mae’r Ganolfan yn ychwanegu at wybodaeth a dealltwriaeth ynglŷn â’r ffactorau seicogymdeithasol, economaidd a diwylliannol sy’n dylanwadu ar iechyd, adferiad, a’r gallu i gydio mewn gwaith sy’n rhoi boddhad.

Mae ei ymchwil ei hun yn rhychwantu nifer o feysydd, gan gynnwys y ffactorau sy’n rhwystro adferiad yng Nghymru, coelion cyhoeddus ynglŷn ag afiechyd ac anabledd a’r berthynas rhwng gwaith ac iechyd. Mae llawer o'r prosiectau ymchwil, yng Nghymru a thu hwnt, yn anelu at ddatblygu ymyriadau ymarferol o ran iechyd y cyhoedd.

Cyn cael ei benodi ym mis Mehefin 2009 i Gadair Iechyd y Cyhoedd, roedd yr Athro Syr Mansel yn gadeirydd Canolfan Iechyd Cymru. O 1996 tan Ebrill 2005 roedd yn Brif Gynghorydd Meddygol, Cyfarwyddwr Meddygol a Phrif Wyddonydd i’r Adran Gwaith a Phensiynau yn y Deyrnas Gyfunol. Roedd hefyd yn Brif Gynghorydd Meddygol ac yn Bennaeth Proffesiwn yn Asiantaeth y Cyn-filwyr, y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Yn 2001 fe’i penodwyd yn Is-ddeon Academaidd ar gyfer Cymru gan Gymdeithas Feddygol Frenhinol. O 1974 tan 1984 roedd yn gadeirydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Simbec Research Cyf, yn y DG, ac yn Llywydd Simbec Inc, New Jersey, UDA.

Dywedodd yr Athro Syr Mansel: "Rwy’n teimlo’n ddarostyngedig iawn yn cael cydnabyddiaeth fel hyn. Mi wn ond yn rhy dda sut mae fy ngwaith yn dibynnu ar gefnogaeth eraill – fy ngwraig, Angela, a’r teulu; a’r staff ym Mhrifysgol Caerdydd. Rwyf wedi treulio rhan helaeth o fy mywyd yn gwasanaethu’r cyhoedd a theimlaf hi’n fraint fy mod wedi cael cyfle i geisio gwneud gwahaniaeth i’n cymdeithas.

Syr Patrick Steward OBESyr Patrick Steward OBE

"Bu’r flwyddyn ddiwethaf yn gyffrous dros ben yn hyn o beth oherwydd bûm yn cynorthwyo’r Gweinidog, Edwina Hart, ei swyddogion a staff iechyd y cyhoedd yn enwedig i ailstrwythuro’r GIG yng Nghymru.

"Ffactor allweddol o ran gwerthuso llwyddiant diwygio’r GIG yng Nghymru fydd ei effeithiolrwydd yn diogelu a gwella iechyd a lles y boblogaeth a lleihau’r anghydraddoldebau iechyd sy’n dal i fodoli yng Nghymru. Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ran bwysig i’w chwarae wrth gyflawni hyn ac edrychaf ymlaen at chwarae fy rhan.

"Felly, nid anrhydedd i ddynodi diwedd fy ngyrfa mo hwn, ond rhywbeth sy’n fy ngwneud yn benderfynol o ddal i symud ymlaen."

Mae’r Athro Syr Mansel ar frig rhestr hir o academyddion, cyn-fyfyrwyr a Chymrodyr er Anrhydedd o’r Brifysgol sy’n cael eu cydnabod yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd eleni.

Mae’r Cymrawd er Anrhydedd Patrick Stewart OBE yntau’n cael ei urddo’n farchog am wasanaethau i ddrama ac mae Menna Richards, Cymrawd er Anrhydedd ac Is-lywydd y Brifysgol yn cael anrhydedd OBE am ei gwasanaeth i ddarlledu.

Menna Richards OBEMenna Richards OBE

Brifysgol, Lawrence Conway, a oedd tan yn ddiweddar yn Gyfarwyddwr Swyddfa Prif Weinidog Cymru, yn cael ei benodi’n Gydymaith Urdd y Baddon (CB) i gydnabod gwasanaeth cyhoeddus; penodir Bethan Guilfoyle, Pennaeth Ysgol Gyfun Trecorci yn CBE am wasanaethau i addysg yng Nghymru; penodir Hew Mathewson, Llywydd y Cyngor Deintyddol Cyffredinol, yn CBE am wasanaethau i ofal iechyd; a daw Dr Richard Sparks, a fu tan yn ddiweddar yn Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Genhedlol-droethol, Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro, yn MBE am wasanaethau i Feddygaeth.

Ymhlith eraill sy’n cael eu hanrhydeddu mae cyn-aelod o Gyngor y Brifysgol, Robert Hutchings, sy’n dod yn OBE am wasanaeth i’r sector gwirfoddol yng Nghymru.

Dywedodd Is-ganghellor y Brifysgol, Dr David Grant: "Mae’r dyfarniadau hyn yn cydnabod y cyfraniadau pwysig a wnaed gan bob un o’r rhai a anrhydeddwyd ac mae’n bleser o’r mwyaf gennyf eu llongyfarch ar ran y Brifysgol gyfan."