Skip to content
Skip to navigation menu

English

“Gwastraff” y GIG ar inswlin synthetig

22 Medi 2011

injection web

Mae’r GIG wedi gorfod talu £625 miliwn yn ychwanegol dros y degawd diwethaf ar ffurfiau synthetig o inswlin, pan mae’n debyg y byddai’r dewisiadau eraill dynol a argymhellir, sydd gryn dipyn yn rhatach, wedi bod yr un mor effeithiol, yn ôl ymchwil newydd yng Nghaerdydd.

Daw’r canfyddiad wrth i gynhadledd iechyd y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd drafod sut i gynyddu’r ymdrechion rhyngwladol i fynd i’r afael â’r baich byd-eang cynyddol yn sgil clefydau anhrosglwyddadwy, yn cynnwys diabetes.

Mae’r awduron, sy’n cael eu harwain gan yr Athro Craig Currie o Adran Gofal Sylfaenol ac Iechyd Cyhoeddus yr Ysgol Feddygaeth, yn seilio eu canfyddiadau ar ddadansoddiad o ddata sydd ar gael yn gyhoeddus o’r pedair asiantaeth sy’n prisio presgripsiynau yn y DU ar gyfer y blynyddoedd rhwng 2000 a 2009. Addaswyd y costau ar gyfer chwyddiant ac fe’u hadroddir yn ôl prisiau 2010.

Dros y 10 mlynedd, gwariodd y GIG gyfanswm o £2,732 miliwn ar inswlin, ac fe gododd y gost flynyddol o £156 miliwn i £359 miliwn— sef cynnydd o 130%.

Cododd cost flynyddol inswlin synthetig (analog) o £18.2 miliwn, neu 12% o’r cyfanswm, i £305 miliwn, neu 85% o’r cyfanswm. Disgynnodd cost inswlin dynol o £131 miliwn, neu 84% o’r cyfanswm, i £51 miliwn, neu 14% o’r cyfanswm.

Ar sail y rhagdybiaeth y gellid bod wedi rhoi inswlin dynol i bob claf y rhoddwyd analogau inswlin iddynt ar bresgripsiwn, gallai’r GIG fod wedi arbed £625 miliwn, yn ôl yr adroddiad.

Ond hyd yn oed os gellid bod wedi rhoi inswlin dynol i hanner y cleifion hynny yn unig, mae hynny’n dal yn fwy na £300 miliwn o arbedion i’r GIG, yn ôl y tîm.

Mae nifer y bobl y canfyddir bod ganddynt ddiabetes yn y DU wedi codi i 2.8 miliwn, ac mae gan oddeutu 90% ohonynt ddiabetes math 2. Tra bod angen inswlin ar y rheiny sydd â diabetes math 1 o’r cychwyn, mae’r rheiny sydd â math 2 y clefyd yn tueddu i ddechrau cael inswlin yn ddiweddarach.

Datblygwyd analogau inswlin i efelychu effeithiau’r inswlin a gynhyrchir gan y corff yn well, ond nid yw’n glir a yw’r manteision yn ddigonol i gyfiawnhau eu cost ychwanegol, yn ôl yr awduron.

Dywedant, "Gwyddom fod y cynnydd mewn analogau inswlin wedi cael effaith ariannol sylweddol ar y GIG, ond eto, dros yr un cyfnod, nid oes unrhyw fantais glinigol weladwy wedi bod i gyfiawnhau’r buddsoddiad hwnnw".

"Mae’n debygol y bu lle sylweddol am arbedion ariannol, a bod hyn yn parhau," dywedant, gan ychwanegu: "Yr hyn sy’n peri’r gofid mwyaf yw’r ffaith fod amheuaeth ynglŷn â rôl a diogelwch clinigol inswlin wrth ei ddefnyddio mewn pobl sydd â diabetes math 2."