Skip to content
Skip to navigation menu

English

Darganfod y goedwig ffosiledig hynaf

29 Chwefror 2012

Oldest fossilised forest revealed 1 WebDr Berry yn astudio un o’r bonion coed lleiaf o goedwig ffosil Gilboa.

Mae tîm rhyngwladol, sy’n cynnwys ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd, wnaeth ddarganfod tystiolaeth o goeden hynaf y Ddaear gynt, wedi mynd un cam ymhellach.

Mae’r tîm ymchwil bellach wedi darganfod, ac ymchwilio i goedwig ffosilau gyfan yn dyddio’n ôl 385 miliwn o flynyddoedd.

Cyfeirir yn gyffredinol at goedwig ffosilau Gilboa, ym Mynyddoedd Catskill yng nghefn gwlad talaith Efrog Newydd, fel ‘y goedwig ffosilau hynaf’. Ond eto, yn ôl safonau gwyddonol, mae wedi parhau yn fytholegol.

Cafodd ffosilau cannoedd o fonion coed mawr (‘Coeden Gilboa’) a ddiogelwyd yn y creigiau, eu darganfod yn y 1920au wrth gloddio chwarel i dynnu craig i adeiladu Argae cyfagos Gilboa. Gwybodaeth fras yn unig a gofnodwyd am gyd-destun daearegol y bonion ffosil, y pridd yr oedd y coed yn tyfu ynddynt, a bylchau gwaelodion coed. Ar ôl cwblhau’r argae, cafodd y chwarel ei hôl-lenwi. Tan heddiw, yr unig ffordd y gellid ymchwilio i goedwig ffosilau Gilboa oedd o sbesimenau amgueddfa ac o amlygiadau bach o lefelau eraill mewn nentydd cyfagos.

Oldest fossilised forest revealed 2. WebDr Berry yn y chwarel

Ym mis Mai 2010, cafodd y chwarel ei gwacáu yn rhannol fel rhan o brosiect cynnal argae. Roedd ymchwilwyr yn monitro’r safle gyda chontractwyr, Cwmni Adeiladu Thalle ac Adran Gwarchod yr Amgylchedd Dinas Efrog Newydd. Sylwodd yr Athro Bill Stein, Prifysgol Binghamton a Frank Mannolini, Amgueddfa Talaith Efrog Newydd fod llawr y chwarel wreiddiol wedi cael ei amlygu, a bod gwreiddiau a safleoedd gwaelod y boncyffion wedi cael eu gwarchod.

Mae Dr Chris Berry, yr Ysgol Gwyddorau Daear a Môr Caerdydd yn esbonio: "Am y tro cyntaf, fe wnaethom ni allu trefnu bod tua 1,300 metr sgwâr yn cael ei lanhau ar gyfer ymchwilio. Cafodd map ei greu o leoliad yr holl ffosilau planhigion a gafodd eu gwarchod ar yr arwyneb hwnnw."

Mae canfyddiadau’r ymchwilydd wedi’u cyhoeddi yn y cylchgrawn Nature (1 Mawrth). Maent yn disgrifio gwaelodion ‘Coed Gilboa’ fel pantiau siâp powlen trawiadol hyd at bron i ddwy fetr mewn diamedr, wedi’u hamgylchynu gan filoedd o wreiddiau. Gwyddom mai gwaelodion coed hyd at oddeutu 10 metr mewn uchder yw’r rhain, a oedd yn edrych yn debyg i goeden balmwydd neu redyn coed. Un o’r pethau wnaeth beri’r syndod mwyaf oedd y ffaith y dath yr ymchwilwyr o hyd i lawer o fonion pren yn gorwedd yn llorweddol, hyd at oddeutu 15 cm o drwch, y maent wedi dangos eu bod yn foncyffion math arall o blanhigyn sy’n rhedeg ar hyd y ddaear [aneurophytalean progymnosperm], a oedd dim ond yn cael ei adnabod yn y gorffennol o’i ganghennau syth. Daethant o hyd i un enghraifft fawr o gnwpfwsogl siâp coeden hefyd, y math o goeden sy’n aml yn ffurfio gwythiennau glo mewn creigiau iau ar hyd a lled Ewrop a Gogledd America.

Dywedodd Dr Berry: "Mae hyn oll yn dangos bod y ‘goedwig hynaf’ yn Gilboa yn llawer mwy cymhleth yn ecolegol nag yr oeddem wedi’i dybio, ac mae’n siŵr ei bod yn cynnwys llawer mwy o garbon wedi’i gloi fel pren nag yr oeddem ni’n gwybod amdano yn flaenorol. Bydd hyn yn galluogi mwy o ddamcaniaethau cynnil am y ffordd y gwnaeth esblygiad coedwigoedd newid y Ddaear.

"Yn bersonol, roedd y cyfle i gerdded ar lawr y goedwig hynafol honno, a dychmygu’r planhigion rwyf wedi bod yn eu hastudio fel ffosilau ers dros 20 mlynedd yn sefyll yn fyw yn y safleoedd sydd wedi’u marcio gan eu gwaelodion, yn uchafbwynt yn fy ngyrfa. Saith mlynedd yn ôl, daeth fy nghydweithwyr Linda a Frank o hyd i ffosil i ni o goeden gyflawn Gilboa. Roedd hynny’n anhygoel. Ond y tro hwn, rydym ni wedi cael y goedwig gyfan!"

Gwrandewch ar gyfweliad gyda Dr Chris Berry am y darganfyddiad

Your computer cannot play the audio in your browser. To fix this, you need to make sure both Javascript and Adobe Flash are available.

Get the Adobe Flash plug-in by clicking here

To find out how to enable JavaScript, check the Help option for your browser.


Cardiff University campus users

If you are on the Cardiff University campus and have problems with plug-ins or browsers, you can contact the INSRV Helpdesk on extension 74487 or visit the INSRV webpages


Dolenni cysylltiedig

Yr Ysgol Gwyddorau Daear a Môr