Skip to content
Skip to navigation menu

English

Darganfod y crater ardrawiad hynaf erioed

28 Mehefin 2012

oldest-known-crater-webMynegiant artistig o sut y gallai ardrawiad meteorit mawr i mewn i’r môr fod wedi edrych. Credyd (a hafan) Carsten Egestal Thuesen, GEUS.

Daethpwyd o hyd i grater 100 cilomedr o led yn yr Ynys Las, a ddigwyddodd o ganlyniad i ardrawiad enfawr asteroid neu gomed biliwn o flynyddoedd cyn unrhyw wrthdrawiad arall y gwyddom amdano ar y Ddaear.

Ffurfiwyd y craterau trawiadol ar y Lleuad yn sgil ardrawiadau gydag asteroidau a chomedau rhwng 3 a 4 biliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae’n rhaid bod hyd yn oed mwy o wrthdrawiadau wedi digwydd ar y Ddaear gynnar yn y cyfnod hwn, oherwydd ei màs disgyrchol a oedd yn llawer mwy – ond mae’r dystiolaeth wedi erydu neu wedi cael ei gorchuddio gan greigiau iau.  Ffurfiodd y crater hynaf erioed blaenorol ar y Ddaear 2 biliwn o flynyddoedd yn ôl, a chredid bod y tebygolrwydd o ddarganfod ardrawiad hyd yn oed yn hŷn, yn llythrennol, yn seryddol isel.

Nawr, mae tîm o wyddonwyr o Gaerdydd, yr Arolwg Daearegol o Ddenmarc a’r Ynys Las (GEUS) yn Copenhagen, Prifysgol Lund yn Sweden a Sefydliad y Gwyddorau Planedol ym Moscow wedi mynd yn groes i’r tebygolrwydd hwn. Yn dilyn rhaglen fanwl o waith maes, a ariannwyd gan GEUS a’r ‘Carlsbergfondet’ Danaidd (Sefydliad Carlsberg), darganfu’r tîm weddillion ardrawiad 3 biliwn mlwydd oed anferthol ger ardal Maniitsoq yng Ngorllewin yr Ynys Las.

oldest-known-crater-2Golygfa i’r de-orllewin o Fryn Fossilik yn edrych i mewn i ganol strwythur yr ardrawiad.

"Mae’r un darganfyddiad hwn yn golygu y gallwn astudio effeithiau craterau ar y Ddaear bron biliwn o flynyddoedd ymhellach yn ôl nag a oedd yn bosibl o’r blaen," yn ôl y Dr Iain McDonald o Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr, a oedd yn rhan o’r tîm.

Roedd yn anos byth dod o hyd i’r dystiolaeth gan nad oes unrhyw grater siâp powlen amlwg ar ôl i’w ddarganfod. Dros y 3 biliwn o flynyddoedd ers yr ardrawiad, mae’r tir wedi erydu i lawr i amlygu cramen ddyfnach 25 cilomedr islaw’r arwyneb gwreiddiol. Tynnwyd holl rannau allanol strwythur yr ardrawiad, ond treiddiodd effeithiau sioc yr ardrawiad dwys yn ddwfn i mewn i’r gramen – yn llawer dyfnach na mewn unrhyw grater arall y gwyddom amdano – ac mae’r rhain yn parhau i fod yn weladwy.

Fodd bynnag, gan na sylwyd ar effeithiau’r ardrawiad ar y dyfnderoedd hyn o’r blaen, mae wedi cymryd bron i dair blynedd o waith trylwyr i gasglu’r holl dystiolaeth allweddol ynghyd. "Roedd y broses yn eithaf tebyg i stori Sherlock Holmes," meddai Dr McDonald. "Cawsom wared â’r amhosib o ran unrhyw brosesau daearol confensiynol, a’r unig beth i esbonio’r holl ffeithiau oedd ardrawiad anferthol."

oldest-known-crater-3Golygfa i’r gorllewin o gopa Bryn Fossilik ar ochr ddwyreiniol strwythur yr ardrawiad

Dim ond tua 180 o graterau ardrawiad sydd wedi cael eu darganfod erioed ar y Ddaear, ac mae tua 30% ohonynt yn cynnwys adnoddau naturiol pwysig o fwynau neu olew a nwy. Y crater mwyaf a hynaf erioed cyn yr astudiaeth hon oedd crater Vredefort yn Ne Affrica, sy’n 300 cilomedr o led, yn 2 biliwn mlwydd oed ac wedi erydu’n fawr.

Ychwanegodd y Dr McDonald: "Mae wedi cymryd bron i dair blynedd i ni argyhoeddi ein cymheiriaid yn y gymuned wyddonol am hyn ond roedd y diwydiant mwyngloddio yn llawer mwy parod i’w dderbyn. Mae cwmni archwilio o Ganada wedi bod yn defnyddio’r model ardrawiad i chwilio am ddyddodion o fetelau nicel a phlatinwm ym Maniitsoq ers hydref 2011."

Arweiniwyd y tîm rhyngwladol gan Adam A. Garde, uwch wyddonydd ymchwil yn GEUS. Mae’r papur gwyddonol cyntaf yn cofnodi’r darganfyddiad newydd gael ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn ‘Earth and Planetary Science Letters’.

Dolenni cysylltiedig

Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr

Rhagor o wybodaeth am strwythur Maniitsoq