Skip to content Skip to navigation menu
19 Gorffennaf 2011
Mae cyfarwyddwr Sefydliad Gwyddorau Heddlu’r Prifysgolion wedi rhybuddio y gallai’r helbul sy’n amgylchynu Heddlu Llundain fod yn arwydd o’r hyn sydd i ddod i uwch heddweision Prydain.
Mae’r Athro Martin Innes, Cyfarwyddwr y Sefydliad yng Nghaerdydd, wedi ysgrifennu at The Guardian ar y dadleuon sy’n amgylchynu News International, y Senedd a’r heddlu, ac ymddiswyddodd dau o uwch heddweision Heddlu Llundain yn sgil hyn.
Fel awdurdod blaenllaw ar blismona yn y DU, galwyd ar yr Athro Innes i roi sylwadau helaeth wrth i faterion ehangach am gysylltiadau rhwng yr heddlu a’r wasg ddod i’r amlwg yn sgil y sgandal ynghylch hacio ffonau.
Yn ei erthygl yn The Guardian, mae’r Athro Innes yn sôn nad rhywbeth newydd yw cysylltiadau o’r fath. Mae heddweision a newyddiadurwyr wedi gweithio gyda’i gilydd yn y gorffennol erioed, yn aml er lles y cyhoedd.
Fodd bynnag, awgryma’r Athro Innes fod yr heddlu yn ei chael yn anodd addasu i gyfnod newydd o gyfathrebu parhaus trwy gyfryngau cymdeithasol, ac i’r galw mwy am wasanaethau cyhoeddus eglur. Er ei fod yn credu y dylai’r heddlu ddod yn fwy atebol yn gyhoeddus, mae’r Athro Innes yn holi a fyddai cynigion presennol y Llywodraeth am Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd wedi’u hethol yn uniongyrchol yn cael yr effaith hon. Yn hytrach, gallai heddweision ddod yn fwy agored i’r math o storm wleidyddol sydd wedi achosi i ddau Gomisiynydd diwethaf Heddlu Llundain ymddeol.
Mae’r Athro Innes yn gorffen trwy ddweud: "Mewn cyfnod wedi’i ddiffinio gan ostyngiad yng nghyllidebau’r heddlu, lle mae cyfraddau trosedd yn dechrau cynyddu, ni fydd plismona’n cael ei wasanaethu’n dda os yw’r ymchwil am atebolrwydd gwleidyddol cynyddol yn achosi mwy o sgandal, cythrwfl ac ansefydlogrwydd."
First science star for Wales announced 17/06/2013
Study reveals disease-causing parasites in dead otters 17/06/2013
Lansiwyd hwb cymunedol iaith Gymraeg 17/06/2013
Vice Chancellor to co-chair strategic forum for university and business leaders 13/06/2013
This is an externally hosted beta service offered by Google.