Skip to content
Skip to navigation menu

English

Atal HIV

11 Gorffennaf 2011

Professor Vincent PiguetProfessor Vincent Piguet

Mae astudiaeth bwysig gan y Brifysgol yn ceisio darganfod os gall gosod patshyn brechu sydd â miloedd o ficro-nodwyddau mân ar y croen helpu hybu ymateb imiwnol y corff ac atal lledaeniad heintiau sy’n bygwth bywyd megis HIV a TB.

Mae’r Athro Vincent Piguet o Adran Dermatoleg a Gwella Clwyfau’r Ysgol Feddygaeth wedi derbyn bron i filiwn o ddoleri gan Sefydliad Bill a Melinda Gates i archwilio sut y gellir targedu celloedd imiwnol allweddol yn y croen i achosi’r system imiwnedd i gynhyrchu gwrthgyrff yn erbyn haint.

Mae datblygiadau diweddar mewn atal a thrin HIV - a heintiau eraill sy’n bygwth bywyd megis Tiwberciwlosis (TB) a Sytomegalofirws (CMV) - wedi canolbwyntio ar ddau brif faes.

Mae gwyddonwyr wedi datblygu brechlyn newydd, ac yn ail, y defnydd o geliau a gaiff eu rhoi ar y croen cyn cyfathrach, sy’n gallu lladd neu ddinistrio rhai micro-organebau sy’n aml yn achosi heintiau dynol.

Nawr, nod yr ymchwil gan Gaerdydd yw mynd â llwyddiant y ddau faes ymchwil hyn gam ymhellach.

Bydd yr ymchwil newydd yn archwilio sut y gall targedu’r brechlyn at ran benodol o’r croen a modiwleiddio’r celloedd hyn helpu i hybu ymateb y corff i’r brechlyn ac atal trosglwyddiad a datblygiad haint.

"Bydd ein dwy astudiaeth yn targedu celloedd allweddol o’r enw celloedd canghennog yn y croen," dywedodd yr Athro Piguet, sy’n arwain yr ymchwil.

"Celloedd canghennog yw llinell amddiffyn gyntaf ein corff yn erbyn heintiau fel HIV a TB. Hefyd maen nhw’n helpu penderfynu sut mae ein system imiwnedd yn ymateb i heintiad.

"Gan ddefnyddio micro-nodwyddau bach mewn patshyn a gaiff ei osod ar y croen, gobeithiwn y gallwn dargedu’r celloedd hyn yn fwy effeithiol a helpu cymell imiwnedd y corff yn erbyn HIV yn ogystal â heintiau difrifol eraill megis TB a CMV.

"Hefyd byddwn yn ceisio modiwleiddio swyddogaethau’r celloedd canghennog – wrth wneud hyn, gobeithiwn gynyddu eu grym a chynyddu ymateb imiwnol y corff o ganlyniad," ychwanegodd.

Gan weithio gyda chydweithwyr o’r Swistir, Prifysgol Rhydychen a Phrifysgol Harvard, bydd tîm Caerdydd yn defnyddio gwaed a chelloedd croen dynol i fapio’r ymateb imiwnol a dynwared yr ymateb dynol.

Ychwanegodd yr Athro Piguet: "Mae datblygiadau technegol mewn brechu mewngroenol newydd yn golygu ei bod yn bosibl y gallwn ni gymryd mantais – gwella diogelwch, lleihau costau a gwella effeithlonrwydd.

"Byddai atal heintiau’n effeithiol yn ddatblygiad pwysig mewn helpu mynd i’r afael â heriau iechyd mawr y byd – yn enwedig yn y gwledydd datblygol hynny ble mae mynediad cyfyng i gyffuriau gwrthfeirysol a gwrthfacterol."

Dolenni:

 

Tags