Skip to content
Skip to navigation menu

English

Pris troseddu i bobl canol oed

11 Tachwedd 2011

Law justice scales - web

Mae bywyd o droseddu yn dechrau niweidio iechyd troseddwyr pan fyddant yn cyrraedd eu 40au, yn ôl ymchwil newydd.

Mae cydweithrediad dan arweiniad y Grŵp Ymchwil Trais a Chymdeithas wedi dadansoddi ffyrdd o fyw grŵp o ddynion sy’n byw mewn dinasoedd, o’u bachgendod i ganol oed.

Yn ystod eu 20au a’u 30au, roedd troseddwyr mynych yn y grŵp yn aml yn fwy heini na’u cyfoedion a oedd yn llai tueddol o dorri’r gyfraith. Nawr bod y grŵp hwnnw wedi cyrraedd 48 oed, mae’r sefyllfa wedi’i gwrthdroi. Troseddwyr cronig, sy’n troseddu ar raddfa uchel, sydd â’r risg uchaf o fod wedi’u cofrestru’n anabl a gorfod cael eu cadw mewn ysbytai.

Mae’r canfyddiadau, a gyhoeddir yn y cyfnodolyn Criminal Behaviour and Mental Health, yn dangos cysylltiad clir rhwng troseddu ac iechyd gwael. Mae’r tîm ymchwil yn dadlau y dylai troseddu mynych fod yn ystyriaeth iechyd cyhoeddus yn gymaint ag y bo’n fater cyfiawnder troseddol.

Fe wnaeth y Grŵp Ymchwil, a oedd yn gweithio gyda phartneriaid ym Mhrifysgol Texas, ddadansoddi data gan 400 o ddynion o dde Llundain. Fe wnaeth y Sefydliad Troseddeg ym Mhrifysgol Caergrawnt gyflenwi’r data am y dynion, sydd wedi bod yn destun eu hastudio ers pan oeddent yn wyth oed ddechrau’r 1960au. Dangosodd astudiaethau blaenorol fod y rhai ag euogfarnau troseddol yn llai tueddol o gael afiechydon anadlol ac afiechydon corfforol eraill pan oeddent rhwng 16 a 18 oed a rhwng 27 a 32 oed.

Nawr, gwnaed cyfweliadau â’r dynion eto wrth iddynt gyrraedd 48 oed. Roedd y rhai a oedd yn troseddu ar raddfa uchel, ac a wnaeth barhau i droseddu i’w hoedolaeth, yn fwy tebygol o fod wedi gorfod cael eu cadw mewn ysbyty yn ystod y pum mlynedd diwethaf na grwpiau eraill, gan gynnwys dynion nad oeddent yn troseddu a’r rhai a oedd wedi troseddu yn ystod eu llencyndod yn unig. Roedd anabledd cofrestredig hefyd yn llawer mwy tebygol ymhlith y dynion a oedd yn troseddu ar raddfa uchel nag ymhlith y grwpiau eraill. Roedd y risg o orfod cael eu cadw mewn ysbyty bedair gwaith yn fwy i’r grŵp a oedd yn troseddu ac roedd y risg o anabledd 13 gwaith yn uwch. Hefyd, darganfu’r astudiaeth fod euogfarn droseddol gan 13 o’r 17 o ddynion a oedd wedi marw.

Meddai’r Athro Jonathan Shepherd, Cyfarwyddwr y Grŵp Ymchwil Trais a Chymdeithas: "Rydym wedi gweld gwrthdroad llwyr ym mhatrymau iechyd cynharach y grŵp hwn. Pan oeddent yn iau, mae’n ymddangos bod troseddwyr yn iachach mewn sawl ffordd na’r rhai nad oeddent yn troseddu. Pan fyddant yn cyrraedd eu 40au, mae’n ymddangos bod canlyniadau eu ffordd o fyw i’w hiechyd yn dal i fyny â nhw.

"Nid yw’r rhesymau dros yr iechyd mwy gwael hwn yn glir. Gallai ymddygiad a ffordd o fyw uchel eu risg gynyddu’r posibilrwydd o ddamweiniau ac anafiadau, gan arwain at orfod aros mewn ysbyty ac anabledd. Fel arall, gallai ymwneud mynych â’r llysoedd a’r system cyfiawnder troseddol gynyddu cysylltiad â’r system fudd-daliadau, a gwybodaeth am y system hon. Yr hyn sy’n glir, fodd bynnag, yw bod y rhai sy’n parhau i droseddu ar raddfa uchel pan fyddant yn oedolion yn wynebu risg uwch o iechyd gwael na grwpiau eraill, gan gynnwys y rhai a fu’n troseddu pan oeddent yn eu llencyndod ac yna y gwnaethant roi’r gorau i hynny.

"Mae ein hymchwil yn dangos nad yw cost troseddu mynych wedi’i gyfyngu i effeithiau gweithgarwch troseddol yn unig. Mae costau sylweddol i’r gwasanaethau iechyd a lles hefyd yn sgil y grŵp hwn o droseddwyr. Mae dadl o blaid cydweithio rhwng yr asiantaethau iechyd, cymdeithasol a chyfiawnder troseddol i gyfyngu ar droseddu ar ôl llencyndod, gan leihau’r risg o salwch yn ddiweddarach mewn bywyd a lleihau’r gost i gymdeithas."