Skip to content
Skip to navigation menu

English

Balchder Prydain

09 Tachwedd 2010

Dr Allison John on Graduation day

Cafodd merch â gradd feddygol o Gaerdydd a oresgynnodd broblemau iechyd enfawr wrth ddod yn feddyg ei chydnabod yng Ngwobrau blynyddol Balchder Prydain.

Dr Allison John, a raddiodd o’r Ysgol Feddygaeth yn gynharach eleni, yw’r person cyntaf ym Mhrydain i gael trawsblaniad o bob un o’r prif organau.

Ar ôl gorfod delio â ffibrosis systig, a gafodd ei gadarnhau pan oedd ond yn chwe wythnos oed, yn ystod y 30 mlynedd diwethaf mae Allison wedi dygymod â’r trawma corfforol ac emosiynol o dderbyn calon, ysgyfaint, afu ac aren newydd – gan gynnwys un llawdriniaeth pan arhosodd ar ddihun yn hytrach na chael anesthetig cyffredinol a allai fod wedi rhoi ei bywyd mewn mwy o berygl.

Er gwaethaf hyn a llawer cyfnod pan gafodd ei gorfodi i roi’r gorau dros dro i’w hastudiaethau, cwblhaodd Dr John hefyd radd yn y Niwrowyddorau o’r Ysgol Biowyddorau yn 2001 cyn cwblhau ei hastudiaethau meddygol a dod yn feddyg iau yn Ysbyty Nevill Hall, y Fenni, ym mis Awst.

Cafodd dewrder Dr John ei gydnabod gan y Prif Weinidog, David Cameron, mewn cinio blynyddol yn Downing Street pan ddisgrifiwyd hi’n ysbrydoliaeth i’w gwlad.

Dywedodd y Prif Weinidog wrth Dr John fod hanes ei bywyd yn nodedig a’i fod yn synnu ei bod wedi penderfynu bod yn feddyg ar ôl ei holl driniaethau.

Dywedodd yr Athro Paul Morgan, Deon yr Ysgol Feddygaeth: "Mae hanes Dr John yn wirioneddol anhygoel. Mae Gwobrau Balchder Prydain yn cydnabod yn haeddiannol y bobl hynny sydd, er gwaethaf pob anhawster, yn cyflawni eu hamcanion.

"Mae pawb ohonom yn yr Ysgol Feddygaeth yn llongyfarch Dr John ar ennill gwobr y mae'n ei llawn haeddu."

Mae Gwobrau Balchder Prydain yn ddigwyddiad blynyddol sy’n dathlu cyflawniadau rhai o bobl anhygoel y DG.

Yn y digwyddiad, a gyflwynwyd gan Carol Vorderman – a wnaed yn Gymrawd o’r Brifysgol yn 2008 – cafwyd enillwyr o sawl maes ac oed, ond roedd gan bawb un peth yn gyffredin, sef eu bod yn ysbrydoli eraill.

Y llun hafan trwy garedigrwydd: Media Wales Cyf

Dolenni

 

Newyddion Diweddaraf Student News