Skip to content Skip to navigation menu
12 Mai 2010
Faint yn union o broteinau sydd â phriodweddau diagnostig a therapiwtig grymus y mae modd eu cynhyrchu, a pha mor gyflym y gellir gwneud hynny?
Dyma un o ddim ond pedwar prosiect ymchwil gan y Brifysgol y bu grwpiau o fyfyrwyr ôl-raddedig a staff ymchwil yn ymchwilio iddynt fel rhan o i-Solve, y fenter unigryw a ariannwyd gan yr EPSRC i helpu i ddod o hyd i’r mentrau masnachol nesaf i’w sefydlu ar sail yr ymchwil arloesol a wneir ledled y Brifysgol heddiw.
Mae’r fenter bellach ar ei hail flwyddyn, ac aeth pedwar tîm cystadleuol a mentrus ati i ymchwilio i ofynion y farchnad o ran detholiad gofalus o brosiectau ymchwil ar sail eu potensial masnachol, naill ai drwy eu trwyddedu neu drwy sefydlu cwmni yn y dyfodol.
Ar ôl wyth wythnos o ymchwilio dyfal, enillodd y tîm o chwech o Ysgol y Biowyddorau a’r Ysgolion Busnes a Deintyddiaeth deitl y ‘Prosiect Gorau’n Gyffredinol’.
Enillodd tîm MuTAGene y wobr am eu dull arloesol o ganfod hyfywdra masnachol prosiect gan Ysgol y Biowyddorau i ddatblygu mecanwaith esblygiadol cyflymedig a allai esgor ar broteinau newydd i’w defnyddio ym meysydd diagnosteg a therapiwteg.
Gweithiodd y tîm gyda Dr Dafydd Jones, sef y Prif Ymchwilydd y tu ôl i’r dechneg o ddatblygu proteinau newydd. Seilir y dechneg ar y cysyniad o esblygiad a detholiad naturiol. Cynhyrchir mwtaniadau ar hap, a bydd y rheiny yn eu tro yn creu proteinau newydd. Dewisir y goreuon, a gallant wella gweithgarwch cymwysiadau penodol.
Mentor y tîm oedd Abigail Carter, Cyfarwyddwraig Forensic Resources Cyf a chynfyfyrwraig o’r Brifysgol. Gofynnwyd i’r tîm geisio canfod i ba raddau y gellid marchnata’r dechneg, a’r llwybr gorau i fynd â hi at y farchnad.
Meddai Elizabeth Fraser o Ysgol y Biowyddorau ac aelod o’r tîm buddugol: "Mae hi eisoes yn hysbys bod y dechneg yn gweithio, a chafodd y canlyniadau eu cyhoeddi mewn cyfnodolion rhyngwladol sy’n fawr eu parch. Gallai hi agor llwybrau newydd i ddeall systemau biolegol, cynhyrchu proteinau newydd i wella maes diagnosteg, neu hyd yn oed greu prosesau therapiwtig newydd a chyffuriau mwy effeithiol."
"Yr her i ni oedd ymchwilio i weld ble y gellid dod o hyd i’r potensial masnachol gorau i’r dechneg hon, pa glefydau y gellid ymchwilio iddyn nhw a sut y gellid gwella’r ddiagnosteg. Ar ôl gwneud hynny, aethon ni ati i ddyfeisio’r model busnes gorau i ddatblygu’r dechnoleg hon er mwyn iddi allu cyflawni ei photensial masnachol."
Penderfynodd y tîm mai’r cam gorau fyddai cynnig gwasanaeth i labordai ymchwil academaidd a masnachol yn hytrach nag ystyried cytundebau trwyddedu. Cynhyrchai hynny incwm yn gynt na llwybrau eraill at y farchnad, a chedwid rheolaeth dros y dechnoleg. Drwy ddarparu gwasanaeth, eu gobaith oedd gwneud yr ymchwil yn gynt ac, yn y pen draw, gyflymu’r broses sy’n fodd i gyffuriau protein therapiwtig neu broteinau masnachol eraill gyrraedd y farchnad.
Meddai Dr Jones: "Roedd hi’n bleser cael gweithio gyda grŵp mor ymrwymedig ac arloesol. Yr allwedd oedd y cyfuniad o wyddonwyr a myfyrwyr busnes. Trefnodd y tîm eu hunain yn gyflym, neilltuo rolau i’w haelodau a chadw at y rheiny drwy gydol y rhaglen. Bu hynny’n hynod effeithiol iddyn nhw ac i mi. Fe aethon nhw i’r afael â’r dechnoleg a’i photensial masnachol yn gyflym a gweithio’n galed ar ymchwil sylfaenol i ddilysu’r wybodaeth.
"Mae’r wybodaeth a gyflwynwyd gan y tîm yn hollbwysig ac ar sail hynny, ynghyd â’r clod sy’n dod o ennill i-Solve, mae gennym ni’n awr sylfaen gadarn i symud ymlaen a denu arian i gefnogi’r syniad busnes gwreiddiol. Oni bai am gyfraniad i-Solve, gallai’r syniad fod wedi bod yn ddim ond breuddwyd, ond bellach mae’n gyfle realistig ac mae’r ffeithiau a’r ffigurau’n dystiolaeth o botensial masnachol y dechnoleg – diolch i aelodau tîm buddugol i-Solve."
Meddai Elizabeth, "Profiad cyffrous iawn oedd cael y wobr am y tîm gorau’n gyffredinol a chydnabyddiaeth o’r oriau o waith a wnaethon ni i gyd. Roedd gennym ni fentor gwych, sydd hefyd yn fentrwraig, a bu ein "dyfeisydd" hefyd yn help mawr. Mae i-Solve hefyd wedi ymwneud â’r broses. Rydyn ni wedi dysgu sut mae gweithio gydag eraill mewn tîm ac am y camau sydd ynghlwm wrth ystyried datblygiadau arloesol newydd o ran nwyddau y gallwch chi eu marchnata."
Denodd i-Solve ôl-raddedigion a staff ymchwil o bob rhan o’r Brifysgol, a’r disgwyl oedd i bob tîm ymchwilio a chreu strategaeth mynd-i’r-farchnad gan elwa ar gymorth Prif Ymchwilydd a chyngor mentor o’r diwydiant. Cafodd y cynllun ei reoli gan Fenter Myfyrwyr, rhan o’r Adran Ymchwil a Masnachol, a’i ariannu gan yr EPSRC. Noddwyd y Noson Wobrwyo gan Gyngor Caerdydd.
Seilir i-Solve Caerdydd ar raglenni’r i-Timau ym Mhrifysgol Caergrawnt ac MIT. Caerdydd, felly, yw’r brifysgol gyntaf yn y DU ar ôl Prifysgol Caergrawnt i lansio cwrs i-Timau.
Meddai Terri Delahunty, Pennaeth Canolfan y Graddedigion, "Mae i-Solve yn ychwanegu dimensiwn arall at yr hyn a gynigiwn ni i ymchwilwyr i ddatblygu sgiliau i’w defnyddio yn eu gwaith yn y dyfodol. Elfen unigryw i-Solve yw’r cyfle i ddatblygu sgiliau trosglwyddo-gwybodaeth a masnachu. Caiff effaith gadarnhaol, yr un pryd, ar y prosiectau ymchwil cyfredol. Unwaith eto, mae aelodau’r timau wedi dangos gwir frwdfrydedd ac ymrwymiad i’w prosiectau."
Ysgogodd her i-Solve bedwar tîm i gyflwyno’u prosiectau i dîm o feirniaid sy’n fawr eu parch. Ymhlith y rheiny eleni yr oedd yr Athro Russell Smith a Mr Phil Wragg, sef ‘Business Boffins’; yr Athro Ian Weeks o Ysgol Meddygaeth Caerdydd; Ms Helga Chapman, partner-sylfaenydd Chapman Molony a Thwrnai Patentau Siartredig; a Mr Yannis Pierrakis o’r Gwaddoliad Cenedlaethol dros Wyddoniaeth, Technoleg a’r Celfyddydau (NESTA).
Y tair menter fasnachol arall yr edrychodd timau i-Solve arnynt oedd:
First science star for Wales announced 17/06/2013
Study reveals disease-causing parasites in dead otters 17/06/2013
Lansiwyd hwb cymunedol iaith Gymraeg 17/06/2013
Vice Chancellor to co-chair strategic forum for university and business leaders 13/06/2013
This is an externally hosted beta service offered by Google.