Skip to content
Skip to navigation menu

English

Ailasesu testunau o’r Canol Oesoedd

10 Chwefror 2009

Mae peth o’r gwaith hanesyddol mwyaf arwyddocaol sy’n sôn yn fanwl am y Croesgadau yn cael eu hailasesu’n drylwyr gan haneswyr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae’r Athro Peter Edbury, o’r Ysgol Hanes ac Archaeoleg yn cynhyrchu’r gyfrol feirniadol gyfoes gyntaf o’r hanesion canoloesol a elwir yn Continuations of William of Tyre a Chronicle of Ernoul and Bernard the Treasurer.

Mae’r llawysgrifau hyn, gyda’i gilydd, yn rhoi’r hanes llawnaf o ran y digwyddiadau o 1184 hyd 1277 yn y tiriogaethau yn y Dwyrain Agos a reolwyd gan y croesgadwyr, a dyma’r gwaith hanesyddol mwyaf arwyddocaol a luniwyd yn y Dwyrain Lladinaidd i ddisgrifio’r blynyddoedd hyn.

Mae’r hyn sydd o ddiddordeb yn y testunau hyn yn rhannol i’w gael yn y wybodaeth hanesyddol maent yn eu cynnwys, ond yn ogystal yn eu gallu i adlewyrchu myfyrdodau gwleidyddol a diwylliannol yr awduron a’r gynulleidfa wreiddiol.

Meddai’r Athro Edbury: "Ceir cytundeb eang o ran yr angen mawr am argraffiad cyfoes ysgolheigaidd o Continuations ac Ernoul-Bernard . Bydd yr argraffiad beirniadol cyfoes yn cynnwys offer testunol, nodiadau hanesyddol a rhagarweiniad a fydd yn cynnwys gwerthusiad o gynnwys hanesyddol y testunau hyn ac yn ailasesu eu cyd-destun llenyddol a diwylliannol.

"Bydd yr ymchwil yn ymestyn ein dealltwriaeth o safbwyntiau secwlar y drydedd ganrif ar ddeg ar y croesgadau i’r Tir Sanctaidd ac o’r egwyddorion a sefydlwyd yn y Canoldir dwyreiniol."

Mae 51 o lawysgrifau cyfieithiad Ffrangeg William o Tyre, a ddyddiwyd cyn 1500, 45 ohonynt yn cynnwys Continuations, ac wyth llawysgrif o Ernoul-Bernard wedi goroesi. Hyd yn hyn, mae eu swmp wedi rhwystro ysgolheigion rhag dechrau ar brosiect o’r maint hwn yn y gorffennol.

Fe fydd yr argraffiad gan yr Athro Edbury yn cynnig dogfen ymchwil a fydd yn cyfrannu’n arwyddocaol i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth ym maes hanes, hanes celf, iaith a llenyddiaeth Ffrangeg.

Ariennir yr ymchwil, a fydd yn dechrau ym mis Medi 2009, gan grant gwerth £410,000 o Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Tags