Skip to content
Skip to navigation menu

English

Blwyddyn wych o ran grantiau newydd

13 Medi 2010

Leighton Andrews AMLeighton Andrews AM

Mae’r Brifysgol wedi cofnodi ei blwyddyn orau erioed ar gyfer ennill grantiau ymchwil newydd – sef ychydig o dan £150 miliwn.

Mae Leighton Andrews, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi llongyfarch y Brifysgol ar y cyfanswm ardderchog, gan ei ddisgrifio fel "hwb mawr i economi Cymru"

Mae’r cyfanswm yn gynnydd o 73% ar 2008-09 a chynnydd o 36% ar gyfanswm gorau blaenorol y Brifysgol, sef £110 miliwn.

Daw’r llwyddiant er gwaethaf y ffaith bod llawer o gyrff cyllido’n cyfyngu ar eu cyllidebau ac yn adlewyrchu ymdrechion cydunol a wnaed ledled y Brifysgol i wella ei graddfa llwyddiant o ran sicrhau cyllid ymchwil.

Bu llwyddiant ym mhob maes, yn ymwneud â gofal iechyd, y gwyddorau ffisegol a chymdeithasol, peirianneg, y celfyddydau a’r dyniaethau. Bydd y prosiectau a gyllidir yn rhoi buddion uniongyrchol mewn sawl ffordd - i iechyd dynol, i’r amgylchedd, i economïau Cymru a’r DU ac i ddealltwriaeth ddiwylliannol.

Bydd llawer o’r dyfarniadau sylweddol a sicrhawyd eleni yn ariannu ymchwil amlddisgyblaethol, gan gynnal prosiectau cydweithiol sy’n ymwneud â staff o nifer o ysgolion academaidd.

Enillodd yr Ysgol Feddygaeth bron 200 o grantiau a chontractau newydd ar ei phen ei hun, cyfanswm o £74.3 miliwn. Bu hefyd cynnydd yn Ysgolion Pensaernïaeth, Biowyddorau, Cemeg, Deintyddiaeth, Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr, Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, Peirianneg, Cerdd, Seicoleg, Hanes, Archeoleg a Chrefydd, Gwyddorau Cymdeithasol, Astudiaethau Nyrsio a Bydwreigiaeth a Chymraeg.

I gyd, enillodd y Brifysgol 780 o ddyfarniadau newydd, gwerth £149.9 miliwn. Cofnododd y Brifysgol lefel uwch o ddyfarniadau ymchwil ar draws ystod eang o gyllidwyr, gan gynnwys Llywodraethau Ewrop, y DU a Chymru, y sector busnes a Chynghorau Ymchwil y DU".

Roedd yr enghreifftiau yn cynnwys: [links to each inserted here]

Datgloi imiwnedd a haint – Ysgol Feddygaeth

Rhoddwyd hwb i ymchwil i imiwnedd a haint yn yr Ysgol Feddygaeth gan ddyfarniad o £3 miliwn gan Gyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC). Bydd tîm o’r Ysgol Feddygaeth, a gydnabyddir yn rhyngwladol ac a arweinir gan yr Athro Andy Sewell, yn hyrwyddo eu gwaith diguro ar T-gelloedd, sy’n perfformio rolau hanfodol yn y system imiwnedd dynol.
Mae T-gelloedd yn rheoli heintiadau ac yn ein hamddiffyn rhagddynt, sy’n hanfodol ar gyfer dileu canser ac yn allweddol i frechiadau llwyddiannus. Gallant hefyd gamweithio a phan fydd hyn yn digwydd, credir iddynt achosi clefydau hunan-imiwn megis diabetes, arthritis gwynegol, a sglerosis ymledol. Yn nodweddiadol mae hunanimiwnedd yn gronig, yn gwanychu’n gynyddol ac nid oes iachâd ar hyn o bryd. Mae’r clefydau hyn yn cynhyrchu costau dynol ac ariannol anferth.
Mae’r grant yn caniatáu i’r Athro Sewell a’i dîm archwilio sut mae T-gelloedd unigol yn cydnabod niferoedd anferth o antigenau estron (a elwir yn groesadweithedd). Galluogir y croesadweithedd hwn oherwydd bod y molecwl sy’n derbyn ar wyneb y T-gell yn gymysg iawn a gall gydnabod llawer o ‘siapiau’ molecwlar tebyg. Bydd gwell dealltwriaeth yn mynd â meddygon yn agosach at well triniaethau.

Therapi celloedd bonyn ar gyfer anafiadau i linyn y cefn – Ysgol Deintyddiaeth

Ymunodd Yr Athro Bing Song, unigolyn blaenllaw ym maes gwella clwyfau ac atgyweirio meinweoedd, â’r Ysgol Ddeintyddiaeth eleni. Ei brif ddiddordebau yw rheoli ymfudo, rhannu a gwahaniaethu celloedd drwy signalau trydan ym maes gwella clwyfau ac atgyweirio meinweoedd. Yn ogystal â chydweithio ar nifer o brosiectau yn yr Ysgol Deintyddiaeth ac Ysgol y Biowyddorau, mae gan yr Athro Song lawer o bartneriaethau gydag arweinwyr ymchwil rhyngwladol eraill. Mae’r rhain yn cynnwys Prifysgol Caergrawnt, Prifysgol Rhydychen, Coleg Imperial Llundain, Coleg Prifysgol Llundain yn y DU, Prifysgol California, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Johns Hopkins, Athrofa Salk, Athrofa Ymchwil Scripps yn UDA ac Academi Gwyddorau Awstria.

Yn ystod ei gyfnod yng Nghaerdydd, mae’r Athro Song eisoes wedi sicrhau nifer o grantiau ymchwil mawr. Mae’r rhain yn cynnwys £1.5 miliwn gan Gyngor Ymchwil Ewrop ar ddefnyddio celloedd bonyn i drin anafiadau i linyn y cefn – y dyfarniad cyntaf erioed i Gaerdydd gan Gyngor Ymchwil Ewrop.

Mae’r ymchwil yn golygu optimeiddio’r sgaffald nanoddeunydd mwyaf priodol i wneud lle ar gyfer celloedd bonyn a drawsblannwyd, yn archwilio’r awgrymiadau canllaw sy’n rheoli ymddygiad celloedd bonyn niwral, ac yn y pen draw yn archwilio potensial disodli celloedd bonyn niwral ynglŷn â thrin anafiadau i linyn y cefn. Dros y pum mlynedd nesaf, nod y prosiect yw sefydlu sylfaen a strategaethau therapi disodli celloedd bonyn er mwyn trin anafiadau i linyn y cefn.

Allyriadau gronynnol awyrennau – Ysgol Beirianneg

Mae Canolfan y Brifysgol ar gyfer Ymchwil i Dyrbinau Nwy, a leolir yng Nghanolfan Peirianneg Cynulliad Cymru ar gyfer Gweithgynhyrchu a Deunyddiau ym Mhort Talbot, yn arwain consortiwm o arbenigwyr y byd o ran mesur llygredd gronynol a ddaw o beiriannau awyrennau. Mae’r prosiect yn rhan o raglen ymchwil a ariennir gan Awdurdod Diogelwch Hedfan Ewrop gwerth €600,000 ac yn cynnwys canolfan ymchwil awyrofod genedlaethol Yr Almaen DLR, Rolls-Royce, canolfan ymchwil awyrofod Ffrainc a QinetiQ, yn ogystal â phrifysgolion o Fanceinion a Fienna. Caiff y prosiect ei gwblhau ar ddiwedd 2010.

Arweinir y consortiwm gan ddarlithydd yn Yr Ysgol Beirianneg, Dr Richard Marsh, sy’n arbenigo mewn hylosgiadau ac allyriadau peiriannau awyrennau. Dyfarnwyd y prosiect hwn ar ôl cwblhau astudiaeth cam cyntaf gwerth €300,000 yn llwyddiannus, ac roedd hefyd yn cynnwys profion arbrofol yn y Ganolfan Ymchwil i Dyrbinau Nwy.

Mae cyllidwyr y prosiect yn gweithio’n agos gyda chyrff rhyngwladol eraill i alluogi gwell dealltwriaeth a chymeriadaeth sylweddau gronynnol mân a ddaw o beiriannau awyrennau. Mae’r ymchwil yn hanfodol i’r drafodaeth gyfredol ynglŷn â llygredd ar lefel y ddaear o gwmpas meysydd awyr megis Heathrow, yn ogystal â gwella’r ddealltwriaeth o olion anwedd a chymylau a achosir gan awyrennau. Mae’r un cyntaf yn ymwneud â materion ansawdd awyr a’r effeithiau ar iechyd a gallai’r ail un, o bosibl, ddylanwadu ar gylch y newid yn yr hinsawdd.

Bydd y Ganolfan Ymchwil i Dyrbinau Nwy a’i phartneriaid yn ymgymryd â mesuriadau manwl ar natur a chyfansoddiad allyriadau gronynnol awyrennau. Caiff y canlyniadau hyn eu defnyddio gan y cyrff hedfan rhyngwladol er mwyn llunio safonau allyriadau a methodolegau samplu ar gyfer awyrennau sifil yn y dyfodol.

Gerddi Islamaidd yn y DU – Ysgol Hanes, Archeoleg a Chrefydd

Enillodd Dr Sophie Gilliat-Ray, o Ganolfan y Brifysgol ar gyfer Astudio Islam yn y DU, gyllid gan Gadwraeth Gerddi Botaneg Ryngwladol (BGCI) i archwilio’r posibilrwydd o sefydlu Gerddi Islamaidd yn y DU.

Mae traddodiad hir yn y byd Islamaidd o greu gerddi, wedi’u cynllunio’n aml fel adlewyrchiad o’r deyrnas nefol yn y Qur’an. Maent yn cynnwys cysgod a dŵr, gan adlewyrchu amgylchedd yr anialwch y daeth Islam ohono ac maent hefyd wedi cynnwys elfennau o ledled amrywiaeth ddiwylliannol y byd Mwslimaidd.

Roedd gan Gadwraeth Gerddi Botaneg Ryngwladol ddiddordeb mewn datblygu gerddi Islamaidd sydd â chynaliadwyedd a chadwraeth wrth eu craidd. Mae’r Ganolfan, sy’n hyrwyddo dealltwriaeth gyhoeddus o Islam a Mwslimiaid yn y DU, wedi gwneud ymchwil i hyfywdra’r syniad. Yn benodol, mae wedi gwneud argymhellion ynglŷn â chynaliadwyedd a bioamrywiaeth, ac mae wedi asesu’r lle am ymgysylltu gan Fwslimiaid Prydain ac am integreiddio a chydweithredu rhyng-grefyddol.

Ymhlith y prosiectau ymchwil llwyddiannus lu eraill a enillodd gyllid sylweddol oedd:

  • Y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd – yn darparu canolfan gydlynol ar gyfer sbectrwm eang o ymchwil glinigol ledled Cymru
  • Datblygu technolegau carbon isel newydd i Gymru
  • Gwerthuso rhaglen atal camddefnyddio sylweddau i deuluoedd Cymru
  • Dadorchuddio’r bydysawd cudd
  • Datblygu waliau a thoeau sy’n cynhyrchu ynni ar gyfer adeiladau
  • Technolegau newydd ar gyfer gwyddorau celloedd bonyn
  • Technegau cadw ar gyfer arteffactau haearn hanesyddol
  • Astudio’r casgliad o lyfrau a gedwir i Gymru
  • Gwella addysgu’r Gymraeg i oedolion

Adlewyrchwyd y cryfder ymchwil craidd y tu ôl i dri sefydliad ymchwil fflaglong newydd y Brifysgol yn y llwyddiant o ran cyllid a gafwyd gan lawer o’i chwaraewyr allweddol. Roedd yr Athro Alan Clarke, y prif ymgeisydd ar Sefydliad Ymchwil i Gelloedd Bonyn Canser, wedi’i ymglymu mewn grantiau llwyddiannus â chyfanswm o fwy nag £1 miliwn gan Cancer Research UK. Derbyniodd gwaith cyfredol Banc Canser Cymru wrth adeiladu adnodd ymchwil gyda chleifion canser £4 miliwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Derbyniodd yr Athro Julie Williams, o Sefydliad Ymchwil i’r Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl, ac a ddenodd benawdau newyddion byd-eang y llynedd ar gyfer ei darganfyddiadau ar eneteg clefyd Alzheimer, fwy nag £1.1 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Meddygol am ei gwaith parhaus. Roedd ei chydweithwyr, yr Athro Michael O’Donovan a’r Athro Mike Owen, Cyfarwyddwr y Sefydliad, yn rhan o gynnig llwyddiannus i Ymddiriedolaeth Wellcome ar eneteg sgitsoffrenia.

Roedd llawer o ddyfarniadau eleni’n berthnasol i gynaliadwyedd, sy’n adlewyrchu natur amlddisgyblaethol y Sefydliad Ymchwil i Fannau Cynaliadwy. Sicrhaodd yr Athro Phil Jones, Pennaeth yr Ysgol Pensaernïaeth, fwy na £30 miliwn gan Swyddfa Gyllid Ewropeaidd Cymru i’r Sefydliad Ymchwil i Garbon Isel - prosiect Cymru gyfan a arweiniwyd gan Gaerdydd i sefydlu dyfodol gydag allyriadau carbon isel i’r genedl. Roedd cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil i Fannau Cynaliadwy, sef yr Athro Terry Marsden, hefyd yn rhan o dîm y rhoddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y dasg o ddatblygu strategaeth bwyd a diod i Gymru iddo.

Dywedodd Dr David Grant, yr Is-ganghellor: "Mae llwyddiant eleni gymaint yn fwy trawiadol mewn cyfnod pan fod cyllid gan bob corff ymchwil wedi ei gyfyngu. Mae’r Brifysgol yn gweithio’n galed i wella ei graddfa o ran llwyddiant gyda chynigion i’r cynghorau ymchwil ac mae’n annog cynigion arloesol o ansawdd uchel i ystod o gyllidwyr"

"Mae’r dyfarniadau hyn yn adlewyrchu hyder bod ymchwil Prifysgol Caerdydd yn dod â buddion gwirioneddol i’r gymdeithas, i’r amgylchedd ac i’r economi. Mae’n debygol y bydd yr hinsawdd gyllido’n heriol am rai blynyddoedd i ddod, ond rwyf yn hyderus y bydd hanes Caerdydd o ran dyfarniadau ardderchog yn caniatáu i ni adeiladu ymhellach ar lwyddiant eleni."

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews:

"Mae llwyddiant Prifysgol Caerdydd o ran cofnodi ei blwyddyn orau erioed ar gyfer ennill cyllid newydd ar gyfer ymchwil yn newyddion ardderchog. Mae llwyddiant o ran ennill cyllid ymchwil a datblygu allanol yn hanfodol i awydd Cymru i gystadlu ac mae’n elfen hollol hanfodol ein hagenda Er Mwyn ein Dyfodol a’n Rhaglen Adnewyddu Economaidd. Mae’r llwyddiant hwn yn hwb mawr i economi Cymru, yn dod â buddsoddiadau allanol i mewn ac yn sicrhau cydweithio cryf rhwng y sector addysg uwch a diwydiant.

"Hoffwn longyfarch Prifysgol Caerdydd ar ei llwyddiant sy’n dangos yn gyfan gwbl bod gan Gymru ganolfannau rhagoriaeth ymchwil diguro a all gystadlu gyda’r goreuon."

Dolenni perthynol:

The European Cancer Stem Cell Research Institute
Neuroscience & Mental Health Research Institute
Sustainable Places Research Institute