Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Ymchwil yn sbarduno busnes deillio newydd

02/02/2010

Dr Neil Warren

Dr Neil Warren

Mae dyluniadau offer llawfeddygol newydd sy’n ceisio gwella diogelwch ac effeithlonrwydd gweithdrefn lawfeddygol allweddol wedi sbarduno cwmni newydd yn deillio o’r Brifysgol.

Mae Asalus yn gwmni deillio newydd a sefydlwyd ar waith ymchwil arloesol Dr Neil Warren, o’r Ysgol Addysg Feddygol a Deintyddol Ôl-raddedig, i lawfeddygaeth laparosgopig.

Mae llawfeddygaeth laparosgopig yn dechneg llawfeddygol fodern lle bydd llawdriniaethau yn yr abdomen yn cael eu perfformio trwy endoriadau bach, o gymharu â’r endoriadau mwy o faint sydd eu hangen mewn triniaethau llawfeddygol traddodiadol. 

Dr Warren yw’r cyfarwyddwr a’r darlithydd yn Athrofa Therapïau Lleiaf Ymyrrol Cymru (WIMAT) sy’n rhan o Ysgol Addysg Feddygol a Deintyddol Ôl-raddedig y Brifysgol ac mae’n un o’r canolfannau hyfforddiant laparosgopig â’r cyfarpar gorau yn y DU.

Bydd y cwmni newydd yn datblygu tair dyfais newydd arloesol wedi’u dylunio gan Dr Warren i wella diogelwch ac effeithlonrwydd llawfeddygaeth laparosgopig.

Mae’r tri chynnyrch, y ffeiliwyd Patentau ar eu cyfer yn barod, y bydd Asalus yn eu datblygu, yn cynnwys: dyfais glirio mwg a stêm sy’n golygu newid yn y ffordd y mae mwg electro-llawfeddygol yn cael ei dynnu o geudod yr abdomen yn ystod llawdriniaeth laparosgopig; porth mynediad a fydd yn cynnig buddion sylweddol dros y rheiny sydd ar y farchnad ar hyn o bryd; a dyfais amlswyddogaethol ar gyfer trin meinweoedd ac organau yn annhrawmatig.

Dywedodd Dr Neil Warren o’r Ysgol Addysg Feddygol a Deintyddol Ôl-raddedig: “Mae’r gwaith yn WIMAT ar flaen y gad ym maes hyfforddiant llawfeddygaeth leiaf ymyrrol, a’r profiad ymarferol hwn a’m galluogodd i feddwl am y cysyniadau ar gyfer ystod Asalus o ddyfeisiadau laparosgopig.”

Mae Asalus yn gwmni deillio newydd a ddatblygwyd o ganlyniad i bartneriaeth y Brifysgol gyda Fusion IP. Ym mis Ionawr 2007, cwblhaodd Fusion IP gytundeb cyfyngol hirdymor gyda’r Brifysgol, i fasnacheiddio Eiddo Deallusol y Brifysgol a gynhyrchwyd yn sgil ymchwil.   

Mae cwmnïau eraill yn deillio o’r Brifysgol a sefydlwyd o ganlyniad i’r bartneriaeth yn cynnwys: Mesuro, Abcellute, Medaphor a Q-chip

Mae gan Fusion IP Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth hefyd gyda Chyllid Cymru, sef y darparwr cyllid masnachol i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru, sy’n amlinellu strategaeth o gyd-fuddsoddi mewn cyfleoedd sy’n codi o gytundeb y Brifysgol.

Dywedodd Dominic Griffiths, Rheolwr Portffolio Buddsoddiadau Fusion IP a Chyfarwyddwr Asalus: “Mae hon yn enghraifft wych o’r modd y gall chwistrelliad o allu ac arian o’r sector masnachol hwyluso trawsnewid yr eiddo deallusol o safon fyd-eang sydd gan Brifysgol Caerdydd yn gyflym, i fod yn fusnesau â gwerth go iawn.

“Mae gan Asalus gyfle gwych i fod yn ddatblygwr rhai o brif ddyfeisiadau laparosgopig y DU, ac edrychwn ymlaen at gefnogi’r cwmni wrth iddo fasnacheiddio’i ystod cynnyrch.”

Dolenni