Skip to content
Skip to navigation menu

English

Cynhadledd Rideal 2011

05 Ebrill 2011

Molecule structure

Caiff cynadleddwyr o bedwar ban y byd eu croesawu i Sefydliad Catalysis Caerdydd yn ddiweddarach yn y mis.

Rhwng 19eg a 21ain Ebrill, y Sefydliad hwn, sy’n rhan o’r Ysgol Cemeg, fydd cartref Cynhadledd Rideal, y gynhadledd fwyaf nodedig yn y DU ym maes catalysis a gwyddor arwynebau.

Yn ystod tridiau’r gynhadledd, caiff y cynadleddwyr gyfle i wrando ar siaradwyr o blith rhestr o rai amlwg iawn, gan gynnwys yr Athro Cynthia Friend o Brifysgol Harvard, a fydd yn cynnig sawl cipolwg ar brosesau catalytig o fyd sylfaenol gwyddor arwynebau.

Daw siaradwyr eraill o Brifysgol Wisconsin-Madison, y Fritz-Haber Institut der Max-Planck-Gesellschaft yn Berlin, Prifysgol Dechnoleg Eindhoven, Prifysgol A&M Texas a Chanolfan Dechnoleg Johnson Matthey.

Mae rhestr lawn o’r siaradwyr a’r pynciau i’w gweld yn: www.rideal.caerdydd.ac.uk

Meddai Dr Philip Davies, Ysgol Cemeg Caerdydd: "Fe fyddwn ni, yn y gynhadledd hon, yn trafod gwaith gan rai o arweinwyr maes gwyddor arwynebau a chatalysis. Byddwn ni’n falch, felly, o groesawu i Gaerdydd lawer o’r ffigurau amlycaf yng nghymunedau gwyddor arwynebau a chatalysis yn y DU ac Ewrop."

Cynhelir Cynhadledd Rideal bob pedair blynedd. Fe’i henwyd er anrhydedd i’r cemegydd ffisegol Syr Eric Keightley Rideal (1890 – 1974).

Cysylltau cysylltiedig

Tags