Skip to content
Skip to navigation menu

English

Cyfweliadau’r Gymdeithas Frenhinol

29 Mai 2012

Double royal society success 1 -WebMae dau Gymrawd newydd y Gymdeithas Frenhinol yng Nghaerdydd wedi siarad am y wyddoniaeth wrth wraidd eu gwobrau clodfawr.

Cafodd yr Athro Hywel Thomas, Yr Ysgol Beirianneg, a’r Athro John Aggleton, Yr Ysgol Seicoleg, eu hethol yn Gymrodyr ym mis Ebrill 2012. Caiff Cymrodoriaeth y Gymdeithas ei hystyried yn gyffredinol yn y DU fel ail i Wobr Nobel yn unig o ran bri.

Yma, mae’r Athro Thomas, sydd hefyd yn Ddirprwy Is-ganghellor, Ymgysylltu a Rhyngwladol, y Brifysgol yn esbonio ei waith arloesol ar brosesau peirianneg geo-amgylcheddol.

Ac mae’r Athro Aggleton yn esbonio sut mae ei waith wedi trawsnewid ein dealltwriaeth o leoliad y cof yn yr ymennydd.