Skip to content
Skip to navigation menu

English

Clwb dydd Sadwrn yn mynd i’r afael â stereoteipio o ran

16 Mawrth 2009

Mae grŵp o academyddion y Brifysgol yn rhoi eu boreau Sadwrn i gymryd rhan mewn menter i annog mwy o ferched i ystyried gyrfa ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg ac adeiladu.

Mae’r arbenigwyr, sy’n ferched i gyd, ar gwest i chwalu stereoteipiau o ran rhyw sy’n ymwneud â’r pynciau hyn trwy redeg cyfres o ddigwyddiadau arbennig i ysbrydoli merched Blwyddyn 9 sydd efallai heb ystyried mynd i mewn i’r meysydd hyn.

Mae clybiau Discover! yn sesiynau blasu ymarferol sy’n ymchwilio i fyd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Gyda sesiynau a gynhaliwyd yn flaenorol yn y Brifysgol yn llwyddiannus, eleni, ehangwyd y fenter i ranbarthau Abertawe a Gwent trwy gyllid Menywod mewn Gwyddoniaeth, Peirianneg ac Adeiladu (WISE) gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Dr Vicki Stevenson, Ysgol Bensaernïaeth Cymru a chadeirydd Wise (Menywod mewn Gwyddoniaeth, Peirianneg ac Adeiladu) yng Nghymru yn un o drefnwyr y sesiynau. Dywedodd: "Er efallai nad ydym yn sylweddoli hynny, mae llawer o stereoteipio cynnil yn digwydd trwy gydol plentyndod sy’n golygu bod gan ferched hyd yn oed cyn diwedd yr ysgol gynradd y syniad nad yw peirianneg a gwyddoniaeth yn addas ar gyfer merched. Mae’r sesiynau hyn wedi cael eu cynllunio i ddangos pa mor werth chweil y gall gyrfaoedd yn y meysydd pwnc hyn fod heb ystyried cefndir a rhyw.

"Ers ehangu i’r rhanbarthau eraill, mae nifer y merched sy’n cael mynediad at Discover! wedi treblu. Rydym ni hefyd wedi gallu cynyddu’r amrywiaeth o bynciau i gynnwys rhewlifeg, bioadfer, technegau fforensig a chyfrifiadura dynol."

Mae clwb Discover! gwreiddiol Caerdydd a’r Fro wedi bod yn rhedeg er tair blynedd. Eleni mae wedi cynnwys pynciau fel dadansoddi DNA, datblygu llaw artiffisial, dylunio tecstilau seiliedig ar fwynau a defnyddio Telesgop Faulkes ac mae ei ganolfan weithredu yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth. Byddant hefyd yn cael y cyfle i fynd ar ymweliadau diwydiannol â gorsaf bŵer RWE nPower yn Aberthaw, a phrosiect peirianneg sifil Carillion ar yr M4 a British Airways Maintenance Cardiff.

Mae llawer o sesiynau ‘Discover!’ Caerdydd wedi cael eu cynnal yn y Brifysgol yn cynnwys mwy nag wyth o academyddion ac ymchwilwyr sy’n fenywod, gan gynnwys cyfarwyddwr Gwyddoniaeth wedi Symleiddio, Wendy Sadler a chefnogaeth gan yr Athro Karen Holford, yr athro benywaidd cyntaf yn yr Ysgol Beirianneg ac enillydd Gwobr Rhagoriaeth WISE 2007.

Mae’r sesiynau’n cael eu trefnu ar y cyd gyda Gyrfa Cymru Caerdydd a’r Fro, Gyrfa Cymru Gwent, Prifysgol Abertawe, Gyrfa Cymru’r Gorllewin a Sgiliau Adeiladu.