Skip to content
Skip to navigation menu

English

Datblygu dealltwriaeth o sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol

20 Medi 2011

depressed man web

Mae amrywiolion genetig cyffredin yn cyfrannu at risg sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol, mae consortiwm ymchwil cenedlaethol wedi’i ddarganfod.

Mae sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol yn anhwylderau cyffredin yr ymennydd ac anhwylderau difrodus yn aml, sy’n effeithio ar ryw un y cant o boblogaeth y byd. Mae tîm sy’n cynnwys gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd wedi dod o hyd i dystiolaeth folecwlar newydd fod gan 11 o ranbarthau genetig gysylltiadau cryf â’r clefydau hyn, gan gynnwys chwe rhanbarth nad ydynt wedi’u harsylwi’n flaenorol. Canfu’r ymchwilwyr hefyd fod llawer o’r amrywiadau DNA hyn yn cyfrannu at y ddau glefyd.

Mae’r canfyddiadau, a adroddwyd gan y Psychiatric Genome-Wide Association Study Consortium (PGC), yn ddatblygiadau arwyddocaol yn yr anhwylderau difrifol a niweidiol hyn.

Mae’r canfyddiadau, sydd wedi’u seilio ar ddata genetig o ddegau o filoedd o gleifion, newydd eu cyhoeddi ar-lein mewn dau bapur yn y cyfnodolyn Nature Genetics. Fe wnaeth yr Athro Michael O’Donovan, yr Athro Michael Owen a’r Athro Nick Craddock o Ganolfan yr MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig yn Ysgol Feddygaeth Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, gyfraniad sylweddol at yr astudiaeth o ran data, dadansoddi a rheoli.

Dywedodd yr Athro O’Donovan: "Mae’r amrywiolion genetig yr ydym wedi’u nodi yn gyffredin yn y boblogaeth - mae pawb yn cario llawer ohonynt, ond mae pobl sydd â’r anhwylderau yn cario mwy.

"Mae llwyddiant yr astudiaeth hon yn dangos yr angen am gydlynu rhyngwladol wrth harneisio data o samplau mawr iawn er mwyn manteisio ar bŵer geneteg i ddatgelu dirnadaethau newydd. Dros y ddwy flynedd nesaf disgwyliwn gael data o samplau astudiaeth sydd dair neu bedair gwaith yn fwy na’r rheiny sydd gennym ar hyn o bryd, a gellir disgwyl i hyn gael yr un effaith i’n hymchwil ni â’r effaith y mae cyflymyddion gronynnau mwy pwerus fyth wedi’i chael mewn ffiseg."

Ychwanegodd yr Athro Owen: "Mae’n amlwg bod llawer o enynnau ynghlwm â’r anhwylderau hyn, ac fe gymera rai blynyddoedd eto tan i ni allu gweld rhan fawr o’r darlun. Fodd bynnag, am y tro cyntaf, rydym mewn sefyllfa i wneud cysylltiadau swyddogaethol petrus rhwng rhai o’r genynnau a nodwyd.

"Un canfyddiad arbennig o gyffrous yw cysylltiad math o folecwl, o’r enw microRNA, sy’n gweithredu fel swîts molecwlar i ddiffodd genynnau eraill. Mae’n hysbys hefyd fod y microRNA hwn yn rheoleiddio agweddau ar ddatblygiad ac aeddfediad nerfgelloedd yn yr ymennydd. Mae’r canfyddiadau’n awgrymu amharu ar y prosesau datblygu hyn fel ffactorau tebygol yng nghychwyniad anhwylder y meddwl."

Mae sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol fel arfer yn taro yn hwyr yn ystod y cyfnod glasoed neu yn gynnar mewn oedolaeth. Rhai o’r symptomau amlycaf mewn sgitsoffrenia yw rhithdybiau cyson, rhithwelediadau a phroblemau gwybyddol. Nodweddir anhwylder deubegynol (neu salwch iselder manig) gan gyfnodau o broblemau tymer difrifol gan gynnwys mania ac iselder. Er bod triniaethau ar gael, mae’r afiechydon hyn yn rhai cronig fel arfer, yn arwain yn aml at anabledd maith a dioddefaint personol. Mae hanes teuluol yn ffactor risg cryf i’r ddau anhwylder. Mae’r canfyddiadau newydd yn dystiolaeth o’r rhagdybiaeth gyffredinol fod dwsinau o enynnau, ynghyd â ffactorau amgylcheddol, yn cyfrannu at risg clefydau.

Y Psychiatric Genome-Wide Association Study Consortium yw’r consortiwm mwyaf erioed mewn seiciatreg. Mae dros 250 o ymchwilwyr o fwy nag 20 o wledydd wedi dod at ei gilydd mewn ysbryd o gydweithredu nas gwelwyd ei debyg o’r blaen i hyrwyddo gwybodaeth am achosion genetig salwch meddwl. Roedd parodrwydd llawer o grwpiau i rannu data genetig o ddegau o filoedd o gleifion a gasglwyd dros flynyddoedd lawer yn hanfodol i lwyddiant y prosiect.

Darparwyd cyllid ar gyfer cydlynu’r consortiwm gan Sefydliad Cenedlaethol Iechyd Meddwl yr Unol Daleithiau. Cafodd ymchwil Caerdydd ei hariannu hefyd gan y Cyngor Ymchwil Meddygol, Ymddiriedolaeth Wellcome, yr Undeb Ewropeaidd, a’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Cymdeithasol a Gofal Iechyd.