Skip to content Skip to navigation menu
19 Mawrth 2012
Beth sy’n gallu rhwystro celloedd canser rhag ymledu? Sut mae harneisio’r system imiwnedd i drin clefydau? A all ein genynnau ein gwneud yn dueddol o gael anhwylderau seiciatrig?
Cafodd disgyblion safon uwch o Gymru benbaladr ac o siroedd y ffin y cyfle i ddod o hyd i’r atebion i’r cwestiynau hyn a llawer mwy yn nigwyddiad blynyddol Gwyddoniaeth mewn Iechyd y Brifysgol.
Ymgasglodd rhagor na 500 o bobl ifanc a 45 o athrawon o 36 ysgol ar gampws Parc y Mynydd Bychan ar gyfer Gwyddoniaeth mewn Iechyd yn Fyw, sy’n rhan o gyfraniad Prifysgol Caerdydd i Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg.
Bwriad yr achlysur, sy’n mynd ers 18 mlynedd bellach, yw rhoi mewnwelediad i’r disgyblion o’r wyddoniaeth y tu ôl i feddygaeth, a dangos iddynt yn y fan a’r lle y dewis o opsiynau gyrfa sydd ar gael iddynt mewn gofal iechyd a meysydd biofeddygaeth a gwyddoniaeth. Gwneir ymdrechion sylweddol i sicrhau bod y disgyblion sydd wedi cofrestru ar gynllun ehangu mynediad y Brifysgol ’Camu i fyny i’r Brifysgol’ yn gallu mynychu.
Cafodd y myfyrwyr flas ar deithiau o amgylch y labordai, mannau arddangos rhyngweithiol, comedi gwyddoniaeth a chyfres o sgyrsiau ar amryw o bynciau poblogaidd mewn meddygaeth. Gwelsant hefyd berfformiad Theatr Gwyddoniaeth yn arddangos gwyddorau meddygol a chlinigol ar waith.
Roedd yr ystod o dechnoleg flaengar a ddangosid yn cynnwys camerâu delweddu sy’n dangos prosesau cemegol mewn celloedd byw a meddalwedd modelu chwyldroadol sy’n cynorthwyo gyda chynllunio cyffuriau.
Dyweddodd Nicholas Alford, Pennaeth Bioleg yn Ysgol Gyfun St Cyres ym Mhenarth: "Roedd cynnwrf a chyffro cyffredinol y myfyrwyr a gweld eu syniadau am yrfaoedd y dyfodol yn cael eu hay yn un o rannau gorau'r digwyddiad."
Trefnir Gwyddoniaeth mewn Iechyd yn Fyw gan bwyllgor Dealltwriaeth y Cyhoedd o Wyddoniaeth mewn Iechyd (PUSH) y Brifysgol.
Dywedodd Dr James Matthews, o’r Ysgol Feddygaeth a chyd-gadeirydd PUSH: "Hyd y gwyddom ni, does dim digwyddiad tebyg yn y DU y gellir ei gymharu o ran cwmpas a maint. Mae Prifysgol Caerdydd hefyd â hawl i'r unig yn y Deyrnas Unedig o bosibl, sef Dr Dean Burnett!
"Mae Gwyddoniaeth Mewn Iechyd yn Fyw hefyd erbyn hyn wedi ei gysylltu â chyfres o weithgareddau cydlynedig yn yr Ysgol Feddygaeth, gan gynnwys Darlithoedd Cyhoeddus Gwyddoniaeth mewn Iechyd a rhaglen profiad gwaith newydd y gwyddorau biofeddygol, sy’n anelu at ysbrydoli a hysbysu myfyrwyr ysgolion uwchradd ar hyd a lled Cymru sy’n chwilio am gyfleoedd gyrfa mewn meddygaeth a gwyddoniaeth fiofeddygol.
"Mae’r sylwadau cadarnhaol gan fyfyrwyr ac athrawon yn y digwyddiad yn dangos ein bod wedi mynd ffordd sylweddol i gwrdd â’r nodau hynny ac mae’n adlewyrchu ymdrechion enfawr gan nifer fawr o unigolion sydd wedi’u symbylu."
Ychwanegodd yr Athro Anthony Campbell, Ysgol Fferylliaeth a Gwyddoniaeth Fferyllol Cymru a chyd-gadeirydd PUSH: "Ein nod yw cyffroi pobl ifanc ynghylch y wyddoniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n cael effaith wirioneddol ar ymchwil feddygol ac arfer clinigol.
"Bwriad yr achlysur yw gadael i ddisgyblion ddarganfod sut mae amrywiaeth anhygoel o wyddoniaeth sylfaenol, a ddatblygwyd yma yng Nghaerdydd, wedi arwain at ddarganfyddiadau am y mecanweithiau sy’n achosi afiechydon, a sut mae’r rhain yn cael eu defnyddio i ddod o hyd i ffyrdd newydd i’w rhwystro, neu i ddatblygu triniaethau newydd."
Dywedodd yr Athro Paul Morgan, Deon yr Ysgol Feddygaeth: "Mae’r Ysgol yn gweithio’n galed i gynyddu’r nifer o ddisgyblion ysgol yng Nghymru sy’n ymgeisio ac yn ennill lle yn yr Ysgol.
"Ar hyn o bryd, mae llai nag 20% o’n myfyrwyr yn dod o Gymru a hoffwn yn fawr weld y gyfran hon yn codi’n sylweddol.
"Gobeithio y bydd digwyddiadau fel Gwyddoniaeth Mewn Iechyd 2012 yn helpu i annog myfyrwyr ifanc dawnus o Gymru i ystyried gwneud cais am astudio Meddygaeth neu broffesiynau eraill sydd a wnelont ag iechyd, a mynd yn feddygon, nyrsys a staff iechyd eraill sy’n hanfodol i ofynion gofal iechyd Cymru yn y dyfodol."
Mae Gwyddoniaeth mewn Iechyd yn Fyw yn cynnwys 150 o aelodau o’r staff ar bob lefel, o ôl-raddedigion i Athrawon, sy’n cynrychioli Ysgolion Meddygaeth, Fferylliaeth, Gofal Iechyd, Deintyddiaeth ac Optometreg.
Yr Ysgol Feddygaeth
Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Cymru
Yr Ysgol Astudiaethau Gofal Iechyd
Yr Ysgol Ddeintyddiaeth
Yr Ysgol Optometreg
Dealltwriaeth y Cyhoedd o Wyddoniaeth mewn Iechyd
More Tags
First science star for Wales announced 17/06/2013
Study reveals disease-causing parasites in dead otters 17/06/2013
Lansiwyd hwb cymunedol iaith Gymraeg 17/06/2013
Vice Chancellor to co-chair strategic forum for university and business leaders 13/06/2013
This is an externally hosted beta service offered by Google.