Skip to content
Skip to navigation menu

English

Cyfres Darlithoedd Scott

22 Hydref 2010

Antarctic Coast

Mae Prifysgol Caerdydd yn croesawu siaradwyr gwadd arbenigol o fyd fforio’r pegynau ac ymchwil wyddonol i draddodiCyfres Darlithoedd Scott.

Yn dilyn llwyddiant Darlith Nodedig Hadyn Ellis yn y Brifysgol a draddodwyd gan Syr Ranulph Fiennes, mae cyfres darlithoedd cyhoeddus Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr yn dathlu canmlwyddiant taith Capten Scott i Begwn y De.

Bydd y pynciau yn amrywio o Bywyd yn y Rhewgell gan yr Athro John Parkes, Pennaeth Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr (11 Ionawr 2011) at yr Athro Lloyd Peck, Arolwg Antarctig Prydain ar Amrywiaeth Ryfeddol Cefnfor y De (11 Rhagfyr 2010).

Mae’r gyfres o ddarlithoedd yn cael ei chydlynu gan Dr Simon Wakefield, Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr, a dywedodd: "Mae’r gyfres hon o ddarlithoedd yn dangos y diddordeb sydd yna mewn ymchwil i’r Antarctig yng Ngwyddorau’r Ddaear a’r Môr yng Nghaerdydd. Yn dilyn fforio cynnar Scott dyma’n ffordd ni o ddangos i’r cyhoedd natur ymchwil i’r Antarctig a pha mor hanfodol ydyw i les ein planed yn y dyfodol, yn enwedig gyda golwg ar yr hyn mae’n ei ddweud wrthym ni am amgylcheddau eithafol a newid yn yr hinsawdd."

Dechreuodd y gyfres ar 12 Hydref gyda darlith gan yr Athro Tavi Murray, Prifysgol Abertawe. Bydd yn parhau ar 9 Tachwedd gyda Pa mor Wyrdd oedd Antarctica? gan yr Athro Jane Francis, Prifysgol Leeds.

Cynhelir pob darlith am 6:30pm yn Theatr Ddarlithio Wallace, Y Prif Adeilad, Prifysgol Caerdydd. Mae mynediad yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu’ch lle.

Dolenni cysylltiedig

Adnoddau